Myfyrwyr Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn gwneud y rhyngrwyd yn lle diogelach
Mewn hacathon a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Southampton fe wnaeth myfyriwr o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ennill y dosbarth 'Hac Gorau'.
Gwahoddwyd , 21, o Rishton, Sir Gaerhirfryn, myfyriwr blwyddyn gyntaf ar y cwrs BSc Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol, i'r hacathon ac enillodd y wobr Certified Penetration Expert. Y wobr yw cwrs gwerth £1,000 a noddir gan ITSE (IT Security Experts).
Mewn hacathon mae rhaglenwyr cyfrifiadurol, ac eraill sy'n ymwneud â datblygu meddalwedd, yn cystadlu'n frwd ar brojectau meddalwedd. Ceir gwahanol fathau o hacio - y math moesegol, a elwir yn "het wen" a'r math anfoesegol, a elwir yn "het ddu". Mae Jamie'n frwd ynghylch hacio moesegol a dyna yw nod yr hacathonau.
Yn ystod y digwyddiad yn Southampton, llwyddodd Jamie i hacio Facebook gan ei alluogi i fynd at gyfrifon defnyddwyr. Yna rhoddodd wybod i swyddogion Facebook bod hynny'n bosibl. Hefyd daeth ar draws gwendidau yn y cod cymwysiadau gwe i Bloomberg a Twitter.
Meddai Jamie: "Roeddwn yn teimlo'n wirioneddol gyffrous a hapus a fedwn i ddim disgwyl i ddangos i'r cwmni pa mor dda ydi fy sgiliau. Rydw i wedi dweud bob amser mai dim ond un cyfle roeddwn ei angen i ddangos fy ngwir botensial ac fe roddodd ITSE y cyfle hwnnw imi. Bydd o fantais i mi hyfforddi pobl yn ein cymdeithas i'w helpu i ddysgu sut i amddiffyn eu hunain rhag hetiau duon."
Mae Jamie'n awr yn brysur yn sefydlu Cymdeithas Hacio Foesegol ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ - mae ganddi 50 o aelodau'n barod a 600 o ddilynwyr o gyffelyb fryd ar . Bydd y Gymdeithas yn canolbwyntio ar Bowntis, lle mae cwmnïau’n talu i hacwyr moesegol gael hyd i wendidau yng nghod eu meddalwedd. Bydd y Gymdeithas yn defnyddio'r ffioedd y maent wedi'u ennill i fynd i hacathonau ym Mhrydain. Maent yn cael eu noddi gan Core Security – cwmni gyda chlientiaid fel NASA a MasterCard a'r Ysgol Cyfrifiadureg ym Mangor.
Bydd y Gymdeithas yn dysgu hacio sylfaenol ac uwch i'w haelodau, ac mae'r holl aelodau'n ymrwymo i gadw at gytundeb a chod moeseg. Maent yn bwriadu trefnu hacathon yn Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn y dyfodol agos ac maent hefyd yn datblygu syniad i gysylltu holl brifysgolion â'i gilydd mewn hacathon rithwir - rhywbeth na cheisiwyd ei wneud o'r blaen.
Mae hacwyr moesegol fel Jamie'n helpu i wneud y rhyngrwyd yn ddiogelach drwy ddatgelu eu darganfyddiadau i gwmnïau.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2014