Ffisegydd o Fangor ymysg arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd fydd yn trafod effaith diflaniad rhew m么r yn yr Arctig ar yr hinsawdd
Mae ffisegydd eigion o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, yr Athro Tom Rippeth, yn un o 12 o wyddonwyr rhyngwladol sydd wedi cael eu gwahodd i siarad mewn gweithdy a drefnwyd gan Bwyllgor Rhyngwladol Gwyddoniaeth yr Arctig i drafod effaith diflaniad llwyr rhew m么r yr Arctig yn yr haf yn y dyfodol.
Mae tymheredd rhanbarth yr Arctig wedi codi fwy na dwywaith yn gyflymach na'r tymheredd cyfartalog ar draws y byd. Un ffactor sydd wedi cyfrannu at y cynhesu cyflym fu'r ffaith bod y rhew sy'n yn gorchuddio Cefnfor yr Arctig wedi bod yn toddi mewn modd trawiadol bob haf. Er y gall Cefnfor yr Arctig ymddangos yn bell iawn o wareiddiad credir bod yr hyn sy'n digwydd yno'n effeithio ar batrymau hinsawdd a thywydd yn hemisffer y gogledd.
Mae gwyddonwyr yn cofnodi lefelau rhew m么r is nag erioed o'r blaen yn yr haf. Yn haf 2014 cafwyd yr arwynebedd rhew chweched leiaf ers dechrau cofnodion. Cofnodwyd yr arwynebeddau rhew m么r lleiaf i gyd yn ystod yr wyth haf diwethaf. Mae'r ffaith bod arwynebedd rhew'r m么r yn crebachu'n gyflym yn yr haf yn cael ei gyfrif yn un ffactor sydd wedi achosi'r tywydd eithafol sydd wedi digwydd yn fwy aml ar draws hydredau canol Hemisffer y Gogledd yn y blynyddoedd diweddar. Mae'r newid hwn yn y patrymau yn cynnwys y gyfres o hafau gwlyb (2007-2012) a gaeafau garw (2009-2011, 2013-14) na welwyd eu tebyg ers cyn co' yn y DU.
Bydd y gweithdy a gynhelir yn y sefydliad byd-enwog, Woods Hole Oceanographic Institution ( add actual date of event here ) yn cynnull ynghyd arbenigwyr ar Gefnfor yr Arctig o sawl ran o'r byd i edrych ar effeithiau posib diflaniad llwyr rhew m么r yn yr haf, a allai ddigwydd mewn degawdau'n unig o gadw mewn cof y crebachu diweddar a welwyd yn arwynebedd rhew'r m么r.
Mae'r Athro Rippeth yn rifysgol yn egluro:
"Mae cefnfor yr Arctig yn dawel iawn o'i gymharu 芒 gweddill cefnforoedd y byd. Mae hyn yn rhannol oherwydd y rhew sy'n gorchuddio'r m么r ac yn ei amddiffyn rhag effeithiau'r gwyntoedd sy'n chwythu ar draws yr wyneb. Y pryder mawr yw y bydd diflaniad y rhew yn gwneud y m么r yn fwy tymhestlog, a fydd yn ei dro'n effeithio ar yr hyn fydd yn digwydd i'r d诺r croyw a'r gwres o fewn cefnfor yr Arctig ac yn newid y cerhyntau sy'n cysylltu Cefnfor yr Arctig 芒 Chefnfor yr Iwerydd. Gallai diflaniad Rhew M么r yr Arctig effeithio, er enghraifft, ar brif gerhyntau M么r yr Iwerydd megis Llif y Gwlff."
Amcan y gweithdy yw nodi blaenoriaethau ymchwil i'r dyfodol fydd yn ein galluogi i ragfynegi'n well effaith dirywiad, ac yn y pen draw, diflaniad, rhew m么r yr Arctig, yn y dyfodol."
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2014