Gorsaf Ymchwil Prifysgol yn cael ymweliad brenhinol
Daeth y Dywysoges Frenhinol i ymweld 芒 gorsaf ymchwil Henfaes Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn Abergwyngregyn heddiw (Gwener, 27 Chwefror 2015).
Yn cadw cwmni i'r Dywysoges Anne, y Dywysoges Frenhinol, ar yr ymweliad oedd Arglwydd Raglaw Gwynedd, Mr Edmund Seymour Bailey, a gwelodd nhw beth o'r gwaith ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud yn y ganolfan ymchwil.
Mae Gorsaf Ymchwil Henfaes wedi'i lleoli ar lefel y m么r yn Abergwyngregyn ond mae ei thir yn mynd i fyny i fynyddoedd y Carneddau yn Eryri, gan alluogi staff, myfyrwyr a sefydliadau eraill i gynnal ystod eang o brojectau ymchwil ar wahanol fathau o dir.
Gwelodd y Dywysoges Frenhinol enghreifftiau o'r mathau o ymchwil allweddol sy'n cael ei gwneud gan Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth y Brifysgol, sy'n rheoli Gorsaf Ymchwil Henfaes.
Clywodd y Dywysoges Frenhinol am waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn Henfaes i benderfynu sut i gynyddu cynhyrchiant systemau defaid ar yr ucheldir gan sicrhau manteision amgylcheddol, megis storio carbon a d诺r, yr un pryd. Gwneir y gwaith hwn fel rhan o ymchwil a gyllidir gan 'raglen dwysau cynaliadwy' Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Mae'r Orsaf Ymchwil yn un o ddim ond pump o ffermydd astudio ym Mhrydain sy'n rhan o'r rhaglen, a hon yw'r ganolfan lle'r edrychir ar faterion yn ymwneud 芒 thir uchel. Caffodd y Dywysoges Frenhinol gyfle i weld ceffylau wedi'u cofrestru 芒'r enw 'Yr Wyddfa', a sefydlwyd gan y brifysgol yn 1918. Defnyddir ceffylau'n gynyddol i reoli pori i ddibenion cadwraeth; felly, mae'n bwysig cynnal bridiau sy'n addas i ardaloedd arbennig.
Mae gan y brifysgol record dda o ddatblygu cnydau newydd neu well ar gyfer amrywiol anghenion, boed yn ffermwyr tlawd yn is-gyfandir India neu ddatblygu cnydau o werth uchel ar gyfer marchnadoedd ym Mhrydain. Mae un project o'r fath yn ymateb i'r galw sylweddol am haidd o safon uchel gan gwmn茂au sydd eisiau manteisio ar y farchnad gynyddol am nwyddau grawn cyflawn. Profwyd bod gan haidd 'noeth' fanteision i iechyd ac mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi meithrin mathau wedi'u haddasu ar gyfer hinsawdd Prydain ac mae'r rhain yn cael eu datblygu'n gynhyrchion newydd ar hyn o bryd.
Mae deunyddiau newydd yn cael eu datblygu o adnoddau adnewyddadwy, a gall y rhain gynnwys unrhyw beth o ddeunyddiau adeiladu i ddeunydd pecynnu ffrwythau a llysiau mewn archfarchnadoedd - deunydd y gellir ei gompostio wedyn. Clywodd y Dywysoges Frenhinol glywed am broject pwysig i ddatblygu nwyddau newydd, megis y deunydd pecynnu bwyd bioddiraddadwy sy'n deillio o rygwellt, a'r cadwyni cyflenwi sy'n eu cefnogi.
Bu i'r Dywysoges glywed am waith allweddol y brifysgol yn helpu ffermwyr i adfer tir amaethyddol a ddifrodwyd yn dilyn digwyddiadau hinsawdd eithafol, megis y llifogydd a gafwyd yng Ngwastadeddau Gwlad yr Haf y gaeaf diwethaf. Mae'r ymchwil hefyd yn rhoi gwybodaeth wyddonol i DEFRA y gellir sefydlu polisi yn y dyfodol arni.
Meddai Is-ganghellor 香港六合彩挂牌资料, yr Athro John G. Hughes: "Rydym yn hynod falch bod y Dywysoges Frenhinol wedi cymryd cymaint o ddiddordeb yn ein gwaith ymchwil amgylcheddol ac amaethyddol. Ein cenhadaeth yn y maes hwn yw darparu sail wyddonol i amaethyddiaeth gynaliadwy, coedwigaeth a chadwraeth adnoddau naturiol."
Meddai'r Athro Morag McDonald, Pennaeth Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth:
"Yn ogystal ag addysgu cenedlaethau'r dyfodol o gadwraethwyr, gwyddonwyr amgylcheddol, coedwigwyr a daearyddwyr, ein nod yw darparu'r wybodaeth a'r dystiolaeth sydd eu hangen gan ffermwyr, gwneuthurwyr polisi ac eraill i sicrhau byd mwy cynaliadwy. Dros y blynyddoedd, mae Gorsaf Ymchwil Henfaes wedi cyfrannu at ymchwil bwysig sydd wedi cael ei mabwysiadu yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd."
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2015