Mynediad agored i arddangosfa Bydoedd Cudd 2015
Mae’r arddangosfa ‘Bydoedd Cudd', sef prif ddigwyddiad , a gynhelir rhwng 13 - 22 Mawrth 2015, yn cynnig mwy o weithgareddau ac arddangosiadau nag erioed eleni. Hon fydd y bumed gwaith i’r ŵyl boblogaidd gael ei chynnal.
Cynhelir yr ‘Arddangosfa Bydoedd Cudd' yn Adeilad Brambell ar Ffordd Deiniol rhwng 10.00-4.00 ddydd Sadwrn 14 Mawrth ac mae am ddim ac yn agored i bawb. Bydd y labordai’n llawn bwrlwm o weithgareddau megis ‘Anifeiliaid ysglyfaethus a’u hysglyfaeth’ a ffotoneg sef ‘gwyddor golau’, fel rhan o’r diwrnod gwyddoniaeth ymarferol. Bydd yr acwaria ymchwil a gedwir yn breifat fel rheol, yn agored i’r cyhoedd a bydd ymwelwyr hefyd yn gallu cyffwrdd ag ymlusgiaid a chreaduriaid y môr a’u dal yn eu dwylo. Caiff y cyhoedd hefyd ymweld ag amgueddfa byd natur hynod drawiadol y Brifysgol. Yn ogystal, cynhelir y sioe gemeg 'Flash Bang’ am 12.00 a 1.30, gan sicrhau y bydd digon i'w wneud a'i weld i bobl o bob oed.
Ymysg y digwyddiadau cyhoeddus eraill a gynigir yn ystod yr ŵyl, mae teithiau cerdded daearegol i weld rhai o'n tirweddau ysblennydd. Cynhelir y rhain ar 15 a 22 Mawrth ac mae cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i ymuno â nhw ar wefan yr ŵyl : a chynhelir darlith dathlu 125 mlynedd gan yr Ysgol Peirianneg Electronig.
Mae Digwyddiad Gyrfaoedd Adnoddau Cynaliadwy hefyd yn rhan o’r Ŵyl. Bydd y digwyddiad, a gynhelir rhwng 1.00-5.00 ddydd Mercher, 18 Mawrth yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Porthaethwy, yn cyflwyno’r mathau o swyddi sydd ar gael yn y sector adnoddau cynaliadwy a’r sgiliau sydd eu hangen i’w gwneud. Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at y cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn y sector adnoddau cynaliadwy yma yng ngogledd Cymru, yn ogystal â thanio brwdfrydedd pobl yn y cyfleoedd newydd sy'n datblygu.
Ceir y manylion llawn am yr holl ddigwyddiadau ar .
Meddai Rosanna Robinson o Goleg Gwyddorau Naturiol y Brifysgol ac un o gyd-drefnwyr y digwyddiad:
"Pan sefydlwyd Gŵyl Wyddoniaeth Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ bum mlynedd yn ôl ein nod oedd cysylltu â'r gymuned ehangach yng ngogledd Cymru ac arddangos yr ymchwil wyddonol o safon ryngwladol a wneir yma ym Mangor. Rydym yn falch o fod yn ganolbwynt i weithgareddau Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain, a chael gweithio gyda'n partneriaid a’n noddwyr i gynnig wythnos arall o weithgareddau llawn bwrlwm."
Cyllidir yr ŵyl gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a grant gan y Gymdeithas Fioleg. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Gŵyl Wyddoniaeth Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ neu anfonwch e-bost at y trefnwyr ar bsf@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2015