Lansio oes gyflymach yn M-SParc
Heddiw (23.1.20) bydd canolfan ymchwil 5G, a allai wneud Cymru yn arweinydd byd-eang yn y dechnoleg a newid sut mae'r rhyngrwyd yn gweithio, yn cael ei lansio'n swyddogol yn , Parc Gwyddoniaeth Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Mae'r Ganolfan Prosesu Arwyddion Digidol (DSP) yn cael ei rhedeg gan academyddion o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, sy'n gweithio ar gyflymu band eang, ac yn chwarae rhan hanfodol mewn galluogi 5G. Gyda phartneriaid gan gynnwys Huawei a BT, mae hwn yn waith byd-eang a allai newid y byd.
Bydd y ganolfan yn darparu ymchwil arbenigol iawn i systemau cyfathrebu digidol fel ffonau symudol, hybiau WiFi a llinellau gweithgynhyrchu modern.
Gyda chefnogaeth 拢4m o arian yr UE a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, bydd y ganolfan yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio technoleg ffibr presennol yn y rhwydwaith 5G i wella gallu, hyblygrwydd, ymarferoldeb a gwasanaethau.
Mae鈥檙 Ganolfan Prosesu Signalau Digidol, a fydd yn cyflogi dros 20 o ymchwilwyr dros gyfnod oes y project a ariennir gan yr UE, wedi ymgartrefu yn M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Prifysgol 香港六合彩挂牌资料. Caiff cytundebau cydweithredu eu llofnodi gyda sefydliadau sy鈥檔 fyd-eang eu dylanwad yn yr economi ddigidol fel BT, Fujitsu a Huawei, yn ogystal 芒 chwmn茂au blaenllaw o Gymru fel TWI, FibreSpeed a Comtek.
Bydd Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn agor y Ganolfan newydd. Dywedodd Lee Waters AC:
鈥淏ydd y Ganolfan Ragoriaeth hon yn cyfrannu at wneud Cymru yn arweinydd byd-eang mewn technoleg 5G, gan roi鈥檙 wlad wrth galon arloesi yn y maes hwn.
鈥淕all gwelliannau mewn DSP gyflymu rhwydweithiau, a gwella鈥檔 ddramatig y ffordd y mae ffonau symudol a dyfeisiau eraill yn gweithio, gan gynnwys cerbydau ymreolaethol.
鈥淢ae'n wych gweld yr ymchwil o'r radd flaenaf hon yn digwydd yma ar Ynys M么n, gyda chefnogaeth cyllid yr UE yn cyfrannu at ein nodau o Gymru fwy llewyrchus a chyfartal.鈥
Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro David Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Effaith Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, a ddywedodd:
鈥淢ae'r datblygiad newydd cyffrous hwn yn enghraifft arall o sut mae'r ymchwil ragorol ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn yr achos hwn, yn arwain at fudd yn y byd go iawn, nid yn unig wrth wella'r dechnoleg y byddwn i gyd maes o law yn ei defnyddio, ond hefyd trwy wneud cyfraniad sylweddol i amgylchedd mwy gwyrdd yn y dyfodol.鈥
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:
"Efallai nad dyma鈥檙 math o dechnoleg y mae pobl yn disgwyl ei gweld wrth feddwl am Ogledd Orllewin Cymru, a dyna鈥檔 union pam y gwnaethom sefydlu Parc Gwyddoniaeth Menai. Gall gwaith blaengar fel hyn ddeillio oddi yma ac yn wir mae hynny'n digwydd. Mae nifer o'n tenantiaid yn datblygu technolegau a chynhyrchion sydd yn gyntaf o'u bath, yn ennill gwobrau, ac yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol, ac rydym yn credu鈥檔 gryf fod gennym y doniau yma.
Ychwanegodd yr Athro Jianming Tang, arweinydd y project:
鈥淣od y gwaith ymchwil y byddwn yn ei wneud yw cwrdd 芒 heriau rhwydweithiau symudol 5G trwy chwilio am atebion i wella'r ddarpariaeth lled band, lleihau cyfnodau ymateb a chynyddu dwysedd cysylltiad, a gwneud y rhwydweithiau'n fwy ystwyth ac ymaddasol."
Y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol yw'r cyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig, a thros y tymor hir mae ganddi'r potensial o ddod 芒 budd economaidd trawsnewidiol i faes ymchwil gwbl arloesol. Y bwriad yw creu 100 o swyddi sy'n gysylltiedig 芒'r Ganolfan dros 10 mlynedd.
Mae'r ffaith ei bod wedi'i lleoli yn M-SParc ac yn datblygu technoleg sy'n adlewyrchu ffocws M-SParc ar allyriadau carbon isel yng Ngogledd Cymru yn gwneud synnwyr am reswm arall hynod amserol. Mae TGCh yn gyfrifol am hyd at 4% o gyfanswm yr allyriadau carbon byd-eang, a dim ond cynyddu a wnaiff hynny oni bai bod newidiadau o sylwedd yn cael eu cyflwyno i leihau'r 么l troed carbon. Gallai gwaith y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol ar ehangu cymhwysedd a thechnoleg mynediad diwifr leihau'r ynni a ddefnyddir gan rwydweithiau hyd at 90%.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2020