Myfyrwyr Coedwigaeth MSc ADNODD yn Tanzania!
Llwyddodd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i barhau â’i thraddodiad hir o arloesi wrth ddysgu coedwigaeth drofannol yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst 2012, pan ymunodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr dysgu o bell a gyllidir gan (CSC) gyda myfyrwyr MSc ADNODD amser llawn ar gyfer modiwl ar y cyd dros yr haf ym mynyddoedd Usambara yn Tanzania. Daw’r ysgolheigion CSC o bob rhan o’r Gymanwlad, o Botswana, Zambia, Papua New Guinea a Guyana, lle maent i gyd yn gwneud cwrs MSc Coedwigaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ sydd wedi ei hen sefydlu. Yn ymuno â’r naw ysgolhaig (gweler y llun isod) oedd pymtheg myfyriwr MSc arall a phum aelod staff o brifysgolion sy’n bartneriaid i Fangor yn Rhaglen Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy Erasmus Mundus: Copenhagen, Dresden, Montpellier a Padua.
“Mae wedi bod yn brofiad ardderchog i bawb", meddai o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. “Mae’n wych ein bod o’r diwedd yn cwrdd â phawb wyneb yn wyneb, yn arbennig wrth wneud rhywbeth rydym yn ei fwynhau orau sef gwaith maes! Cafodd yr ysgolheigion CSC fudd enfawr o ymwneud â staff a myfyrwyr o brifysgolion Ewrop sy’n bartneriaid i ni. Roedd yn fuddiol hefyd i’n myfyrwyr sy’n seiliedig yn yr UE – maent wedi cael y cyfle i gydweithio gyda myfyrwyr sy’n byw eu bywydau bob dydd mewn coedwig drofannol."
Mae’r Mynyddoedd Usambara sy’n ffurfio rhan o’r mynyddoedd Eastern Arc ac yn ymestyn drwy Tanzania a Kenya, wedi cael eu cydnabod yn fyd-eang fel ardal â phroblem bioamrywiaeth. Bu’r bobl leol yn gwneud eu bywoliaeth o’r coedwigoedd yn yr ardal hon ers miliynau o flynyddoedd, ond wrth i’r boblogaeth dyfu, mae gallu tiroedd y coedwigoedd i gynnal bywoliaeth wedi cael ei ymestyn i'r eithaf. Mae’r pwysau hyn, ynghyd ag effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd a’r ymgais i gadw a gwella bioamrywiaeth yn yr ardal, yn golygu bod rhaid cael dealltwriaeth am economeg gymdeithasol er mwyn rheoli adnoddau coedwigoedd yn yr 21 ganrif, ynghyd â'r disgyblaethau traddodiadol sef coedwriaeth a stocrestr coedwigaeth. I gael gwybod mwy am astudio coedwigaeth ym Mangor, ewch i a chliciwch drwy’r cyrsiau israddedig ac ôl-radd. Y flwyddyn nesaf - Uganda!
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2012