Gwybodaeth newydd yn ei gwneud yn haws 鈥榤eddwl yn fyd-eang a gweithredu鈥檔 lleol鈥 wrth gadw riffiau cwrel
Mae riffiau cwrel yn adnoddau hanfodol, yn fan bwydo i bysgod ac yn amddiffynfa naturiol i warchod arfordiroedd bregus. Ond, maent yn cyflawni sawl gwasanaeth ecosystem hanfodol arall yn ogystal.
Ond maent o dan fygythiad cynyddol oddi wrth 鈥榞annu鈥- lle mae鈥檙 algae symbiotig sydd yn byw o fewn y cwrel yn gadael oherwydd cynnydd yn nhymheredd y m么r, gan amddifadu鈥檙 cwrel o ynni ffotosynthetig a gwanhau hyfywdra'r holl r卯ff cwrel yn ei dro.
Mae gwybodaeth newydd sydd ar gael ar lefel leol, sydd yn rhagweld pa riffiau cwrel fydd y cyntaf i ddioddef o ganlyniad i gynnydd a ragwelir yng nghyfartaledd tymheredd y d诺r, a pha rai a fydd yn cael cyfle pellach, bellach ar gael ac wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Scientific Reports. Mae鈥檙 data yn cynnwys holl riffiau cwrel y byd ar raddfa bob 4 cilomedr a gellir eu defnyddio i benderfynu lle i ganolbwyntio ymdrechion cadwriaethol er mwyn sicrhau鈥檙 amgylcheddau hanfodol yma sydd dan fygythiad.
鈥淏ydd rhagweld pa bryd a lle bydd cannu blynyddol yn digwydd o gymorth i wneuthurwyr polisi a chadwraethwyr bennu pa riffiau i roi blaenoriaeth iddynt,鈥 meddai arweinydd yr astudiaeth, Dr van Hooidonk o NOAA a Phrifysgol Miami. 鈥淏ydd y riffiau sydd yn dioddef cannu blynyddol yn nes ymlaen yn cael blaenoriaeth gan fod ganddynt fwy o amser i arfer efo cynhesu鈥檙 moroedd. Mae鈥檙 project yn dangos i ni lle mae鈥檔 dal yn bosibl ymateb cyn ei bod yn rhy hwyr.鈥
鈥淢ae鈥檙 rhagfynegiadau yn drysor i鈥檙 rhai sydd yn brwydro i warchod un o ecosystemau mwyaf godidog a phwysig y byd rhag effeithiau andwyol newid hinsawdd,鈥 meddai Erik Solheim, pennaeth Amgylchedd yr UN. 鈥淢aent yn caniat谩u i gadwraethwyr a llywodraethau flaenoriaethu amddiffyn riffiau a fydd ag amser i ymaddasu i鈥檔 moroedd sy鈥檔 cynhesu, Mae鈥檙 rhagfynegiadau yn dangos lle mae gennym amser o hyd i weithredu cyn ei bod yn rhy hwyr.鈥
Ond sut mae gwarchod riffiau cwrel yn wyneb ffactorau sydd y tu hwnt i鈥檔 rheolaeth? Gall gweithgareddau lleol fel cyfyngu ar bysgota, cyfyngu ar y llygreddau o wrtaith sy鈥檔 llifo oddi ar y tir i鈥檙 m么r, a lleihau鈥檙 ymyrraeth neu ddifrod a ddaw o ganlyniad i dwristiaeth gyfrannu at iechyd a gwytnwch r卯ff.
Fodd bynnag, 鈥渕ae ein strategaeth o warchod riffiau sydd o dan fygythiad oherwydd yr hinsawdd yn un beryglus鈥, esbonia Dr Gareth Williams o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 香港六合彩挂牌资料; 鈥渕ae鈥檔 rhaid i ni daclo allyriadau byd-eang ar fyrder, ac ar raddfa ryngwladol, os ydym am gadw riffiau cwrel ar gyfer cenedlaethau i ddod.鈥
Os gostyngir allyriadau tu hwnt i鈥檙 addewidion a wnaed gan wledydd dan Gytundeb Paris, bydd gan riffiau cwrel 11 mlynedd arall, ar gyfartaledd, i ymdopi 芒 moroedd sy鈥檔 cynhesu cyn iddynt ddioddef cannu blynyddol. Os yw鈥檙 gostyngiadau yn cael eu gwireddu, bydd gan nifer o riffiau lledred isel ac uchel yn Awstralia, De鈥檙 Cefnfor Tawel, India, y Triongl Cwrel a Rhanbarth Riff Fflorida hyd at 25 o flynyddoedd cyn profi cannu blynyddol, gan brynu amser ar gyfer ymdrechion cadwraethol. Fodd bynnag, bydd riffiau sy鈥檔 nes at y cyhydedd yn profi cannu blynyddol llawer ynghynt, hyd yn oed os gwireddir addewidion allyriadau.
鈥淢ae鈥檔 hanfodol ein bod yn cymryd y rhagfynegiadau hyn o ddifri ac ein bod fan leiaf yn cyrraedd targedau Cytundeb Paris. Bydd hyn yn rhoi amser i riffiau cwrel a chaniat谩u i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol ac addasu i鈥檙 presennol,鈥 meddai Mr Solheim.
Mae鈥檙 gr诺p ymchwil sy鈥檔 cynnwys ac yn cael ei arwain gan Brifysgol Miami ac Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, bellach yn datblygu rhaglen i rannu鈥檙 wybodaeth hanfodol hon gyda鈥檙 cadwraethwyr ac asiantaethau eraill sydd 芒 chyfrifoldeb dros riffiau pwysicaf y byd, fel bod y wybodaeth yn cael ei chynnwys mewn cynlluniau gweithredu ar gyfer cwrel.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2017