Llygredd microblastig yn gyffredin mewn llynnoedd ac afonydd Prydain yn 么l astudiaeth newydd
Credir mai'r astudiaeth hon yw'r cyntaf o'i math, ac edrychodd ar ddeg safle yn cynnwys llynnoedd yn Ardal y Llynnoedd, dyfrffyrdd ym Mharc Cenedlaethol Loch Lomond a Trossachs, gwlyptir a chronfa dd诺r yng Nghymru - a chanfuwyd microblastig ym mhob un ohonynt.
Mae Cyfeillion y Ddaear a Dr Christian Dunn, o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 (a fu'n arwain yr ymchwil) yn dweud bod y canfyddiadau'n awgrymu y dylid ystyried microblastigau fel halogydd sy'n dod i'r amlwg, a bod rhaid yn awr monitro holl ddyfroedd y DU yn rheolaidd.
Mae Cyfeillion y Ddaear hefyd yn annog Aelodau Seneddol i gefnogi deddfwriaeth newydd, sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd, i ddileu llygredd plastig o fewn 25 mlynedd, yn cynnwys rhoi'r gorau i ddefnyddio plastig untro nad yw'n hanfodol erbyn 2025.
Gan ddefnyddio system goleuadau fflworoleuo, roedd yr ymchwilwyr yn gallu adnabod a chyfrif llygryddion microblastig (llai na 5mm) fesul litr o dd诺r, fel darnau o blastig, ffibrau a ffilm plastig.
Dangosodd y canfyddiadau cychwynnol lefelau llygredd microblastig yn amrywio o dros 1,000 o ddarnau o blastig fesul litr yn afon Tame ym Manceinion Fwyaf, i 2.4 darn y litr yn Loch Lomond.
Y llynedd, roedd adroddiad gan Eunomia ar gyfer Cyfeillion y Ddaear, wedi amcangyfrif bod symiau enfawr o lygredd microblastig yn mynd mewn i ddyfrffyrdd y DU o nifer o ffynonellau bob blwyddyn. Mae'r prif ffynonellau llygredd yn cynnwys teiars ceir (7,000-19,000 tunnell), dillad (150-2,900 tunnell), pelenni plastig a ddefnyddir i wneud eitemau plastig (200-5,900 tunnell) a phaent ar adeiladau a marciau ffyrdd (1,400-3,700 tunnell).
Dywed Cyfeillion y Ddaear a Dr Christian Dunn bod rhaid gwneud gwaith pellach i ymchwilio'n llawn i unrhyw beryglon iechyd o ficroblastig, i bobl ac ecosystemau, fel y gellir canfod lefelau "diogel", a rhoi prosesau symud a lliniaru ar waith.
Y dyfrffyrdd a arolygwyd (yn cynnwys darnau o blastig fesul litr o dd诺r) oedd:
- Afon Tafwys, Llundain (84.1)
- Gwely cyrs Caer (7.6)
- Ullswater, Ardal y Llynnoedd (29.5)
- Afon Irwell, Salford, Manceinion Fwyaf (84.8)
- Afon Tame, Tameside, Manceinion Fwyaf (> 1,000)
- Afon Blackwater, Essex (15.1)
- Rhaeadr Dochart, Parc Cenedlaethol Loch Lomond a Trossachs (3.3)
- Loch Lomond, Parc Cenedlaethol Loch Lomond a Trossachs (2.4)
- Afon Cegin - afon; Gogledd Cymru (76.9)
- Llyn Cefni - cronfa dd诺r; Ynys M么n, Cymru (43.2)
Dywedodd Dr Christian Dunn, o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料:
"Roedd yn eithaf brawychus i ddarganfod bod microblastigau yn bresennol hyd yn oed yn y safleoedd mwyaf anghysbell a brofwyd gennym, ac roedd yn ddigalon i weld eu bod mewn rhai o leoliadau mwyaf eiconig ein gwlad. Rwy'n si诺r na fyddai Wordsworth yn hapus i wybod bod ei annwyl Ullswater yn Ardal y Llynnoedd wedi'i lygru 芒 phlastig.
"Mae'r canfyddiadau cychwynnol hyn, gan ein t卯m ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Chyfeillion y Ddaear, yn dangos bod rhaid inni ddechrau trin y broblem blastig yn ein dyfroedd mewndirol o ddifrif.
"Mae plastig yn llygru ein hafonydd, ein llynnoedd a'n gwlyptiroedd mewn ffordd debyg i'r llygryddion a elwir yn 'halogyddion sy'n dod i'r amlwg' fel gwastraff fferyllol, cynhyrchion gofal personol a phlaleiddiaid.
"Fel gyda'r holl halogyddion sy'n dod i'r amlwg, nid ydym eto'n gwybod yn iawn sut maent yn peryglu bywyd gwyllt ac ecosystemau, neu hyd yn oed iechyd pobl, ac i ba raddau y maent yn bresennol yn ein holl systemau d诺r.
"Ond mae bellach yn glir y dylid ystyried microblastig fel halogydd difrifol sy'n dod i'r amlwg ac mae angen ymdrech ar y cyd i fonitro ein holl ddyfroedd mewndirol yn rheolaidd.
"Mae ein dull yn cynnig ffordd syml a chost isel o wneud hyn, felly mae angen i ni nawr ei ddatblygu a gweld a yw鈥檔 canlyniadau cychwynnol yn ddim ond crafu鈥檙 wyneb."
鈥淩oedd cynhyrchu鈥檙 data yn ymdrech t卯m ac mae鈥檔 wych bod gr诺p o fyfyrwyr MSc yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol wedi bod yn aelodau hollol hanfodol o鈥檙 t卯m hwnnw.
Roedd y myfyrwyr y Gr诺p Gwlyptiroedd wrth wraidd datblygiad y fethodoleg, yn casglu samplau a dadansoddi, ac mae鈥檔 dangos bod myfyrwyr Meistr yn Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cael cyfleoedd i dorchi eu llewys wrth brofi ymchwil blaengar yn ystod eu hastudiaethau,鈥 ychwanegodd Dr Dunn.
Dywedodd Julian Kirby, ymgyrchydd plastig gyda Chyfeillion y Ddaear:
"Mae'r halogiad eang o'n hafonydd a'n llynnoedd 芒 llygredd microblastig yn bryder mawr, a bydd pobl wrth gwrs eisiau gwybod pa effaith y gall ei gael ar eu hiechyd a'u hamgylchedd.
"Mae llygredd plastig ym mhobman, mae wedi ei ganfod yn ein hafonydd, ar ein mynyddoedd uchaf ac yn ein cefnforoedd dyfnaf.
"Mae'n rhaid i Aelodau Seneddol gefnogi deddfwriaeth newydd sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd, a fyddai'n ymrwymo'r llywodraeth i leihau'n sylweddol y llif o lygredd plastig sy'n niweidiol i'n hamgylchedd."
Er y gwnaed nifer o astudiaethau ar lygredd plastig yn yr amgylchedd morol a rhai ar waddod dyfrffyrdd, nid oes cymaint o ymchwil wedi'i wneud ar lygredd microblastig mewn samplau d诺r o systemau mewndirol yn y DU. Mae'r fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon yn cynnig ffordd syml a chost isel o gasglu a dadansoddi samplau, fel y gellir monitro dyfrffyrdd yn rheolaidd yn genedlaethol.
Os hoffech astudio ac ymchwilio microblastig yn Ysgol Gwyddorau Naturiol, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yna ewch at :/natural-sciences/courses/pg/index.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2019