Efallai nad yw prosiectau bywoliaeth a gynlluniwyd i ddigolledu pobl am gostau lleol cadwraeth yn methu 芒 chyrraedd y bobl gywir
Mae cydnabyddiaeth fod gwneud gwaith cadwraeth mewn coedwigoedd trofannol yn beth da: mae'r coedwigoedd hyn yn dal carbon gan leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd, mae ynddynt fioamrywiaeth nad yw i鈥檞 weld yn unman arall ar y ddaear ac maent yn dylanwadu ar argaeledd d诺r yn lleol. Fodd bynnag, gall cadwraeth hefyd gael effaith negyddol ar bobl leol. Mae ymchwil newydd yn dangos nad yw'r cynlluniau a gyflwynwyd i ddigolledu'r bobl dlotaf a鈥檙 mwyaf agored i niwed bob amser yn dod 芒 budd i'r bobl y bwriadwyd eu helpu.
Mae Ardaloedd Gwarchodedig wedi eu sefydlu mewn coedwigoedd trofannol ledled y byd er mwyn cydnabod eu pwysigrwydd o ran bioamrywiaeth ac mae rhagor yn cael eu sefydlu, yn unswydd er mwyn dal carbon er mwyn mynd i'r afael 芒 newid yn yr hinsawdd, trwy gyfrwng proses Lleihau Allyriadau o achos Digoedwigo a Diraddiad (REDD+). Fodd bynnag, mae'n hysbys iawn bellach y gall cadwraeth gael effaith negyddol yn ogystal ag effaith gadarnhaol ar bobl sy'n byw o amgylch ffiniau'r ardaloedd gwarchodedig, sydd, yn aml iawn, yn eithriadol o dlawd. Er enghraifft, os yw pobl leol yn ddibynnol ar y goedwig er mwyn amaethu a chynaeafu cynnyrch sy'n hanfodol i'w bywoliaeth, yna gall diogelu'r coedwigoedd arwain at galedi. Am y rheswm hwn, pan gaiff ardaloedd gwarchodedig newydd eu sefydlu gydag arian gan Fanc y Byd a chan rai cyfranwyr eraill, defnyddir proses i adnabod a digolledu'r bobl a fydd ar eu colled. Gelwir hyn yn ddiogelu cymdeithasol.
Mae t卯m o Brifysgol Antananarivo ym Madagascar ac o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi gwneud ymchwil manwl yn edrych ar sut y mae'r broses o ddiogelu cymdeithasol wedi cael ei gweithredu o amgylch ardal warchodedig newydd a sefydlwyd gyda chyllid Banc y Byd yng nghoedwig law ddwyreiniol Madagascar. Maent yn dangos nad yw'r broses o ddiogelu cymdeithasol wedi llwyddo i adnabod a chyrraedd pawb y mae effaith negyddol arnynt yn sgil sefydlu'r ardal warchodedig newydd.
Dywed Dr Mahesh Poudyal, Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料:
鈥淒ylai'r iawndal fod yn cyrraedd y bobl sy'n dioddef effeithiau mwyaf negyddol y gwaith cadwriaethol a dylai gynnwys pobl sy'n dlawd iawn neu bobl sy'n agored i niwed. Rydyn ni wedi gweld bod yr iawndal yn cyrraedd pobl sy'n haws eu cyrraedd mewn modd anghymesur, megis pobl sy'n byw yn agosach at ganolfannau gweinyddol lleol, sydd, i raddau, yn well eu byd ac sydd 芒 swyddi o awdurdod yn lleol. Tra na fydd hyn yn syndod i unrhyw un sy'n gyfarwydd 芒'r broblem gyffredin hon, sef bod yr elit yn cipio buddion prosiectau datblygu, rydym o'r farn fod y canfyddiad hwn yn arwyddocaol iawn, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn yn y broses fyd-eang o ddatblygu systemau diogelu ar gyfer prosiectau REDD+ newydd.鈥
Tra bod y gwaith yn edrych ar ardal warchodedig newydd yn nwyrain Madagascar, mae'r awduron yn credu bod perthnasedd ehangach i hyn. Dywed yr Athro Julia Jones o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料:
鈥淢ae osgoi effeithiau negyddol posibl ardaloedd gwarchodedig yn fater heriol iawn; mae'r rheiny sydd wedi eu heffeithio鈥檔 aml ar wasgar ac mae'n anodd eu cyrraedd. Fodd bynnag, mae angen gwelliannau'n amlwg i sicrhau nad yw rhai o bobl dlotaf y byd yn talu am gadwraeth, sydd 芒 manteision byd-eang鈥.
Dywed yr Athro Bruno Ramamonjisoa o Brifysgol Antananarivo:
鈥淢ae coedwigoedd Madagascar yn eithriadol o werthfawr a dylid eu gwarchod. Fodd bynnag, er mwyn i'r gwaith cadwriaethol lwyddo, mae angen cynnwys pobl leol ac mae angen cyfleoedd arnynt i gael budd o'r gwaith hwnnw yn hytrach na chael eu gwneud yn dlotach o'i herwydd.鈥
Mae'r gwaith hwn yn rhan o brosiect P4ges (www.p4ges.org) ac mae wedi ei ariannu gan raglen 'Ecosystem Services for Poverty Alleviation', Llywodraeth y Deyrnas Unedig (www.espa.ac.uk). Mae'r erthygl wedi ei chyhoeddi yn Global Environmental Change. Dyma ddolen i'r erthygl:
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2016