Plant ysgol yn creu celf a ysbrydolwyd gan Feini Hirion Ynys M么n
Bydd arddangosfa o waith celf a ysbrydolwyd gan Feini Hirion Ynys M么n yn ymweld 芒鈥檙 Galeri yng Nghaernarfon rhwng 15 Awst a 5 Medi.
Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr arddangosfa a鈥檙 project o lyfr lloffion hynafiaethydd lleol. Yn ei lyfr lloffion, dyddiedig 1938, roedd yr hynafiaethydd Harold Senogles wedi cofnodi gwybodaeth archaeolegol a thynnu lluniau o鈥檙 cerrig mwyaf poblogaidd ar ynys M么n. Yn y llyfr hefyd roedd yn trafod y rhesymau dros adeiladu鈥檙 henebion gwych hyn. Daeth y llyfr lloffion, a roddwyd i Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd 15 mlynedd yn 么l, i鈥檙 golau unwaith eto wrth i wirfoddolwyr sganio tua chwarter miliwn o ddelweddau ar gyfer project Delweddu Archeoleg Gwynedd a ariennir gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Fel rhan o鈥檙 project, bu disgyblion o chwe ysgol ar Ynys M么n yn ymweld 芒 phedwar safle meini hirion, gan gynnwys T欧 Mawr yng Nghaergybi, Llanfechell, Y Cremlyn yn Llanddona a Bryngwyn ym Mrynsiencyn. Yn ystod yr ymweliadau hyn bu鈥檙 bobl ifanc yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau cysylltiedig 芒'r cwricwlwm, er mwyn ail-greu'r wybodaeth yn y llyfr unigryw hwn. Tra ar y safle, buont hefyd yn creu gwaith celf prydferth drwy ddarlunio鈥檙 cerrig gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau. Bu gwirfoddolwyr gyda diddordeb brwd mewn archeoleg, celf a ffotograffiaeth hefyd yn cymryd rhan yn y project a helpu gyda'r ymweliadau ysgol.
Yn dilyn ymweliadau鈥檙 ysgolion 芒'r cerrig, crewyd mwy o gelf gan y bobol ifanc dan arweiniad Julie Williams, artist Cymraeg lleol, sydd wedi bod yn dysgu celf am dros 15 mlynedd. Mae'r gwaith hwn wedi creu arddangosfa gyffrous sy鈥檔 dod 芒 chelf ac archaeoleg at ei gilydd i ddehongli'r agweddau diddorol hyn ar dreftadaeth Cymru. Ceir modelau 3-D o'r meini hirion a gafodd eu hargraffu fel rhan o broject Heritage Together y Brifysgol, sy鈥檔 cael ei ariannu gan yr AHRC.
Dechreuodd yr arddangosfa ar ei thaith yn Llyfrgell Caergybi ar 25 Mai, 2013 ac mae鈥檔 teithio o amgylch gwahanol fannau yng ngogledd Cymru am yr ychydig flynyddoedd nesaf.
http://heritagetogether.org/?lang=cy
Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2014