Eu dal yn y gwifrau: Y cynnydd mewn ffensys diogelwch ar ffiniau gwledydd yn gorfodi ailystyried strategaethau diogelu bywyd gwyllt yn Ewrasia
Mae rhwng 25,000 a 30,000 cilometr o ffensys gwifrau a waliau yn amgylchynu llawer o wledydd yn Nwyrain Ewrop a Chanolbarth Asia. Mae'r rhain yn lladd bywyd gwyllt sy'n mynd yn sownd ynddynt a hefyd yn rhwystro symudiadau bywyd gwyllt, gan gau rhywogaethau oddi wrth gynefinoedd tymhorol pwysig. Canlyniadau hir dymor hyn yw gostyngiad mewn poblogaethau bywyd gwyllt a gostyngiad yn eu gallu i ymateb i newid hinsawdd. Mae'r sefyllfa hon yn gorfodi ailfeddwl ynghylch strategaethau cadwraeth trawsffiniol.
Pan syrthiodd y Llen Haearn ddechrau'r 1990au roedd yn ymddangos bod byd di-ffiniau wedi cyrraedd. Yn ogystal 芒 hwyluso llif pobl, fe wnaeth y sefyllfa newydd hon alluogi bywyd gwyllt i symud ar draws ffiniau. Fe wnaeth strategaeth cydweithio trawsffiniol mewn cadwraeth bywyd gwyllt ymledu ar draws Ewrasia. Manteisiodd y syniad ar y ffiniau a oedd newydd eu hagor a'r gwell ysbryd o gydweithredu i ddatblygu cynlluniau i wledydd grynhoi eu hymdrechion a chydweithio i ddiogelu bywyd gwyllt ar raddfa enfawr.
"Ydi ffensys da yn gwneud cymdogion da?"
Fodd bynnag, yn dilyn 9/11 gwelwyd newid dramatig mewn geowleidyddiaeth yn dilyn dirywiad yn y sefyllfa ddiogelwch mewn llawer o wledydd. Mae llawer o wledydd wedi dechrau codi ffensys diogelwch newydd ar eu ffiniau i rwystro llif terfysgwyr, smyglwyr cyffuriau, byddinoedd tramor a ffoaduriaid. Mae ffensys a fodolai eisoes hefyd wedi cael eu hatgyfnerthu. Y canlyniad fu gostyngiad eithriadol yn hwylustod croesi ffiniau i fywyd gwyllt, yn ogystal 芒 phobl.
Roedd Dr Matt Hayward o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, Uwch Ddarlithydd mewn Cadwraeth ac un o brif awdurdodau'r byd ar effaith ffensys ar gadwraeth, yn un o 18 o ymchwilwyr o sefydliadau mewn 10 gwlad sydd wedi crynhoi eu profiadau ac adolygu data o amrywiol ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus i greu'r arolwg mwyaf cyfredol o ffensys ffiniau ar draws Ewrop, y Cawcasws a Chanolbarth Asia. Eu prif ddarganfyddiad oedd bod rhwng 25,000 a 30,000 cilometr o ffensys yn amgylchynu'r gwledydd yn y rhanbarth, a bod mwy yn cael eu hychwanegu drwy'r adeg. Mae ffensys tebyg hyd yn oed yn fwy cyffredin yn y Dwyrain Canol.
Effeithiau ar fywyd gwyllt
Mae'r ffensys hyn yn rhwystr mawr iawn i symudiad bywyd gwyllt, yn arbennig llysysyddion mawr ymfudol fel antelopiaid saiga, gaseliaid Mongolaidd, yr asyn gwyllt Asiaidd neu geirw coch, a hefyd anifeiliaid rheibus mawr fel yr arth frown, llewpardiaid yr eira a'r lyncs. Mae yna enghreifftiau o anifeiliaid yn marw ar 么l mynd yn sownd mewn gwifrau wrth geisio croesi. Fodd bynnag, mae problem lawer gwaeth yn digwydd pan mae ffensys yn rhwystro symudiadau anifeiliaid sy'n ceisio cyrraedd cynefinoedd tymhorol pwysig neu ddianc rhag tywydd gaeafol caled. Yn yr achosion gwaethaf, gall hyn achosi i nifer fawr o anifeiliaid farw o newyn. Ar y gorau, mae'n achosi i boblogaethau chwalu a gostyngiad yn eu hyfywedd tymor hir. Goblygiadau hyn yw bod angen i'r holl syniad o gadwraeth drawsffiniol gael ei ailystyried mewn rhai mannau, ac na ellir cymryd yn ganiataol allu bywyd gwyllt i groesi ffiniau.
"Mae ar y ffens sy'n gwneud cymdogion da angen gi芒t i wneud ffrindiau da" "
Diolch i'r drefn, mae yna nifer o fesurau a all liniaru'r effeithiau gwaethaf. Mae modd agor rhannau o ffensys ar adegau tymhorol pan mae nifer fawr o anifeiliaid ymfudol eisiau mynd drwodd. Hefyd mae'n bosibl gadael rhai rhannau strategol yn agored, a defnyddio mesurau diogelwch eraill i fonitro'r bylchau hyn. Ceir hefyd wahanol fathau o ffensys sy'n lleihau'r perygl i anifeiliaid fynd yn sownd ynddynt, a gallant hyd yn oed alluogi rhai rhywogaethau i fynd drwyddynt. I'r mesurau hyn fod yn effeithiol, mae angen i gadwriaethwyr bywyd gwyllt drafod ag asiantaethau llywodraethau sy'n gyfrifol am ddiogelwch ffiniau i geisio canfod mathau o ffensys a lleoliadau ffensys ffiniau sy'n lleihau cyn belled 芒 phosibl effeithiau niweidiol i'r amgylchedd. Yn ogystal mae yna angen am drafodaeth gyhoeddus agored ynghylch ffensys ffiniau er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau i'w codi wedi eu seilio ar ystyriaeth lawn o gostau a manteision ffensys o'u cymharu 芒 strategaethau posibl eraill.
Cyhoeddwyd y papur, Border security fencing and wildlife: the end of the transboundary paradigm in Eurasia? yn .
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2016