Pa mor gyfeillgar i'r hinsawdd ydi'ch paned o goffi chi?
Mae yfwyr coffi'n cael eu hannog i brynu coffi sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, boed yn goffi wedi'i ardystio, organig neu goffi cysgod (wedi'i dyfu yng nghysgod coed sy'n gynefin pwysig i adar). Ond pa mor effeithiol ydi'r ffyrdd hyn o dyfu coffi o ran trechu newid hinsawdd?
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, The Tropical Agricultural Research and Higher Education Centre, Costa Rica (CATIE) a'r Natural Resources Institute ym Mhrifysgol Greenwich, wedi cyhoeddi darganfyddiadau yn y cyfnodolion gwyddonol s ac a all ateb y cwestiwn hwn i ryw raddau.
Mae canlyniadau鈥檙 astudiaethau hyn yn awgrymu y gall lleihau gollyngiadau carbon drwy ddwysau dulliau amaethyddol helpu ffermydd coffi frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Gallai cynhyrchu mwy ar ffermydd coffi presennol, yn hytrach nag ymestyn cynhyrchu coffi i dir sydd dan goedwigoedd ar hyn o bryd, leihau gollyngiadau carbon sy'n achosi newid hinsawdd.
Roedd eu hastudiaeth wedi'i seilio ar ffermydd coffi ac arbrofion maes tymor hir yn Costa Rica a Nicaragua gan ymchwilio i weld a fyddai'n gwneud mwy o synnwyr yn ariannol ac o ran yr hinsawdd i ffermwyr newid o un math o reoli ffermydd i un arall. Er enghraifft, o system lai dwys i un ddwysach, neu o ffermio confensiynol i ffermio organig.
Meddai Dr Martin Noponen, myfyriwr PhD ar y cyd rhwng Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a CATIE, a phrif awdur y ddwy astudiaeth: "Er y gwelwyd nad oedd tyfu coffi dan gysgod yn gwella stoc carbon pridd dros y deg mlynedd gyntaf, rydym yn gwybod bod ffermydd coffi gyda chysgod (rhai gyda choed wedi'u plannu ymysg y llwyni coffi) yn storio mwy o garbon mewn biomas coed na systemau coffi digysgod sy'n cael haul llawn. Yr un pryd, fodd bynnag, gall ffermydd sy'n cael haul llawn fod yn fwy proffidiol drwy gynhyrchu mwy o goffi, a thrwy hynny fod yn ysgogiad i ffermwyr newid o dyfu coffi dan gysgod i'w dyfu dan haul llawn."
Darganfu'r astudiaeth y byddai rhoi iawndal i ffermwyr am beidio 芒 newid i'r dull mwy proffidiol (ond llai cyfeillgar i'r amgylchedd) o dyfu coffi dan haul llawn yn costio rhwng 9.3 i 196.3 US$ am bob tunnell o ollyngiadau carbon a fyddai'n cael ei osgoi. Mae hyn at ei gilydd yn ddrud iawn ac yn llawer uwch na phrisiau presennol y farchnad garbon ryngwladol.
Meddai John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, a arweiniodd y t卯m ymchwil:
"Mae'n bwysig cofio, er y gall ffermydd coffi dan gysgod storio mwy o garbon ac felly fod yn dda i'r hinsawdd mewn un ystyr, os yw'r cnwd o goffi'n llai, yna gall y ffermwyr benderfynu ffermio ardal fwy o dir er mwyn cynnal eu hincwm. Gallai rhai wedyn ddechrau clirio tiroedd coedwig a chael effaith negyddol ar hinsawdd, bioamrywiaeth a gwasanaethau eraill a ddarperir gan ecosystemau coedwig."
"Ar y llaw arall, pe gellid cynhyrchu mwy ar ffermydd lle tyfir coffi dan gysgod, gallai ffermio coffi helpu i leihau newid hinsawdd drwy storio mwy o garbon deuocsid atmosfferig mewn biomas ar yr wyneb, ac yr un pryd leihau'r pwysau i drosi mwy o dir coedwig yn dir amaethyddol."
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2013