Dydd barn i ymosodwyr morol
Gofynnir i wirfoddolwyr yng ngogledd Cymru helpu ymgyrch genedlaethol i dracio ymosodiad sy'n digwydd o gwmpas arfordir y DU.
Ers canrifoedd mae rhywogaethau morol wedi symud o gwmpas naill ai drwy deithio ar waelod llongau neu fel teithwyr cudd mewn d诺r balast. Mewn sawl achos, mae rhywogaethau wedi cael eu cyflwyno'n fwriadol at ddibenion masnachol.
Mae ymgyrch genedlaethol yn cael ei gynnal yn awr i gofnodi rhywogaethau morol anfrodorol er mwyn tracio i ba raddau y mae rhywogaethau morol anfrodorol yn bresennol ac i helpu gwyddonwyr i ddeall yr effaith y maent yn ei gael ar yr amgylchedd arfordirol.
Cynhelir yr ymgyrch 'ymosodwyr morol' rhwng 8 a 11 Medi 2017 fel rhan o'r project tair blynedd Capturing our Coast (CoCoast), dan arweiniad Prifysgol Newcastle a gyllidir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Meddai Dr Siobhan Vye, Swyddog Project CoCoast, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料: "Mae rhywogaethau morol anfrodorol yn anifeiliaid a gwymon sy'n cyrraedd ein glannau o rannau eraill o'r cefnforoedd. Weithiau, nid yw'r amodau yma ym moroedd y DU yn iawn i'r rhywogaethau anfrodorol aros, tyfu ac atgynhyrchu felly dim ond ffracsiwn o'r rhywogaethau sy'n symud o gwmpas sy'n sefydlu ar ein harfordiroedd.
"O'r rhywogaethau sy'n llwyddo, gall rhai cael effaith gadarnhaol - er enghraifft, gallant ddod yn ffynhonnell fwyd newydd i rywogaethau sydd eisoes yn bodoli a chynyddu bioamrywiaeth yr amgylchedd morol."
"Mae eraill yn ffynnu ychydig yn rhy dda a gallant fod yn bl芒u. Mae'r rhywogaethau anfrodorol ymledol hyn yn cystadlu am adnoddau ac yn cyflwyno clefydau newydd. Os gallwn fapio'r rhywogaethau anfrodorol sydd o amgylch ein harfordir, yna gallwn gael gwell dealltwriaeth o sut maent yn effeithio ar yr amgylchedd morol."
Un enghraifft o rywogaethau morol ymledol yng ngogledd Cymru yw'r gwymon, Sargassum muticum. Credir ei fod wedi cyrraedd dyfroedd y DU yn y 1960au ac erbyn hyn mae wedi ymledu cyn belled 芒'r Ynys Hir. Credir ei fod yn gyfrifol am adleoli rhywogaethau lleol trwy gymryd golau haul oddi wrthynt.
Rhywogaeth ymledol arall y mae'r ymgyrch Ymosodwyr Morol yn gofyn i bobl yng Nghymru chwilio amdanyn nhw yw'r cranc manegog Tsieina, y credir ei fod wedi'i gyflwyno gan longau yn gwagio eu d诺r balast ar 么l cyrraedd y porthladdoedd. Mae'r cranc yn frodorol i Tsieina a Korea, ond mae wedi ei weld yn y DU mewn lleoliadau mor wasgaredig ag aberoedd yr afon Tafwys a'r afon Clud. Lleisiwyd pryder ynghylch y cyflymder y mae'n ei sefydlu ei hun a'r difrod y gall ei achosi i rwydi pysgota a seilwaith.
Meddai Dr Nova Mieszkowska, Cymrawd Ymchwil Marine Biological Association of the UK: "Gall rhywogaethau nad ydynt yn rhai brodorol gael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar gymunedau morol lleol y maent yn eu goresgyn a'u cytrefu. Mae gennym lawer i'w ddysgu o hyd am sut mae rhywogaethau anfrodorol yn effeithio ar ecoleg ein glannau, a bydd yr ymgyrch hon yn helpu i lenwi'r bwlch hwn yn ein gwybodaeth."
Mae鈥檙 project 'Ymosodwyr Morol' yn agored i'r cyhoedd, o bob oed ac nid oes angen hyfforddiant arbennig i gymryd rhan. Gall cyfranogwyr ymweld 芒 gwefan CoCoast, lle ceir rhestr o gynefinoedd a rhywogaethau anfrodorol. Gall gwirfoddolwyr ddewis pa gynefinoedd i'w hymweld - traeth tywodlyd, glannau creigiog neu borthladdoedd ac aberoedd - a dewis pa rywogaethau i chwilio amdanynt. Bydd cerdyn adnabod ar gael i'w lawrlwytho, ei argraffu a'i gymryd i'r glannau i helpu wrth chwilio, dywed y t卯m CoCoast y dylai gymryd oddeutu 15 munud.
Gellir llwytho cofnodion i fyny i wefan Marine Invaders (www.mba.ac.uk/marineinvaders), a'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #marineinvaders.
Meddai Dave Bell, Cullercoats, gwirfoddolwr rheolaidd CoCoast, a fydd yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Ymosodwyr Morol: "Rwy'n cymryd rhan oherwydd fy mod yn pryderu am y cysylltiad rhwng y rhywogaethau ymledol 芒'r rhywogaethau lleol presennol."
Mae partneriaeth CoCoast yn cynnwys prifysgolion Hull, Portsmouth a 香港六合彩挂牌资料, y Scottish Association for Marine Science, Marine Biological Association y DU a'r Marine Conservation Society. Ynghyd ag Earthwatch Institute, y Natural History Museum, Northumberland Wildlife Trust, y Centre for Environment, Fisheries and Aquaculture Science (Cefas), a'r North West Coastal Forum.
I gofrestru a chael rhagor o wybodaeth am y project Capturing our Coast, ewch i www.capturingourcoast.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2017