Poblogaeth Morlo Eliffant ddiflanedig yn datgelu "peiriant amser" esblygiadol.
Gall amrywiaeth enynnol o fewn poblogaethau sydd ar wah芒n ddatblygu'n eithaf cyflym mewn cyd-destun esblygiadol, yn 么l canfyddiadau papur a gyhoeddwyd yn nhrafodion y (sydd ar gael ).
Canfuwyd fod poblogaeth o forloi eliffant deheuol a oedd yn ffynnu yn 么l pob golwg ar Arfordir Tir Fictoria yn yr Antartig am ryw saith mil o flynyddoedd, sy'n gyfnod cymharol fyr mewn cyd-destun esblygiadol, yn gr诺p hynod o amrywiol yn enynnol, yn fwy amrywiol mewn gwirionedd na phoblogaethau morloi eliffant sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Ni fu astudiaethau eang i ba raddau y gall twf mewn poblogaeth a phoblogaeth fawr gynaledig arwain at gynnydd sylweddol mewn amrywiaeth enynnol. Fodd bynnag, roedd astudio gweddillion mymiedig 223 o forloi o'r gymuned arunig hon yn cynnig cyfle unigryw i'r math yma o eneteg poblogaeth gymhwysol brofi'r theori sylfaenol.
Y casgliad a ddaethpwyd iddo o fodelu'r boblogaeth yn enynnol, gan ddefnyddio dulliau ystadegol Bayes, oedd bod yr amrywiaeth yn digwydd in situ yn y boblogaeth, yn hytrach na thrwy ei gyflwyno i'r gr诺p gan fudo newydd o boblogaethau eraill.
Ymddengys fod y gytref genhedlu neilltuol hon wedi ffynnu rhwng pwynt oddeutu 7,000 o flynyddoedd yn 么l, ar 么l diwedd yr Oes I芒 fawr ddiwethaf ac yn gymharol 芒 dechrau'r Oes Efydd, hyd at ganol y ddeunawfed ganrif. Mwy na thebyg galluogodd enciliad y silff i芒 a pheth cynhesrwydd ynghyd 芒 chynefin arfordirol ffafriol, i'r boblogaeth morloi eliffant gynyddu'n gyflym ac i faint mawr iawn.
Mae'r canfyddiadau鈥檔 awgrymu y gallai rhai poblogaethau sydd dan fygythiad gan newid hinsawdd neu ffactorau eraill, fel colli cynefin neu fod ar wah芒n, allu gwneud yn well nag a ragwelwyd, os yw'r amgylchiadau amgylcheddol yn ffafriol.
Esbonia'r prif awdur Mark de Bruyn, o Prifysgol 香港六合彩挂牌资料:
鈥淢ae'r potensial ar gyfer twf cyflym mewn lefelau o amrywiaeth enynnol yn arwyddocaol, gan fod amrywiaeth enynnol yn darparu'r deunydd crai i boblogaethau a rhywogaethau addasu i newid amgylcheddol, fel newid hinsawdd. Mae ein hastudiaeth yn awgrymu o dan yr amodau "cywir", a allai gynnwys canfod cynefin cenhedlu newydd a ffynonellau bwyd addas, y gallai cynhyrchu amrywiaeth enynnol yn hynod o gyflym alluogi rhywogaethau fel y morloi eliffant, sy'n gallu cynyddu maint eu poblogaeth yn rhwydd iawn, i ymateb dros gyfnodau byr iawn i amgylcheddau sy'n newid."
Eglurodd ymhellach:
"Mae'n bosib y gall rhywogaethau sy'n gallu dod o hyd i gynefin newydd wrth i'r hinsawdd newid, ac sy'n gallu cynyddu eu poblogaeth yn gyflym, gael budd o'r gallu i gytrefu ardaloedd newydd yn gyflym, am eu bod yn gallu cynyddu eu lefelau o amrywiaeth enynnol yn unol 芒 hynny. Efallai y bydd rhywogaethau o'r fath angen llai o ymyrraeth pan fo hinsawdd yn newid. Er enghraifft, argymhellwyd strategaethau fel "mudo gyda chymorth" fel ffordd o wrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer rhywogaethau llai symudol ac yn achos graddfeydd isel o dwf poblogaeth. Nid yw hyn o bell ffordd yn awgrymu bod newid hinsawdd anthropogenig yn beth da; collwyd y lefelau uchel yma o amrywiaeth enynnol gyda diflaniad y boblogaeth yn y mileniwm diwethaf."
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2014