Gwobr arbennig iawn i'r Dr Sophie Williams
Derbyniodd darlithydd o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth wobr arbennig oddi wrth fyfyrwyr Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Wrth gyrraedd yr ystafell ddydd Gwener 29 Ebrill cafodd Dr Sophie Williams gymeradwyaeth fyddarol gan fyfyrwyr, cydweithwyr, teulu a ffrindiau. Ar ei hymweliad cyntaf o鈥檙 ysbyty ers deg mis roedd yn y Brifysgol i dderbyn gwobr am ei chyfraniad anhygoel i addysgeg.
Mae'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn anrhydedd arbennig i ysgolheigion gan mai鈥檙 myfyrwyr eu hunain sy鈥檔 enwebu, yn dewis ac yn cyflwyno'r gwobrau. Cafodd Sophie ei henwebu gan fyfyrwyr israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth am wobr "Cydnabyddiaeth Arbennig Llais Myfyrwyr".
Cafodd y digwyddiad ei agor gan yr Is-Ganghellor, yr Athro John Hughes. Bu'n s么n am yr argraff a wnaeth Sophie arno y tro cyntaf iddo gwrdd 芒 hi mewn seremoni i nodi dechrau prosiect Gardd y Ddwy Ddraig er mwyn gefeillio Gardd Fotaneg Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn Nhreborth gyda Gardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna yn Tsieina. Cafwyd mwy byth o'i hanes yn ystod y prynhawn, gan bwysleisio cryfder sgiliau cyfathrebu Sophie - un o sawl agwedd sydd yn ei gwneud yn addysgwr eithriadol.
Cafwyd cyflwyniad gan yr Athro Morag McDonald, Pennaeth Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn nodi cyfraniad Sophie i Fangor a thu hwnt. Roedd ei chyflwyniad yn cynnwys dyfyniadau gan bobl sydd wedi gweithio gyda Sophie mewn cyrsiau hyfforddi niferus y mae wedi eu cynnal ym meysydd dulliau ymchwil cymdeithasol, addysg cadwraeth a chadwraeth planhigion o Brifysgol Caergrawnt i Bangladesh ac o Mauritius i Tsiena.
Meddai'r Athro McDonald: "Mae Sophie yn ddarlithydd sydd wir yn ysbrydoli, ac mae'n wych ei bod yn gadael yr ysbyty am y tro cyntaf i dderbyn y wobr hon gan fyfyrwyr sydd wedi cael cymaint o fudd o鈥檙 ffiath ei bod hi'n ddarlithwraig mor angerddol a dynamig."
Yn dilyn hynny cafwyd cyflwyniad gan ddau o'i chyn fyfyrwyr ar y cwrs MSc Cadwraeth Planhigion, cwrs a sefydlodd Sophie yn 2014. Dywedodd graddedigion diweddar sut y bu i Sophie eu gwthio i herio eu hunain ac i roi cynnig ar y pethau yr oeddynt yn eu cael yn anodd ac i hynny gael effaith fawr ar eu bywydau. Anfonodd un cyn fyfyrwraig, sydd bellach yn guradur Gardd Fotaneg Treborth, fideo yn ei llongyfarch o Ardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna yn Tsieina lle mae ar hyn o bryd yn cyfarfod 芒 chydweithwyr ac yn parhau 芒'r cyswllt a sefydlwyd gan Sophie.
Y cyflwyniad pwysicaf yn ystod y digwyddiad wrth gwrs oedd sgwrs gan dri o fyfyrwyr presennol Sophie.
Dywedodd Sam Herniman, myfyriwr Cadwraeth Amgylcheddol: "Mae Sophie'n llawer mwy na dim ond darlithwraig, mae hi wedi bod yn gatalydd i bopeth yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf ym Mangor."
Dywedodd Alice Hadley, sydd hefyd yn astudio Cadwraeth Amgylcheddol: "Mae Sophie wastad wedi ein gwthio i fyfyrio mwy ac i fod y gorau y medrwn fod."
Er gwaethaf bod yn wael yn yr ysbyty, mae Sophie wedi cyfarfod 芒'r tri myfyriwr i drafod eu hymchwil ar gyfer eu traethodau hir.
I gloi'r digwyddiad, cafwyd ychydig eiriau gan Mike Williams, tad Sophie, a siaradodd yngl欧n 芒 pha mor falch y mae o lwyddiannau Sophie. Dywedodd Mike: "Mae cael gweld a chlywed faint mae Sophie yn cael ei hedmygu a'i pharchu gan ei ffrindiau a鈥檌 chydweithwyr yn galonogol iawn ac yn cadarnhau i ni i gyd, nid yn unig pa mor arbennig yw hi, ond faint mae pawb yn ei hannog i wella."
Yn y seremoni wobrwyo hefyd roedd rhai o'r t卯m meddygol sy'n gweithio ar adferiad Sophie.
Dywedodd Karen Mottart, sy'n ymgynghorydd yn yr Unedau Gofal Dwys a Dibyniaeth Uchel yn Ysbyty Gwynedd: "Mae mynychu'r digwyddiad yma wedi bod yn nod pwysig i Sophie weithio tuag ato. Mae鈥檔 wych ei gweld yn cysylltu 芒'i bywyd y tu allan i'r ysbyty. R诺an mae angen i ni drefnu ein taith nesaf o'r ysbyty - taith i Ardd Fotaneg Treborth neu daith i gopa'r Wyddfa ar y tr锚n!"
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2016