Porthiant gwartheg neu fionwy? Astudiaeth Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn dangos manteision ac anfanteision amgylcheddol o gynhyrchu bionwy ar ffermydd llaeth
Mae TA yn cynnig manteision sicr i'r ffermwr llaeth. Ond er bod astudiaethau wedi canfod bod treulio gwastraff ar ffermydd yn gallu lleihau allyriadau nwyon t欧 gwydr ac osgoi disbyddu adnoddau, mae astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn blaenllaw Global Change Biology Bioenergy (DOI: 10.1111/gcbb.12189) yn awgrymu bod cydbwysedd amgylcheddol safleoedd TA ar ffermydd yn dibynnu'n helaeth ar y math o borthiant a ddefnyddir, a rheoli cynnyrch y broses wedyn.
Yn yr ymchwil a wnaed gan wyddonwyr yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Sefydliad Th眉nen yn yr Almaen, defnyddiwyd dull newydd o feintioli cydbwysedd amgylcheddol systemau TA ffermydd llaeth. Cyfunodd yr astudiaeth waith modelu effeithiau agronomig TA ar ffermydd llaeth gydag asesiad cylch bywyd ffin ehangach i ganfod effeithiau anuniongyrchol megis osgoi anfon gwastraff bwyd i dirlenwi a newid yn y defnydd o dir a gysylltir 芒 mwy o fewnforio porthiant anifeiliaid. Mae'r arf "LCAD" a ddatblygwyd gan d卯m 香港六合彩挂牌资料 yn cyfrifo cydbwysedd amgylcheddol gwahanol gymysgeddau porthiant ac opsiynau dylunio a rheoli TA o ran allyriadau nwyon t欧 gwydr, llygru'r aer, llygru d诺r a disbyddu adnoddau. Mae鈥檙 arf ar gael am ddim erbyn hyn o wefan Defra:
Ymysg manteision amgylcheddol TA ar ffermydd llaeth y mae鈥檙 ffaith bod llai o allyriadau nwyon t欧 gwydr yn deillio o storio a rheoli tail, cynhyrchu gwrtaith a llosgi tanwyddau ffosil. Gellir defnyddio cnydau porthi anifeiliaid megis glaswellt ac India corn hefyd fel porthiant i ategu tail a gwastraff yn 么l y gofyn tymhorol, a gellir defnyddio cynnyrch y broses dreulio anaerobig ar y tir fel biowrtaith.
Mae pryder serch hynny bod cymorthdaliadau megis y Tariff Cyflenwi Trydan a'r Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy yn annog defnyddio symiau mawr o gnydau porthiant yn y broses TA. Mae goblygiadau amgylcheddol i'r arfer hwn oherwydd ei fod yn symud cynhyrchiant porthiant anifeiliaid i ranbarthau eraill. Y senario gwaethaf yw y gallai hyn arwain at droi coedwigoedd a glaswelltir naturiol yn dir tyfu cnydau mewn gwledydd sy'n allforio llawr o soya megis Brasil a'r Ariannin. Felly, er bod TA ar ffermydd yn llesol i'r amgylchedd os yw'r rhan fwyaf o'r deunydd yn wastraff bwyd neu slyri, dylid defnyddio cyn lleied o gnydau 芒 phosib er mwyn osgoi perygl sylweddol i'r amgylcheddol ar raddfa fyd-eang.
Mae gwyddonwyr 香港六合彩挂牌资料 yn awgrymu y gellid gwella cydbwysedd amgylcheddol safleoedd TA ar ffermydd yn sylweddol trwy addasu cymorthdaliadau Tariffau Cyflenwi Trydan er mwyn rhoi blaenoriaeth i borthiant gwastraff mwy cynaliadwy, neu gyfyngiadau ar y ganran o borthiant cnydau y gellir cyd-dreulio mewn unedau treuliant anaerobig ar ffermydd. Trwy greu rheoliadau neu gymhelliannau fyddai'n sicrhau bod cynnyrch y broses dreulio'n cael ei gadw mewn tanciau nad ydynt yn gollwng nwyon a bod y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd effeithlon, gellid lleihau problemau llygredd aer a d诺r.
Meddai Dr David Styles, a fu'n arwain yr ymchwil:
"Mae'r astudiaeth hon yn cadarnhau bod treulio tail anifeiliaid a gwastraff bwyd mewn proses anaerobig yn creu budd sylweddol o ran newid i'r hinsawdd a defnydd effeithlon o adnoddau. Ond mae angen rheoli'r safleoedd hyn yn ofalus, gan gynnwys gosod tanciau drutach i gadw cynnyrch y broses dreulio sy'n atal ammonia rhag gollwng, er mwyn osgoi llygredd d诺r ac aer. O safbwynt amgylcheddol nid yw'n bosib cyfiawnhau cyd-dreulio cnydau er mwyn cynhyrchu bionwy ond mewn symiau bach lle bo'n hollol angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y broses dreulio tail a gwastraff yn hyfyw yn economaidd."
Ariannwyd project LCAD gan Defra, fel project AC0410.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2014