Haciwr Moesegol ar y Rhyngrwyd yn ennill gwobr o 拢1,000
Yn ddiweddar, enillodd myfyriwr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 wobr o 拢1,000 mewn penwythnos 鈥榟acathon鈥 yn Rwsia. Gwahoddwyd Jamie Woodruff, 21, myfyriwr yn yr Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol, i鈥檙 digwyddiad a gynhaliwyd gan Startup Weekend ym Mosgo, i hacio鈥檔 fyw o flaen rhyw 1,000 o bobl. Roedd hefyd yn siaradwr gwadd yn y digwyddiad, a rhoddodd sgwrs ar seiber-ddiogelwch. Mae鈥檙 Startup Weekend yn 56 awr o hacathon lle bu rhaglenwyr, cynllunwyr ac entrepreneuriaid yn hacio gwefannau syfrdanol, cymwysiadau rhyfeddol a gwasanaethau anhygoel er mwyn creu busnesau a oedd yn gweithredu鈥檔 llawn.
Yn ystod y penwythnos, darganfu Jamie wendidau o ran preifatrwydd ar Facebook ac ar lwyfan cyfryngau cymdeithasol Rwsieg y VK.com. Mae Facebook yn rhan o raglen wobrwyo, lle mae cwmn茂au鈥檔 talu hacwyr moesegol fel Jamie i ganfod gwendidau yng nghodau eu meddalwedd, gyda鈥檙 posibilrwydd o ennill gwobrau. Enillodd Jamie wobr o 拢1,000, ond mae wedi penderfynu ei chyflwyno鈥檔 rhodd i Hackaglobal, sefydliad di-elw a arweinir gan y gymuned. Mae Hackaglobal yn creu, meithrin a chysylltu cymunedau o raglenwyr brwd o bedwar ban y byd.
Yngl欧n 芒鈥檙 digwyddiad, dywedodd Jamie, 鈥淩oeddwn wedi cynhyrfu鈥檔 l芒n o gael gwahoddiad i Rwsia; mae鈥檔 un o lawer o ddigwyddiadau rhyngwladol y byddaf yn mynd iddynt eleni. Er fy mod yn ddyslecsig ac yn ddyspracsig, mae hyn yn dangos y gall unrhyw bobl wneud unrhyw beth os byddant yn rhoi eu bryd arno.鈥
Meddai Alejandro Saucedo, sylfaenydd HackaGlobal a threfnydd y digwyddiad:
鈥淛amie yw鈥檙 haciwr moesegol gorau a mwyaf angerddol a gyfarf没m erioed. Mae ganddo鈥檙 sgiliau a鈥檙 wybodaeth i dorri i mewn i unrhyw beth 鈥 yn llythrennol 鈥 gwefan, gwasanaeth, cronfa ddata ... rhywbeth dan haul. Eto i gyd, mae鈥檔 dewis peidio 芒 defnyddio鈥檙 sgiliau hyn i niweidio eraill ond, yn hytrach, i helpu trwy godi ymwybyddiaeth a dadlennu gwendidau鈥檔 cyfrinachol. Ac yntau mor frwd dros ddiogelwch, rwy鈥檔 sicr yr aiff Jamie ymhell iawn.鈥
Gan i Jamie ennill categori鈥檙 Hac Gorau yn Hacathon Southampton a gynhaliwyd yn Ebrill, mae bellach yn Beiriannydd Treiddio Ardystiedig. Mae hyn yn golygu ei fod yn profi gwefannau cwmn茂au am wendidau, lle mae鈥檔 cymryd arno ei fod yn gweithio i gwmni, ac yna鈥檔 ceisio cael cymaint o wybodaeth 芒 phosibl o鈥檙 cwmni neu鈥檙 wefan dan sylw o fewn amser byr, a chyflwyno argymhellion i鈥檙 cwmni ar sut i unioni鈥檙 gwendidau hyn.
Hyd yma eleni, mae Jamie wedi llwyddo i ganfod gwendidau ar lwyfannau bancio ac wedi cael ei achredu am hyn ar eu gwefannau. .
Nesaf, bydd Jamie鈥檔 cymryd rhan mewn digwyddiad yn Llundain ymysg siaradwyr fel Boris Johnson a鈥檙 Arglwydd Alexander Carlile. Bydd yn hacio yn fyw ar lwyfan digwyddiad 鈥樷 - a discussion on privacy, data & policy for the digital economy.
Oherwydd ei lwyddiant yn y digwyddiadau hyn, mae Jamie wedi cael cydnabyddiaeth gan amryw o gorfforaethau, ac mae Varcity Living, IT Security Experts a Core Security yn ei noddi. Mae鈥檙 nawdd hwn yn helpu Jamie o ran offer cyfrifiadurol a chostau teithio ayyb, fel y gall gymryd rhan mewn hacathonau ar draws y DU a鈥檙 tu hwnt.
Hanesion cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2014