Mannau nodedig am eu bioamrywiaeth o dan fygythiad wrth i goedwigoedd gael eu cwympo
Mae ardaloedd sy'n wynebu'r datgoedwigo mwyaf ar y blaned ar hyn o bryd wedi cael eu hadnabod fel mannau fu'n arbennig o bwysig yn hanes esblygol bioamrywiaeth hynod De ddwyrain Asia.
Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Systematic Biology ("" sydd ar gael ar-lein: 28 Gorffennaf, 2014), mae Dr. Mark de Bruyn o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, a nifer o gydweithwyr rhyngwladol wedi cynnull ynghyd swm mawr o ddata daearegol, hinsoddol a biolegol i ganfod ardaloedd sydd wedi bod yn arbennig o bwysig yn hanes esblygol anifeiliaid a phlanhigion eithriadol o amrywiol De Ddwyrain Asia. Tynnwyd sylw at Borneo yn benodol yn yr astudiaeth hon.
Mae鈥檙 datgoedwigo sy'n digwydd yn ardaloedd coedwigoedd glaw iseldiroedd y wlad, i raddau helaeth oherwydd ymlediad planhigfeydd palmwydd olew, yn rhoi'r bioamrywiaeth a geir yno mewn perygl o ddifodiant.
Daeth de Bruyn a'i gydweithwyr i'r casgliad: "Mae gwir angen ymdrechu ar frys i warchod anifeiliaid a phlanhigion Borneo'n enwedig, sydd ar hyn o bryd yn gartref i brif gyfoeth rhywogaethau planhigion a mamaliaid."
Mae'r cytundeb "Calon Borneo" rhwng Indonesia, Malaysia a Brunei yn darparu ar gyfer ardaloedd cadwraeth blaenoriaeth uchel ond ni fyddai hyn yn cynnig amddiffyniad digonol i ardaloedd helaeth o goedwigoedd glaw yn yr iseldiroedd sy'n gartref i'r lefelau uchaf o fioamrywiaeth. Os bydd ardaloedd mawr pellach o goedwig yn diflannu yn sgil datblygiadau yn y rhanbarth hwn bydd prif warchodfa holl ranbarth Ysgafell Sunda yn cael ei cholli am byth.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014