Llwyddiant ADNODD yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr a Gwobrau Cynrychiolwyr Cwrs y Flwyddyn 2017
Roedd yn noson lwyddiannus i'r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr a Gwobrau Cynrychiolwyr Cwrs y Flwyddyn ar 28 Ebrill.
Enillodd Amy Greenland, myfyriwr ail flwyddyn a Chynrychiolydd Cwrs (BSc Ecoleg Daear a M么r Cymhwysol) y Wobr Dewis Myfyrwyr, yn dilyn cael ei henwebu gan ei chyd-fyfyrwyr yn gydnabyddiaeth am ei hymdrechion yn eu cynrychioli dros y flwyddyn. Aiff sylw anrhydeddus hefyd i Mandy Davidson, myfyriwr Gwyddor Amgylcheddol MEnvSci, a enwebwyd ar gyfer Gwobr yr Is-lywydd yn gydnabyddiaeth am ei gweithgareddau fel Cynrychiolydd Cwrs o fewn yr ysgol.
Yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, enillodd ADNODD y wobr newydd Ysgol y Flwyddyn. Roedd yr enwebiad yn adlewyrchu awyrgylch gyfeillgar yr Ysgol, ei staff cefnogol a'r teithiau maes a gynigir fel rhan o'i chyrsiau gradd. Cafwyd llwyddiant pellach i'r ysgol, gyda Dr Graham Bird yn ennill Gwobr Athro/Athrawes y Flwyddyn. Llongyfarchiadau i bawb a hefyd sylw arbennig i aelodau staff eraill ADNODD a gafodd eu henwebu: Si芒n Pierce (a enwebwyd unwaith eto am Gefnogaeth Fugeiliol Eithriadol), Lynda Yorke (a enwebwyd am Wobr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr), Rebecca Jones (a enwebwyd fel Athro 脭l-radd y Flwyddyn) a Mike Hale (a enwebwyd am y Wobr Arwr heb ei Gydnabod).
Trefnir y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr gan Undeb y Myfyrwyr, a鈥檜 bwriad yw cydnabod cyfraniadau eithriadol a rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu ym Mangor. Wrth edrych yn 么l ar y noson, dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Morag McDonald: "Roedd yn noson ryfeddol i ADNODD ac mae'n wych gweld ein staff a myfyrwyr yn cael eu henwebu am wobrau. Mae'r llwyddiannau'n dystiolaeth bellach o'r awyrgylch wych sydd yn yr Ysgol, gwaith caled y staff a'r myfyrwyr a'r berthynas adeiladol sydd gan ADNODD 芒'i myfyrwyr. Ymddengys y bydd yn rhaid inni estyn silff ben t芒n yr Ysgol unwaith eto!"
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2017