Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yn arwain y DU wrth sicrhau ynni glân
Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yw'r ardaloedd allweddol ar gyfer datblygu ymchwil a pheirianneg niwclear yn y DU, yn ôl adroddiad Archwilio a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd heddiw.
Dengys yr adroddiad nad oes gan unman arall yn Ewrop y fath arbenigedd niwclear, gyda mynediad heb ei ail i sgiliau byd-enwog ac arbenigedd arloesol mewn ymchwil a datblygu niwclear.
Mae ardal gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, a elwir yn 'Arc Niwclear y Gogledd Orllewin' yn un o ychydig o ranbarthau yn y byd gyda diwydiant niwclear sy'n cwmpasu'r cylch bywyd llawn, a hefyd gyda'r sefydliadau a'r arbenigedd i fynd i'r afael â llawer o'r heriau a nodwyd wrth sicrhau ynni glân diogel.
Mae'r adroddiad yn dangos bod dros 20 o gyfleusterau yn darparu cefnogaeth ymchwil i weithgarwch academaidd a diwydiannol yn y rhanbarth, gan gynnwys labordai prifysgolion, y National Nuclear Users Facilities (NNUF), Labordy Niwclear Genedlaethol (NNL), cyfleusterau preifat a phartneriaethau cyhoeddus-preifat.
Ar hyn o bryd mae dros 235 o gwmnïau yn y diwydiant niwclear yn yr ardal sy'n cyfrannu dros £5biliwn i economi'r DU, ac mae gan yr ardal fynediad heb ei ail i sylfaen sgiliau byd-enwog ac arbenigedd arloesol mewn ymchwil a datblygu niwclear.
Fodd bynnag, mae gweithlu niwclear yr ardal yn heneiddio, ac mae'r Asesiad Gweithlu Niwclear yn rhagweld y gallai fod â phrinder o hyd at 40,000 o weithwyr erbyn 2036.
Er mwyn mynd i'r afael â materion y gweithlu, mae Arc Niwclear Gogledd Orllewin Gogledd Cymru yn gartref unigryw i 15 o ddarparwyr sgiliau niwclear, Addysg Uwch ac Addysg Bellach, sy'n gallu darparu hyfforddiant arbenigol ar draws yr ystod lawn o lefelau sgiliau, ac mae ganddi eisoes raglenni hyfforddiant Canolfan Doethuriaeth (CDT) sy'n gallu cefnogi datblygiad arbenigwyr yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn un o 'Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesi' yr Adran Busnes, Ynni a Diwydiannol sy'n dadansoddi cryfderau rhanbarthol, ac yn nodi mecanweithiau i wireddu eu potensial.
Roedd y consortiwm a ddatblygodd yr adroddiad yn cynnwys Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Niwclear Dalton (Prifysgol Manceinion) a'r Labordy Niwclear Genedlaethol yn yr achos cyntaf.
Roedd sylw’r Archwiliad ar gryfderau a galluoedd ynni niwclear sifil, yng Ngogledd Lloegr a Gogledd Cymru, gydag estyniad dwyreiniol yn Sheffield a Leeds.
Dywedodd y Fonesig Sue Ion, a roddodd y rhagair ar gyfer yr Archwiliad: "Mae'n tynnu sylw at yr asedau gwyddoniaeth ac arloesi sy'n fyd-eang yn yr ardal, gyda chyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf a sefydliadau rhyngwladol enwog, ac yn nodi'r prif gyfraniad economaidd y mae'r diwydiant niwclear yn ei wneud."
Gweledigaeth y consortiwm yw ei bod yn bosib ail-ffurfio’r sector niwclear i gael gostyngiad o 30% mewn cost ac amser heb gyfaddawdu diogelwch, a bod NWNA mewn safle unigryw i wneud y mwyaf o’r cyfle i’r DU.
Meddai'r Athro Sian Hope OBE o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a fu'n arwain ar sylwadau Archwiliad Arcau Niwclear y Gogledd Orllewin: "Dyma'r unig ardal yn y DU gyda’r fath ystod eang o alluoedd, gyda phob elfen o'r cylch tanwydd niwclear sifil, gan gynnwys dadgomisiynu a glanhau, cyfoethogi wraniwm, gwneuthuriad tanwydd, adweithyddion gweithredol ac mae hefyd yn faes mawr ar gyfer adweithyddion modiwlaidd bach ac uwch ‘First of a Kind’."
"Mae ganddo bresenoldeb diwydiannol pwerus yn y rhanbarth, ochr yn ochr â phrifysgolion, colegau a sefydliadau ymchwil cryf, gan weithio mewn partneriaethau agos a chynhyrchiol a all helpu i gyflawni canlyniadau sylweddol i'r economi ranbarthol a'r DU."
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi bod yn rhan o dri Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi sy'n adlewyrchu'r gweithgareddau ymchwil ac arloesedd o'r radd flaenaf sy'n cael eu cynnal yn y brifysgol, ac mae mewn sefyllfa dda i gyfrannu at Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.
Y tri Archwiliad y mae Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn ymwneud â nhw yw:
- Consortiwm Arc Niwclear Gogledd Orllewin Lloegr (dan arweiniad Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ gyda chymorth Llywodraeth Cymru, Sefydliad Niwclear Dalton, NNL ac LEPs Gogledd Orllewin Lloegr)
- Partneriaeth Arc Arfordir Gogledd Orllewin Lloegr ar gyfer Twf Glân a Chynaliadwy (dan arweiniad Prifysgol Lancaster gyda chymorth gan LEPs Gogledd Orllewin Lloegr a Llywodraeth Cymru)
- Crwsibl De Cymru (dan arweiniad Prifysgol Abertawe)
Mae ymrwymiad y Brifysgol i ddefnyddio ei galluoedd ym maes ymchwil a datblygu i gefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol yn cael ei arddangos ymhellach gyda’i rôl allweddol ym Margen Twf Gogledd Cymru gwerth £240m sydd i'w hariannu gan Lywodraethau Cymru a'r DU ac a arweinir gan y chwe Awdurdod Unedol yng Ngogledd Cymru.
Gellir gweld yr adroddiad llawn yn:
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2019