Fframwaith gwyddonol newydd i gynllunio cadwraeth coedwigoedd sych yn America drofannol
Mae coedwigoedd sych yn Ne America ymysg y coedwigoedd trofannol sydd dan fygythiad fwyaf yn y byd. Mewn llawer o wledydd dim ond tua 10% o'r coedwigoedd hyn sydd ar 么l, sy'n llawer llai na llawer o goedwigoedd glaw, megis Amazonia, lle mae oddeutu 80% yn sefyll. Coedwigoedd sych oedd crud y diwylliant brodorol cyn-Ewropeaidd yn Ne America, ac maent yn ffynhonnell cnydau sydd o bwys byd-eang, megis india-corn, ffa, cnau daear a thomatos. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn a'r dinistr enbyd a wnaed iddynt, maent wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth gan wyddonwyr a chadwraethwyr.
Mae The Latin American Seasonally Dry Tropical Forest Floristic Network () wedi datblygu cronfa ddata hollol newydd o rywogaethau coed o'r coedwigoedd sych, wedi ei seilio ar restrau a luniwyd yn 1602 ar draws De America a'r Carib卯. Cyllidwyd y gwaith hwn drwy grant gan Rwydwaith Rhyngwladol Ymddiriedolaeth Leverhulme ac mae'n cynnwys dros 50 o wyddonwyr a chadwraethwyr o Dde America a'r Carib卯 dan arweiniad y Royal Botanic Garden yng Nghaeredin.
Yn y , sydd yn cael sylw ar glawr i rhifyn gyfredol o鈥檙 cyfnodolyn Sicence, mae'r gr诺p yn dangos bod y coedwigoedd sych hyn yn cynnwys y nifer rhyfeddol o 6958 o rywogaethau o blanhigion coediog. Mae eu data'n dangos bod llawer o'r rhywogaethau hyn i'w cael ond mewn un rhanbarth yn unig o'r coedwigoedd sych hyn. Mae hyn yn rhoi neges glir bod yn rhaid gweithredu rhag blaen i amddiffyn holl amrywiaeth y coedwigoedd sych os yw'r gwahanol rywogaethau hyn i gael eu diogelu a'u cadw. O ystyried y ceir hinsoddau cynhesach mae'n fwy na thebyg yn y trofannau, dylai cadwraeth rhywogaethau unigryw y coedwigoedd sych, sy'n ymaddasu mewn gwahanol ffyrdd i wres a sychder, gael blaenoriaeth fyd-eang.
Mae canlyniadau DRYFLOR yn rhoi fframwaith gwyddonol sydd, am y tro cyntaf, yn galluogi gwneuthurwyr penderfyniadau cenedlaethol i weld arwyddoc芒d a phwysigrwydd eu coedwigoedd sych ar raddfa ranbarthol a chyfandirol.
Meddai'r Athro Morag McDonald, Pennaeth Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, ac un o'r rhai a gyfrannodd at y papur: "Mae coedwigoedd trofannol sych wedi cael eu hesgeuluso ers amser maith o ran ymchwil a chadwraeth o'u cymharu 芒'r coedwigoedd glaw mwy eiconig. Mae'r gwaith hwn yn dangos yn union pa mor bwysig yw coedwigoedd sych ar gyfer bioamrywiaeth, ac o ystyried pa mor wasgaredig ydynt mewn tirweddau trofannol, mae'n rhaid gwneud llawer mwy i roi sylw cadwriaethol priodol iddynt."
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2016