Gall ymdrechion gan gwmnïau mawr i ddiogelu bioamrywiaeth helpu neu niweidio pobl leol?
Pan fydd datblygiad diwydiannol mawr, fel mwyngloddiau, yn mynd i gael effaith anochel ar fioamrywiaeth, gall y cwmni fuddsoddi mewn diogelu (neu hyd yn oed creu) cynefin yn rhywle arall i wneud iawn. Gelwir hyn yn gwrthbwyso bioamrywiaeth ac mae'n syniad sy'n ennill cefnogaeth gynyddol. Er enghraifft yn 2010, cytunodd y partïon oedd yn rhan o'r i hyrwyddo gwrthbwyso bioamrywiaeth fel dull i fusnesau ymwneud â materion bioamrywiaeth a chymeradwyodd yr yng Nghyngres y Byd yn 2016. Mae'r rhai sy'n cefnogi gwrthbwyso bioamrywiaeth yn dadlau eu bod yn caniatáu diwydiannau sy'n bwysig i'r economi mewn mannau bioamrywiaeth (yn aml yn dod â datblygiadau sydd eu hangen) ac yn cael 'dim colled net' neu hyd yn oed yn arwain at 'gynnydd cadarnhaol net' mewn bioamrywiaeth. Fodd bynnag, mae'n bwnc llosg gan fod rhai yn gweld gwrthbwyso bioamrywiaeth fel ffordd o gyfreithloni dinistr amgylcheddol.
Mae gwaith diweddar a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn yn edrych ar agwedd ar wrthbwyso bioamrywiaeth a anwybyddwyd yn flaenorol sef yr effeithiau ar bobl leol. Mae'r ymchwilwyr yn defnyddio'r astudiaeth achos am fwynglawdd Ambatovy ym Madagascar (mwynglawdd nicel mwyaf y byd, y buddsoddiad fwyaf erioed ym Madagascar a chwmni sy'n arwain y ffordd mewn datblygu gwrthbwyso bioamrywiaeth). Mae'r ymchwil yn dangos y gall projectau gwrthbwyso (trwy gyflwyno a gorfodi cyfyngiadau cadwraeth) gael effeithiau negyddol sylweddol iawn ar bobl leol o ran mesurau tlodi safonol yn ogystal ag agweddau mwy goddrychol o’u lles. Mae projectau datblygu a gyflwynwyd gan y mwynglawdd i wrthbwyso costau cyfyngiadau cadwraeth yn lleol wedi cael eu croesawu ond nid ydynt yn digolledu'r costau lleol ac nid ydynt yn cyrraedd y rhai sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan y cyfyngiadau cadwraeth.
Meddai Dr Cecile Bidaud, awdur arweiniol yr ymchwil “Mae digolledu annigonol am gostau gwirioneddol cadwraeth yn bwysig o safbwynt cyfiawnder amgylcheddol (pam y dylai'r bobl dlotaf dalu'r costau er mwyn caniatáu datblygiad fydd ddim yn dinistrio bioamrywiaeth o werth byd-eang?). Mae hefyd yn bwysig oherwydd os nad yw pobl yn cael y cymorth maent ei angen i ddatblygu dewisiadau eraill i'w ffordd o fyw presennol, ni fydd y gadwraeth yn gynaliadwy."
Mae Dr Patrick Ranjatson o Brifysgol Antananarivo yn credu nad yw Malagasiaid gwledig a effeithir gan y projectau gwrthbwyso bioamrywiaeth hyn yn cael eu hystyried yn iawn gan lunwyr penderfyniadau cenedlaethol a rhyngwladol. "Mae'r bobl sy'n byw o amgylch y safleoedd gwrthbwyso bioamrywiaeth hyn yn dlawd iawn ond nid oes ganddynt lawer o lais yn wleidyddol, felly nid yw eu hanghenion a'u pryderon yn cael y sylw maent yn ei haeddu."
Ond ar adeg pan fo yn lledaenu mewn nifer o ardaloedd a ddiogelir ym Madagascar, mae agwedd gadarnhaol ymhlith y tîm y gall materion fel y rhai y tynnir sylw atynt yn y papur gael eu datrys.
Dywedodd yr Athro Julia Jones o Ysgol yr Amgylchedd, Gwyddorau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, a oedd hefyd yn gysylltiedig â'r ymchwil: “Mae angen i Madagascar allu defnyddio ei chyfoeth mwynol i ddatblygu, ac mae mwyngloddiau sydd wedi eu rheoleiddio'n dda lle caiff trethi eu talu yn llawer gwella na'r ‘rhai brys’ anghyfreithlon niweidiol. Rwy'n obeithiol y gall y diwydiant mwyngloddio ddefnyddio canlyniadau'r astudiaeth hon i leihau'r effeithiau negyddol ar bobl leol o gwmpas eu safleoedd gwrthbwyso bioamrywiaeth. Mae hyn yn sicr yn bosibl - mae eu projectau datblygu yn eithaf effeithiol yn gyffredinol. Ond ar hyn o bryd maent yn rhy ychydig, yn rhy hwyr ac o fudd i rhy ychydig."
Ariannwyd yr ymchwil hwn gan y rhaglen (NERC/ESRC/DFID) fel rhan o'r project (Gall talu am wasanaethau ecosystem byd-eang leihau tlodi).
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2017