MSc newydd ym Mangor yn cynhyrchu trydan a swyddi ym maes ynni m么r adnewyddadwy
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi datblygu .
Mae ynni m么r adnewyddadwy yn defnyddio grym naturiol y tonau a'r llanw i gynhyrchu trydan. Mae'n ddiwydiant uwch-dechnoleg gyffrous sy'n tyfu'n gyflym ac sydd 芒'r potensial o fod yn un o'r diwydiannau uwch-dechnoleg fwyaf y gellir ei hallforio yn economi'r DU. Amcangyfrifir y bydd datblygu morlyn Bae Abertawe'n creu 70,000 o swyddi yn y cyfnod adeiladu'n unig, ac mae yna nifer o fentrau eraill yn y maes yng Nghymru fel parthau arddangos Yst芒d y Goron ym M么r Iwerddon, a phroject Deep Green Minesto i'r gorllewin o Ynys M么n, lleoliad Ysgol Gwyddorau'r Eigion.
Bydd y cwrs 么l-radd hyfforddedig hwn yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr. Bydd galw mawr am raddedigion o'r rhaglen ym mhob rhan o鈥檙 sector ynni m么r adnewyddadwy, yn gweithio i ddatblygwyr dyfeisiadau fel dadansoddwyr adnoddau, mewn ymgyngoriaethau eigioneg yn gweithio ar astudiaethau ar leoliad ac astudiaethau modelu i'r diwydiant tonau a llanw, ac yn llunio arolygon geoffisegol i'r diwydiant. Bydd hefyd gyfleoedd i weithio ar isadeiledd a system geblau'r Grid Cenedlaethol i gyrff prydlesu fel Yst芒d y Goron, a gweithio i gyrff amgylcheddol a noddir gan y llywodraeth fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn asesu effeithiau amgylcheddol.
Bydd graddedigion y cwrs yn gallu deall a rhagweld adnoddau ynni m么r dros raddfeydd amser o lai nag eiliad at ddegawdau, a fydd yn eu galluogi i feintioli llwythi cymedr ac eithafol i'r isadeiledd ynni, yn ogystal 芒 meintioli'r adnodd yn llawn i gynorthwyo diwydiannau i wneud dewisiadau am leoliad a chynllunio. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio'r offerynnau mwyaf cyfoes ym maes eigioneg a geoffiseg ar gychod bach ac ar long ymchwil 35m y Prince Madog, byddant yn dysgu sut i lunio modelau tonau a llanw cyfrifiadurol a dadansoddi'r canlyniadau'n feirniadol, ac yn defnyddio'r data a gasglant eu hunain i fireinio'r modelau hynny. Mae'r cwrs yn rhoi sylfaen gadarn i fyfyrwyr mewn mathemateg, ffiseg eigion, a geoffiseg, ac yn ymchwilio'n fanwl i'r heriau a wynebir o osod ffermydd o ddyfeisiadau yn yr amgylchedd morol.
Mae'r cwrs newydd yn adeiladu ar sail 50 mlynedd o brofiad o ddysgu'r MSc Eigioneg Ffisegol yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion. Mae'r gr诺p Ffiseg M么r, sy'n dysgu'r cwrs yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion, gyda'r gorau yn y byd, fel y cydnabu Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Mae gan Ysgol Gwyddorau'r Eigion gysylltiadau helaeth gyda'r diwydiant ynni m么r adnewyddadwy ac, yn dilyn rhan hyfforddedig y cwrs, bydd nifer o'r projectau ymchwil dros yr haf yn cael eu cynnal mewn cydweithrediad 芒'r diwydiant.
Am wybodaeth bellach, gwelwch wefan y rhaglen MSc:
Neu cysylltwch 芒 chyfarwyddwr y cwrs: Dr Simon Neill s.p.neill@bangor.ac.uk 01248 383938
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2015