Housing 鈥 or Homes? An Introduction to Co Housing, as it could be applied to Gwynedd
Er bod cyd-gartrefu yn gyffredin ar gyfandiroedd Ewrop a gogledd America, dim ond yn lled ddiweddar y mae鈥檙 arfer wedi ei mabwysiadu ym Mhrydain. Mae鈥檙 rhan fwyaf o enghreifftiau sydd yma ym Mhrydain yn adeiladau newydd, wedi eu hadeiladu鈥檔 unswydd gan ddelfrydwyr cefnog gyda鈥檙 nod o fod yn neilltuol o effeithiol o ran defnydd ynni.
Ond mae gan y DU domen o dai sydd yn hen ac yn aneffeithiol o ran ynni. Yng Ngwynedd y ceir y rhai hynaf.
Cyflwyniad i gyd- gartrefu a鈥檙 modd y gellid ei ddefnyddio yng Ngwynedd yw pwnc sgwrs a drefnir gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar y cyd 芒 Chymdeithas Daearyddiaeth y myfyrwyr. Cynhelir Housing or Homes? nos Lun, Tachwedd 21 am 6.00 yn Ystafell g23, Adeilad Thoday y Brifysgol ar Ffordd Deiniol. Mae鈥檙 sgwrs am ddim ac ar agor i bawb.
Mae Frances Voelcker wedi ymddeol yn ddiweddar wedi gyrfa fel pensaer. Ffocws ei gwaith cyn iddi ymddeol oedd effeithiolrwydd ynni mewn adeiladau h欧n gyda waliau solet. Mae hi wedi bod yn weithgar dros gynaliadwyedd, ac mae鈥檔 arddel ffydd y Crynwyr. Bydd Frances yn cyflwyno鈥檙 cysyniad o gyd-gartrefu a chodi鈥檙 cwestiwn o sut y gellir ei gymhwyso ar gyfer y stoc dai sydd eisoes yn bodoli.
Meddai Frances; 鈥淕all cyd-gartrefu weddu ar gyfer pobl h欧n sy鈥檔 dymuno symud i dai llai o ran maint ond yn dymuno gwneud hynny heb orfod colli ystafell sb芒r; pobl o unrhyw oedran sydd yn sengl ac yn teimlo eu bod wedi eu hynysu; rhieni sydd eisiau cefnogaeth rhwydwaith ehangach 鈥 yn ogystal 芒 man chwarae awyr agored diogel. Mae鈥檔 ymwneud 芒 datblygu cymuned er lles tymor hir pobl a鈥檙 blaned. Mae鈥檔 ffordd o fyw yn hytrach na ffansi鈥檙 funud 鈥 a tydi o ddim yn hawdd!鈥
Esbonia Frances mai鈥檙 hyn sydd wedi ei harwain i ymchwilio鈥檙 syniad o gyd-gartrefu yw鈥檙 cyffelybiaethau rhwng egwyddorion y Crynwyr o gydraddoldeb, heddwch, gwirionedd a chyfiawnder; yr anhawster wrth geisio lleihau ein h么l troed amgylcheddol wrth fyw yn gyfforddus; ac ail ymddangosiad anghyfiawnder tai yn y DU.
Meddai Dr Eifiona Thomas-Lane, Darlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth:
鈥淩ydym yn falch o gael croesawu Frances Voelcker i siarad efo ni a鈥檔 ysgogi i feddwl am ffyrdd newydd o ddatrys problemau cyfredol yn ymwneud 芒 thai. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfiawnder tai, ein h么l troed amgylcheddol a Thrawsnewid 鈥 dewch draw i鈥檙 sgwrs a mynegwch eich syniadau!鈥
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2016