Myfyriwr yn cael ei ddewis ar gyfer Pencampwriaeth Nofio Genedlaethol
Mae Leo Johnson, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn yn astudio wedi ennill lle i gystadlu yn y ras 100m Arddull Rydd ym Mhencampwriaeth Genedlaethol Cwrs Byr Agored Nofio gydag Anabledd 2013, sydd i鈥檞 chynnal ym Mhwll Nofio Ryngwladol Ponds Forge yn Sheffield ar 23-24 Tachwedd 2013. Bydd y goreuon o blith nofwyr para ar draws Prydain Fawr yn cystadlu yn y digwyddiad hwn.
Dim ond yn ddiweddar y penderfynodd y myfyriwr 20 oed o Putney, de-orllewin Llundain, roi cynnig ar gystadlu yn y maes ac mae鈥檔 annog myfyrwyr eraill efo anabledd i ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon para.
Mae Leo鈥檔 esbonio:
鈥淒echreuais ystyried o ddifri gymryd rhan mewn chwaraeon para yn fuan wedi i mi ddechrau yn y Brifysgol. Roedd ambell i ffrind wedi s么n am y peth o鈥檙 blaen ond chymerais fawr o sylw, roeddwn yn ddigon hapus yn chwarae rygbi a chriced i鈥檙 ysgol ac i Glwb Rygbi Cymry Llundain. Ond cefais anaf i鈥檓 pen-glin, oherwydd gorwneud, a hynny鈥檔 rhannol oherwydd fy anabledd.
鈥淎r 么l trafod gyda鈥檙 llu o feddygon mae rhywun yn eu gweld yn rheolaidd os oes gennych anabledd, penderfynais mai nofio a rhwyfo fyddai鈥檔 fwyaf buddiol i mi yn y tymor hir. Ac yna, am y tro cyntaf, meddyliais, os gallaf gystadlu鈥檔 eithaf da yn erbyn pobl heb anabledd, yna beth allwn i gyflawni pe bawn i鈥檔 cystadlu o dan yr un amodau 芒 phawb arall?
鈥淩wy鈥檔 berson cystadleuol wrth natur ac yn cael rhyw fath o ollyngdod wrth gystadlu. Rwy wedi sylwi fy mod yn perfformio鈥檔 well yn academaidd wrth gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol. Roeddwn yn benderfynol o gael fy ngosod mewn dosbarth ar gyfer y nofio a鈥檙 rhwyfo. Ond haws dweud na gwneud. Rhois fy hun ar y rhestr aros ar gyfer dosbarthiad nofio ym mis Chwefror a chael fy nosbarthiad ar Hydref 5ed! Roedd rhwyfo鈥檔 ychydig yn symlach, dim ond 6 mis gymerodd hi.
鈥淔elly ar 5ed Hydref cymerais ran yn fy mhencampwriaeth ranbarthol gyntaf, fel rhan o鈥檙 鈥榓rsylwi mewn cystadleuaeth鈥 cyn fy ngosod mewn dosbarth. Roeddwn wedi fy ngosod dros dro yng nghategori S9: mae deg dosbarth nofio, S1-S10 ,efo 1 ar gyfer y rhai 芒鈥檙 amhariad corfforol mwyaf a 10 ar gyfer y rhai 芒鈥檙 amhariad lleiaf. Mae rhai cystadlaethau efo trothwy amser ar gyfer ennill lle yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol Cwrs Byr, yn ddibynnol ar eich dosbarthiad, a gwelais fy mod i wedi gwneud yn ddigon da i gael lle yn y gystadleuaeth 100m arddull rydd. A bod yn onest, roeddwn i wedi gwirioni! 鈥
鈥淔y nod tymor hir yw gweld ar ba lefel galla i gystadlu yn y dyfodol. Fy nod yn y tymor byr yw cyflawni amser da yn y Cystadlaethau Cwrs Byr Cenedlaethol, yna'r cystadlaethau cwrs byr yng nghynghrair myfyrwyr BUCS. Wedyn, y prif ffocws fydd y cyfarfod Rhyngwladol Prydeinig yng Nghanolfan Chwaraeon Tollcross ym mis Ebrill. Wedi hynny does gen i ddim clem ar hyn o bryd. Rwy鈥檔 ceisio mynd un cam ar y tro.鈥
Dywedodd Leo am ei amser ym Mangor:
鈥淐lywais am Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 gan ychydig o ffrindiau, a dois yma i鈥檙 Diwrnod Agored a phenderfynu rhoi鈥檙 Brifysgol fel un o鈥檓 dewisiadau, a bellach dyma fi.鈥
鈥淵 peth gorau am y cwrs yw鈥檙 amrediad o bynciau gwahanol yr ydym yn eu hastudio, a鈥檙 peth orau am yr ysgol yw鈥檙 awyrgylch. Mae Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion yn lle cyfeillgar dros ben. Yr uchafbwynt i mi hyd yn hyn fu鈥檙 daith maes yn ystod yr haf i鈥檙 Virginia Institute of Marine Science. Roedd yn brofiad gwych.
鈥淭u allan i chwaraeon rwyf wedi bod yn weithgar efo Cymdeithas Endeavour ac rwyf hefyd yn Seneddwr dros Fyfyrwyr ag Anableddau鈥檙 Brifysgol. Yn gymdeithasol, rwy鈥檔 mwynhau noson allan o bryd i鈥檞 gilydd. Ond gan fwyaf, rwyf yn mwynhau treulio amser gyda鈥檓 ffrindiau da, lle bynnag y byddant neu beth bynnag yr ydym yn gwneud.鈥
Mae Leo, sy鈥檔 gyn-ddisgybl o Bethany School a St James Independent School for Senior Boys, yn credu mai鈥檙 peth gorau am Fangor yw lleoliad y ddinas, a pha mor agos yw hi i鈥檙 ardal naturiol wych sy鈥檔 ei hamgylchynu.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2013