Myfyrwyr amaethgoedwigaeth yn teithio i Indonesia
Teithiodd staff a myfyrwyr o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i Ddwyrain Kalimantan yn Indonesia, fel rhan o gwrs maes ar y rhaglen MSc Amaethgoedwigaeth. Trefnwyd y cwrs maes gyda chymorth y project Ffrwythau Coedwig a Maeth Gwledig (FFRAN), sef menter ar y cyd rhwng Prifysgol Mulawarman a Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Nod y project yw pennu pa rôl y gallai ffrwythau coedwigoedd trofannol, na wneir defnydd helaeth ohonynt ar hyn o bryd, ei chwarae wrth liniaru diffyg maeth ymysg plant mewn ardaloedd gwledig. Un o brojectau yw FFRAN, fel rhan o .
Roedd y cwrs yn edrych yn benodol ar gasglu a dadansoddi gwybodaeth leol gan ddefnyddio , sef methodoleg a meddalwedd a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Mae defnyddio'r pecyn cymorth hwn yn caniatáu i ymchwilwyr ddeall gwybodaeth agroecolegol y ffermwyr. Fel rhan o'r cwrs maes, dysgodd y myfyrwyr amrywiaeth o ddulliau ymchwil ansoddol ar gyfer ymchwilio i wybodaeth leol am ryngweithiadau cnydau coed a swyddogaeth coed o ran gwneud bywoliaeth mewn ardaloedd gwledig. Dysgon nhw am systemau ffermio'r pentrefi y buon nhw i'w gweld a chawsant weld calendr cnydau traddodiadol. Fe gynhalion nhw drafodaethau grŵp ffocws a chyfweliadau lled-strwythuredig gydag aelodau'r gymuned. Defnyddiwyd dulliau mapio adnoddau a llinellau amser hanesyddol i gynhyrchu darlun gweledol o'r hyn a drafodwyd.
Ar ddiwedd y cwrs maes, dywedodd Abigail Beath, myfyriwr MSc Amaethgoedwigaeth, 'Roedd y daith yma'n ffordd o gyfnewid diwylliant; trwy gyd-fyw a gwneud ffrindiau efo pobl o lwyth y Dayak, fe ddysgon ni am eu ffordd o fyw a'u ffordd o feddwl. Mi wnes i ddysgu, waeth beth ydy eich agenda chi fel gwyddonydd ac ymchwilydd, parchu pobl a'u harferion ddylai'r flaenoriaeth fod. Heb gydweithrediad cymunedau lleol, mae'n amhosib gwneud ymchwil ystyrlon i ddulliau o reoli adnoddau naturiol. Dydy llyfrau darllen ac erthyglau mewn cyfnodolion byth yn mynd i fod mor werthfawr â chael profiad go iawn o le a phobl.'
Esboniodd Dr Mark Rayment, Cyfarwyddwr y Cwrs MSc Amaethgoedwigaeth:
"Yn ogystal â bod yn gyfle i'n myfyrwyr MSc ni gael mentro'n ddwfn i ganol Borneo, mae'r cwrs maes yma wedi bod yn ffordd i ehangu eu dealltwriaeth nhw o fywoliaeth gwledig a mireinio'u sgiliau ymchwil nhw cyn iddyn nhw ddechrau ar eu traethodau hir. Maen nhw wedi cyfarfod ac wedi gweithio ochr yn ochr â phobl gynhenid ​​yn ogystal â chydweithwyr ym Mhrifysgol Mulawarman ac mae'n debyg ei bod yn deg dweud iddo fod yn brofiad trawsnewidiol. Bydd un o'n myfyrwyr yn dychwelyd i Borneo i wneud gwaith maes ar gyfer traethawd hir, tra bydd pedwar arall ynghlwm wrth Ganolfan Amaethgoedwigaeth y Bydac yn gweithio ym Mrasil, Fietnam, Zambia a Ghana."
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2018