Gweinidog yn croesawu tri academydd o Fangor ymysg y tranche diweddaraf o wyddonwyr rhyngwladol S锚r Cymru
Mae denu talent rhyngwladol newydd i Gymru er mwyn ychwanegu at ein galluoedd ymchwil a datblygu nodedig ym maes gwyddoniaeth yn hanfodol i ffyniant economaidd Cymru a鈥檔 gallu i gystadlu鈥檔 effeithiol ar draws ystod o farchnadoedd byd-eang.
Dyna oedd neges, Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, wrth iddi groesawu鈥檙 tranche diweddaraf o Gymrodyr a Chadeiryddion ymchwil rhyngwladol i Gymru mewn derbyniad arbennig yng Nghaerdydd neithiwr [27 Chwefror 2017] i ddathlu buddsoddiadau S锚r Cymru ar ddechrau ail gyfnod y rhaglen.
Mae S锚r Cymru II am adeiladu ar lwyddiant rhaglen wreiddiol S锚r Cymru a arweiniodd at sefydlu pedair Cadair Prifysgol S锚r Cymru a thri rhwydwaith ymchwil yng Nghymru ym meysydd Gwyddoniaeth, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM).
Mae cyfnod diweddaraf y rhaglen yn ymwneud 芒 buddsoddiad o dros 拢45m 鈥 gyda 拢29m o鈥檙 buddsoddiad hwnnw yn dod o ffrwd gyllido Ewropeaidd 鈥 a bydd yn cyllido mwy o S锚r y Dyfodol鈥 a chymrodoriaethau ymchwil ac yn cynnig help arbennig i鈥檙 rheini sy鈥檔 dychwelyd i weithio ar 么l bwlch yn eu gyrfa.
Ymysg y rhai a oedd yn cael eu croesawu gan y Gweinidog oedd Dr Jinyang Wang a Dr Lars Markesteijn o'r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth a Dr Andrew Foote o Ysgol Gwyddorau Biolegol.
Bydd ymchwil Dr Wang, sydd yn arbenigwr ym maes gwyddorau'r pridd, yn rhoi dulliau rheoli newydd i'r diwydiant amaethyddol, gwneuthurwyr polisi a budd-ddeiliaid cysylltiedig er mwyn diogelu amaethyddiaeth Cymru rhag tywydd eithafol ac ansicr yn y dyfodol.
Mae adfer bioamrywiaeth coedwigoedd yn aml yn araf a bydd ymchwil Dr Markesteijn, arbenigwr ym maes coedwigoedd trofannol, yn archwilio beth sy'n ei dal yn 么l, fel y gallwn gynllunio ffyrdd gwell o helpu natur ac adfer coedwig drofannol lewyrchus gyda'r holl amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid.
Mae Dr Andrew Foote yn ecolegydd esblygiadol. Trwy olrhain esblygiad drwy amser, bydd gwaith Dr Foote yn galluogi gwell dealltwriaeth o'r prosesau a ddefnyddir gan organebau i addasu i'w hamgylchedd a pha mor gyflym mae'r newidiadau genetig hyn yn digwydd.
Yn cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru, mae rhaglen S锚r Cymru yn derbyn cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd (COFUND drwy Horizon 2020 a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru), Sector Addysg Uwch Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW).
Mae鈥檙 cyllid a drefnir drwy nodau鈥檙 rhaglen wedi ei anelu at ddenu a datblygu peth o dalent gorau鈥檙 byd ym maes ymchwil gwyddonol yng Nghymru, i gyflenwi twf economaidd a swyddi o ansawdd uchel.
Hyd yn hyn, mae bron 拢100m wedi ei fuddsoddi yn y rhaglen ers iddi gael ei lansio yn 2013.
Wrth groesawu鈥檙 tranche diweddaraf o dalent yn S锚r Cymru II , dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: 鈥淢ae cynyddu ein galluoedd ymchwil sydd eisoes yn anhygoel, drwy ddenu talent newydd, gwych i Gymru yn mynd i fod yn help i鈥檔 ffyniant economaidd ni gan greu swyddi cyffrous sy鈥檔 talu鈥檔 dda.
鈥淢ae S锚r Cymru yn bartneriaeth yng ngwir ystyr y gair, sy鈥檔 dod 芒 Llywodraeth Cymru ac adnoddau Ewropeaidd ac academaidd ynghyd i gyflawni rhaglen sy鈥檔 rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn ymchwilio sydd wedi eu hanelu at fynd i鈥檙 afael 芒 phroblemau real fel afiechyd dynol, ffynonellau newydd o egni a thechnolegau arloesol ym maes gweithgynhyrchu a deunyddiau.
鈥淢ae cynyddu ein galluedd ymchwilio yn gwneud Cymru yn fwy o atyniad o ran buddsoddiadau pellach ac yn helpu i godi ein proffil ar y llwyfan rhyngwladol. Efallai y bydd ein hymchwil a鈥檔 darganfyddiadau yn cael eu masnacheiddio, gan greu mwy o swyddi o ansawdd yng Nghymru. Mae鈥檔 fwriad gennym i ddatblygu鈥檙 rhain a鈥檜 cadw yma.鈥
Ychwanegodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, Yr Athro Julie Williams: 鈥淏ydd y rhaglen hon yn creu newid sylweddol mewn galluedd ymchwil ac yn rhoi Cymru ar y map fel canolfan ar gyfer darganfyddiadau gwyddonol. Arweinwyr y dyfodol fydd y bobl ifanc yma.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2017