Gall gwyddonwyr nawr ragweld arferion bwydo cwrel o'r gofod
Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod cwrel trofannol sy'n byw mewn dyfroedd mwy cynhyrchiol yn manteisio ar y cynnydd mewn bwyd sydd ar gael ac y gellir rhagweld yr arferion bwydo hyn o loerennau sy'n troi o gwmpas ein planed.
Mae gwaith newydd ( ) yn dangos bod cwrelau sy'n byw mewn dyfroedd sy'n cynnwys mwy o ffytoplancton yn dibynnu llai ar gael egni o ffotosynthesis trwy eu alg芒u symbiotig ac, yn hytrach, yn cael mwy o'u hegni drwy fwydo ar blancton a micro-organebau eraill. Gallai hyn olygu y gall y rhannau hynny o riffiau sy'n cynnwys llawer o ffytoplancton fod yn fwy gwydn i wrthsefyll digwyddiadau fel cannu cwrel, gan fod gan y cwrel ffynhonnell fwyd arall fwy digonol.
Fe wnaeth yr ymchwilwyr gysylltu arferion bwydo riffiau cwrel ynghanol y M么r Tawel i raddfeydd ffytoplancton - a fesurwyd gan ddefnyddio lloeren sy'n olrhain lliw y m么r. Yna fe wnaethant brofi pa mor dda roedd eu model yn gweithio trwy gymryd data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar arferion bwydo cwrel ar draws nifer o gefnforoedd a dangos y gallent eu rhagweld yn gywir gan ddefnyddio eu model sy'n cael ei yrru gan loeren.
Meddai Dr Gareth Williams, Darllenydd (Athro Cysylltiol) mewn Bioleg M么r yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, a weithiodd ar yr ymchwil:
"Roeddem eisiau datblygu dull a fyddai'n galluogi i bobl amcangyfrif arferion bwydo cwrel ar gyfer eu system r卯ff dros ardaloedd eang heb orfod casglu samplau cwrel a mesur lefelau ffytoplancton eu hunain, felly fe wnaethom droi at dechnoleg lloerennau i'n helpu ni. Fe wnaethom sylweddoli y gallem ragweld arferion bwydo cwrel yn gywir ar draws nifer o raddfeydd gan ddefnyddio amcangyfrifon a geir o loerennau. Gallwn ragweld arferion bwydo cwrel yn effeithiol o'r gofod. "
Mae faint a beth mae cwrel yn ei fwyta wedi bod yn fwlch gwybodaeth allweddol bwysig ym maes bioleg cwrel. Mae'r wybodaeth yn hanfodol i ddeall sut mae cwrel yn debygol o barhau mewn m么r sy'n cynhesu.
鈥淕all bwydo hefyd gynyddu gallu cwrel i atgynhyrchu, sy'n allweddol i ail-boblogi riffiau lle mae llawer o gwrel wedi marw,鈥 meddai Michael Fox, y myfyriwr 么l-radd o'r Scripps Institution of Oceanography yn University of California San Diego, a arweiniodd yr ymchwil a gyhoeddwyd yn Current Biology ar 18 Hydref.
"Yr hyn sydd gennym yn awr yw map o riffiau cwrel sy'n fwy gwydn o bosib. Os yw'r cwrel hyn yn dibynnu mwy ar fwyd planctonig, efallai y gallant ddod dros achosion o gannu cwrel yn gyflymach," ychwanegodd.
"Ein hastudiaeth yw'r gyntaf i edrych tu allan i'r labordy i ddeall sut mae cwrel yn bwydo, a dangos bod patrymau byd-eang o fwyd sydd ar gael yn debygol o ddylanwadu ar iechyd a gwytnwch poblogaethau cwrel ledled y byd," meddai Jen Smith, Athro Bioleg M么r yn Scripps a chyd-awdur yr astudiaeth.
"Mae'n gyffrous i wybod bod gan gwrel lawer mwy o hyblygrwydd o ran bwyd nag yr oeddem yn ei feddwl o'r blaen a gallai'r hyblygrwydd hwn eu helpu i oroesi'r storm newid hinsawdd sy'n ymddangos yn anochel. "
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2018