Gall dulliau ymchwil sy'n dod o hyd i droseddwyr cyfresol helpu i arbed teigrod
Gallai offeryn proffilio daearyddol a ddefnyddir i ddal troseddwyr cyfresol helpu i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu gan deigrod, yn ôl gwyddonwyr a fu'n cydweithio ar astudiaeth ymchwil cadwraeth arloesol.
Mae canlyniadau eu hymchwil, a gyhoeddwyd yn , yn helpu i egluro sut mae pentrefwyr yn Sumatra yn cyd-fyw â theigrod. Pe byddai wedi cael ei ddefnyddio o flaen llaw gallai fod wedi helpu i dorri’r nifer o ymosodiadau yn ei hanner, gan arbed teigrod rhag potswyr a rhag eu lladd er mwyn dial.
Bu Dr Matthew Struebig o Brifysgol Caint a Dr Freya St. John o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, yn arwain project cydweithredol rhwng ecolegwyr gofodol a gwyddonwyr cymdeithasol i helpu i ragfynegi lle gallai ymyriadau i leihau gwrthdaro rhwng pobl a theigrod fod yn fwyaf effeithiol.
Mae teigrod ar fin mynd i ddifodiant oherwydd datgoedwigo ac erledigaeth. Maent dan fygythiad mawr ac yn fygythiad i’r cyhoedd, ond mae teigrod Sumatra yn parhau i gydfyw â phobl, sy’n cynnig syniadau ar gyfer rheoli bywyd gwyllt peryglus mewn mannau eraill. Caiff miliynau o gyllid cadwraeth ei wario’n flynyddol i geisio lleihau'r risg bod pobl yn dod wyneb yn wyneb ag anifeiliaid niweidiol, a lliniaru colledion da byw ffermwyr lleol.
Er mwyn datgelu'r ffactorau sy'n sbarduno’r gwrthdaro rhwng y teigrod a'r cyhoedd, fe wnaeth y tîm gyfuno dadansoddiadau gofodol o'r risg o ddod ar draws teigr â gwybodaeth gan 2,386 o bobl Sumatra, a holwyd am eu goddefgarwch at fywyd gwyllt. Er mwyn mapio’r risg, defnyddiodd yr astudiaeth 13 blynedd o gofnodion o gyfarfyddiadau rhwng pobl a theigrod i greu proffil daearyddol – sef techneg ystadegol soffistigedig a ddefnyddid cynt ledled y byd i ragfynegi lleoliad troseddwyr cyfresol ar sail lleoliad eu troseddau.
Er bod y risg o wynebu teigr yn uwch fel rheol o amgylch pentrefi poblog ger coedwigoedd neu afonydd, datgelodd y proffil daearyddol dri man lle'r oedd y risg yn arbennig o uchel. Ar yr un pryd datgelodd holiaduron fod goddefgarwch pobl at deigrod yn gysylltiedig â'u hagweddau, eu hemosiynau, eu normau a’u credoau ysbrydol.
Trwy gyfuno'r wybodaeth hon, llwyddodd y tîm i dynnu sylw at bentrefi lle'r oedd y risg o niwed yn arbennig o uchel, a’r goddefgarwch yn anarferol o isel – canllawiau gwerthfawr i sefydliadau megis , elusen gadwraeth ryngwladol sy'n cefnogi awdurdodau Indonesia a phartneriaid eraill yn Swmatra, gan eu helpu i flaenoriaethu ymyriadau gwrthdaro.
Mae'r technegau a ddefnyddir yn yr astudiaeth hon yn arwyddocaol iawn ac maent yn agor posibiliadau newydd ar gyfer camau gweithredu mwy penodol a fydd nid yn unig yn hybu effeithlonrwydd, ond - yn bwysicach - yn sicrhau bod llai o bobl a theigrod yn cael niwed o ganlyniad i gyfarfyddiadau rhyngddynt. Mae'r ymchwil hon wedi dangos, er enghraifft, pe bai'r wybodaeth hon wedi bod ar gael ar y pryd, y gallai ymyriadau rhagataliol gan ddefnyddio'r rhagfynegiadau hyn fod wedi osgoi 51% o ymosodiadau ar dda byw a phobl, gan arbed o bosib, 15 teigr.
Dywedodd Dr Struebig: "Mae deall goddefgarwch pobl yn allweddol i reoli rhywogaethau peryglus ac mae'n arbennig o bwysig yn achos teigrod. Mae cyfuno gwybodaeth am oddefgarwch pobl at fywyd gwyllt â'n mapiau o'r risg o ddod ar draws teigr, yn ein helpu i gyfeirio adnoddau cadwraeth i'r mannau lle mae eu hangen fwyaf. Gallai hyn olygu arbed costau sylweddol o ran colli anifeiliaid neu wario arian, felly gallai fod yn ddefnyddiol iawn o ran cadwraeth."
Mae’r ymchwil a gyhoeddwyd yn Nature Communications, hefyd yn darparu tystiolaeth bellach o fanteision ymchwil ryngddisgyblaethol i wrthdrawiadau cadwraeth o'r fath.
gan Matthew Struebig, Nicolas Deere, a Jeanne McKay, Prifysgol Caint; Matthew Linkie, Cymdeithas Cadwraeth Bywyd Gwyllt Indonesia; Betty Millyanawati, Fauna & Flora International Indonesia; Fachruddin Mangunjaya, Universitas Nasional Indonesia; Sally Faulkner a Steven Le Comber, Queen Mary University of London; Nigel Leader-Williams, Prifysgol Caergrawnt; a Freya St. John, Prifysgol Caint a Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2018