Gleiderau tanddwr yn helpu gwella rhagolygon y tywydd
Bydd dulliau newydd o fesur y modd mae dyfroedd yn cymysgu o dan wyneb Cefnfor yr Iwerydd yn cael eu defnyddio i wella rhagolygon y tywydd.
Mesurwyd tyrfedd y dŵr gan 'gleider' tanddwr a chyhoeddir canlyniadau'r ymchwil, dan arweiniad Natasha Lucas, ymchwilydd ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, mewn erthygl cyfnodolyn.
Gwres a anfonir i'r atmosffer gan y môr sy'n penderfynu ar ein tywydd i raddau helaeth. Er mwyn gallu gwneud rhagolygon tywydd tymhorol dibynadwy, mae'n hanfodol gallu rhagweld yn gywir faint o wres a drosglwyddir o'r môr i'r awyrgylch.
Proses allweddol wrth benderfynu ar faint o wres a drosglwyddir yw ‘Langmuir circulation’, neu resi gwynt, a welir yn aml mewn llynnoedd ac yn y môr mewn tywydd gwyntog.
Wrth sôn am y gwaith, meddai'r prif awdur Natasha Lucas, o Ysgol Gwyddorau'r Eigion, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ:
“Rydym yn amau ers tro bod prosesau Langmuir yn bwysig wrth fesur cyfnewid gwres rhwng y môr a’r awyrgylch. Ond er mwyn cynrychioli'r prosesau hyn yn gywir, roedd rhaid i ni allu mesur y tyrfedd yn agos at wyneb y môr.
Mae'r datblygiad diweddar o gleiderau tanddwr, sy'n galluogi i ni fesur y tyrfedd, wedi ein galluogi i fesur ger yr wyneb.
Yn yr erthygl newydd hon, rydym yn adrodd ar gyfres o fesuriadau a wnaed yng nghanol Cefnfor yr Iwerydd yn ystod storm yn yr hydref. Yna bu i ni ddefnyddio'r mesuriadau hyn i ddatblygu model o'r prosesau allweddol a fydd yn awr yn cael eu cynnwys ym modelau rhagolygon tywydd y Swyddfa Dywydd i wella rhagolygon tywydd tymhorol."
Yr Athro Stephen Belcher. Meddai'r Prif Wyddonydd yn y Swyddfa Dywydd a chyd-awdur y papur:
“Mae sicrhau bod y rhyngweithio rhwng yr awyrgylch a'r cefnforoedd yn gywir yn bwysig i bopeth y mae'r Swyddfa Dywydd yn ei wneud, o ragolygon y tywydd i ragamcaniadau o'r hinsawdd. Mae'r gwaith hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio yn systemau rhagolygon y Swyddfa Dywydd, a dylem allu gweld manteision hynny'n fuan."
Cyhoeddir yr erthygl, sy'n gydweithrediad rhwng eigionegwyr ffisegol ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a'r Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, a mesuregwyr ym Mhrifysgol Reading a'r Swyddfa Dywydd, yn rhifyn mis Tachwedd o gyfnodolyn yr American Meterological Society, y Journal of Physical Oceanography.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2019