Dod 芒 wystrys brodorol yn 么l i Fae Conwy
Mae 1,300 o wystrys brodorol wedi cael eu dychwelyd i ddyfroedd yr Afon Conwy fel rhan o broject adfer uchelgeisiol i ddod ag 'archarwyr y cefnfor' a oedd ar fin diflannu yn 么l. Nod y Wild Oysters Project, partneriaeth rhwng ZSL (Zoological Society of London), Blue Marine Foundation (BLUE) a British Marine yw ceisio adfer dyfroedd arfordirol iach, gwydn ledled y Deyrnas Unedig.
Mae wystyrys brodorol (Ostrea edulis) wedi ennill y teitl 'archarwyr y cefnfor', oherwydd eu bod yn gwneud lles mawr i ddyfroedd arfordirol trwy helpu i lanhau ein moroedd a gweithredu fel cynefin pwysig i fywyd gwyllt y m么r. Mae poblogaethau wystrys brodorol wedi gostwng 95% oherwydd gweithgareddau dynol, ac maent wedi bod yn gostwng ers yr 1800au, sy鈥檔 golygu bod eu budd i'r cefnfor wedi ei golli hefyd.
Mewn ymgais i adfer poblogaethau wystrys brodorol, a thrwy hynny adfer iechyd dyfroedd arfordirol, bydd meithrinfeydd sy'n llawn wystrys yn cael eu gosod o dan pontydd cychod ym marina Conwy a marina Deganwy yn Afon Conwy. Mae'r meithrinfeydd yn creu cynefin meicro sy'n gweithredu fel ward famolaeth i'r genhedlaeth nesaf o wystrys. Bydd yr wystrys hyn yn dechrau atgenhedlu dros yr ychydig fisoedd nesaf, gan ryddhau miliynau o wystrys bach, a elwir yn larfa, i'r cefnfor.
鈥淢ae Bae Conwy yn ardal gadwraeth arbennig ddynodedig gyda chynefinoedd tanddwr unigryw a phlanhigion morol a bywyd gwyllt pwysig, ac mae hyn yn ei wneud yn lleoliad perffaith i osod 1,300 o wystrys brodorol mewn meithrinfeydd wedi eu diogelu er mwyn helpu i鈥檙 cynefinoedd ffynnu.鈥
鈥淯nwaith bydd yr wystrys yn eu cartref newydd yn y marinas, bydd pob un ohonynt yn dechrau ar eu gwaith pwysig o hidlo 200 litr o dd诺r y dydd. Yn ystod y misoedd nesaf bydd yr wystrys yn dechrau cynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o wystrys, trwy ryddhau larfa a fydd wedyn yn cael ei gludo gan hydrodynameg y d诺r ac yn setlo ar wely'r m么r. Rydym yn gobeithio y bydd y project yn helpu i greu d诺r glanach, pysgodfeydd iachach ac yn gwella bioamrywiaeth forol Prydain鈥 meddai Celine Gamble, Rheolwr y Wild Oysters Project, ZSL.
Mae'r project wedi partneru'n lleol gydag Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, a bydd swyddog project lleol yn helpu i fonitro a gofalu am yr wystrys fel rhan o'r Wild Oysters Project.
鈥淩oedd poblogaethau wystrys brodorol, yn lleol i Fae Conwy yn yr Afon Menai ger Caernarfon a 香港六合彩挂牌资料, yn gyffredin iawn yn y 18fed a鈥檙 19eg ganrif, gyda chychod wystrys o Gymru yn dal 8,000 wystrys bob dydd. Rydym yn gwybod bod wystrys wedi ffynnu yn yr ardal leol ar un adeg, gan ffurfio rhan bwysig o'r ecosystem forol leol, ac yn awr mae gennym gyfle i adfer poblogaethau wystrys brodorol a fydd yn darparu gwasanaethau ecosystem pwysig."
鈥淒iolch i chwaraewyr y People's Postcode Lottery, rydym yn gobeithio gweld dyfroedd arfordirol iach, gwydn ym Mae Conwy a gwneud gwahaniaeth mawr i ddyfodol wystrys gwyllt. Wystrys yw archarwyr ein cefnforoedd,鈥 meddai Maria Hayden-Hughes, Swyddog Project Lleol y Wild Oysters Project.
Mae'r project, sydd ar waith ledled y Deyrnas Unedig, bellach wedi gosod 94 o 141 o feithrinfeydd o dan pontydd cychod mewn marinas ledled Cymru a gogledd ddwyrain Lloegr.
Meddai Laura Chow, pennaeth elusennau y People鈥檚 Postcode Lottery: 鈥淕an mai dim ond ychydig o boblogaethau wystrys brodorol sydd ar 么l yng Nghymru, mae rhyddhau wystrys brodorol i mewn i farinas Bae Conwy trwy鈥檙 project hwn yn garreg filltir enfawr, mae hyn wedi bod yn bosib oherwydd cefnogaeth chwaraewyr y People鈥檚 Postcode Lottery. Mae wystrys yn rhan bwysig o'n hecosystem a bydd y Wild Oysters Project yn cefnogi ein cefnforoedd ac hefyd yn helpu i addysgu a rhannu gwybodaeth am bwysigrwydd archarwyr y cefnfor gyda miloedd o wirfoddolwyr, disgyblion ysgol a myfyrwyr prifysgol, a grwpiau cymunedol lleol.鈥
Dyfarnwyd 拢1.18m i'r Wild Oysters Project, uchelgais tair blynedd, gan y Postcode Dream Trust. Mae'r Dream Fund, sy'n cael ei redeg gan y Postcode Dream Trust, yn rhoi cyfle i sefydliadau roi projectau uchelgeisiol, arloesol a chydweithredol ar waith.
Meddai Morven Robertson, uwch reolwr projectau BLUE yn y Deyrnas Unedig, 鈥淢ae'n hanfodol yn yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth rydym ynddo bod natur yn cael yr help sydd ei angen arni i ddod at ei hun. Bydd y Wild Oysters Project yn rhoi cyfle i'r amgylchedd morol wella, sydd nid yn unig yn bwysig i natur a'r hinsawdd, ond hefyd i'r bobl sy'n dibynnu arno.鈥
Meddai uwch swyddog y British Marine Environment, James Scott-Anderson; 鈥淢ae cael cyfranogiad uniongyrchol marinas fel rhan o鈥檙 project hwn yn galluogi鈥檙 diwydiant i fod yn fwy cynaliadwy, a chwarae rhan allweddol yn nyfodol ein cefnforoedd. Mae cael y safleoedd hyn yng Nghymru, gyda chyfranogiad y gymuned leol, yn rhan o'r bartneriaeth unigryw hon ac yn gam mawr ymlaen yn yr ymdrech i adfer wystrys brodorol yn y Deyrnas Unedig.鈥
Bydd y Wild Oysters Project yn gosod y 1,300 wystrys olaf yn yr Alban yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn parhau a鈥檙 ymdrech i adfer wystrys. Ewch i wild-oysters.org am ragor o wybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2021