Disgwylir i gynlluniau i blannu coedwigoedd yn y du fod cyfwerth 芒 gyrru 14 biliwn yn llai o gilometrau
Mae yn dangos y rôl bwysig y gallai plannu coedwigoedd masnachol a chadwraeth newydd ei chwarae yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Gall cynlluniau i blannu 600,000 hectar yn y DU ddal yr hyn sy’n cyfateb i 0.5 i 1.7 biliwn kg o garbon deuocsid erbyn 2120 (cronnus). Mae hyn fwy neu lai yr un fath â gyrru hyd at 14 biliwn yn llai o gilometrau yn ystod yr un cyfnod.
Yn nodweddiadol, mae coedwigoedd masnachol wedi arwain at amsugno’r maint uchaf o garbon, gan fod disgwyl i gynhyrchion coed gymryd lle cynhyrchion sydd ag allyriadau uwch o sectorau eraill. Un dull newydd yn yr astudiaeth hon, gan Brifysgolion 香港六合彩挂牌资料 a Limerick a Llywodraeth British Columbia, oedd modelu economi gylchol lle mae coed adeiladu ar ddiwedd oes yn cael eu hailgylchu fel papur a phapur yn cael ei ailddefnyddio ar gyfer bio-ynni. Yr ail agwedd unigryw oedd derbyn bod sectorau eraill dan bwysau i leihau allyriadau o’u cynhyrchion hefyd, ac felly bydd manteision cymharol cynhyrchion coed yn gostwng yn y dyfodol.
“Ein nod oedd cynnal asesiad ôl troed carbon cynhwysfawr iawn sy'n ystyried cylch bywyd cyfan y carbon a amsugnir gan goed mewn coedwigoedd newydd” meddai Eilidh Forster, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 ac awdur arweiniol yr astudiaeth.
“Oherwydd na fydd y coedwigoedd hyn yn cael eu cynaeafu am 50 mlynedd arall, mae’r dull safonol o dderbyn technoleg gyfredol yn anghywir. Felly, gwnaethom ddefnyddio rhagamcaniadau o dechnoleg y dyfodol i gael gwell syniad o’r lliniaru tebygol ar newid yn yr hinsawdd yn y tymor hir gan goed wedi'u cynaeafu."
Agwedd allweddol ar y dechnoleg hon yw dal a storio carbon (CCS). Mae CCS yn echdynnu carbon deuocsid wrth gynhyrchu ynni ac yn ei gloi dan ddaear. Byddai hyn yn trawsnewid bio-ynni coed i fod yn “dechnoleg allyriadau negyddol” sy'n gallu tynnu carbon deuocsid o'r atmosffer yn y tymor hir.
Mae'r canlyniadau'n gwrthddweud astudiaethau diweddar sy'n awgrymu bod coedwigoedd masnachol yn gweithredu fel suddfan carbon deuocsid yn y tymor byr yn unig Yn wir, mae'r canlyniadau newydd hyn yn dangos y gallai coedwigoedd conwydd masnachol newydd yn y DU sicrhau hyd at 269% yn fwy o liniaru newid yn yr hinsawdd na choedwigoedd llydanddail lled-naturiol erbyn 2120.
“Mae coedwigoedd masnachol a chadwraeth yn dangos potensial ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd,” meddai Caren Dymond, cyd-awdur astudio ac ymchwilydd i Lywodraeth British Columbia.
“Bydd angen i benderfyniadau yngl欧n â phryd a lle i blannu coedwigoedd newydd ystyried anghenion ecolegol, cymdeithasol ac economaidd eang. Er enghraifft, byddai gwella bioamrywiaeth yn ffafrio cymysgedd o fathau o goedwigoedd, gan gynnwys coedwigoedd llydanddail sy'n tyfu'n arafach a ddim yn cael eu cynaeafu."
I gloi, dywedodd John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 a chyd-awdur yr astudiaeth:
“Nid oes rhaid cynaeafu coedwigoedd masnachol newydd yn y dyfodol. Felly, mae plannu coedwigoedd masnachol newydd yn ffordd hyblyg i gyfrannu at amcanion sefydlogi’r hinsawdd yn y tymor hir, ac mae'n sail gadarn i ragdybiaethau yn y dyfodol yngl欧n â chynnydd technolegol yn yr economi.”
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2021