Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cynnal y 37ain gynhadledd Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol flynyddol
Cynhaliodd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 y 37ain gynhadledd flynyddol ar 12-13 Medi 2019. Trefnwyd y gynhadledd gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig a noddwyd y gynhadledd gan ). Mae gan academyddion yr Ysgol gysylltiad hir ag EGUK. Dywedodd yr Athro Roberts (cyn-gadeirydd EGUK) 鈥淢ae鈥檔 fraint cael cynnal cynhadledd EGUK ym Mangor, a dod ag ymchwilwyr ac academyddion cyfrifiadura gweledol ledled y DU a'r byd at ei gilydd鈥.
Amcan CGVC yw meithrin mwy o gyfnewid rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr cyfrifiadura gweledol, a denu mwy o ymchwilwyr a phartneriaid o ddiwydiant yn y DU, Ewrop a thramor i'r maes ymchwil hwn sy'n tyfu'n gyflym. Cyflwynwyd 21 o bapurau gwyddonol wedi eu hadolygu gan gydweithwyr yn ystod y gynhadledd, yn trafod pynciau amrywiol fel rhith-realiti, efelychu a chyflwyno, a gweledigaeth gyfrifiadurol. Mae'r gynhadledd yn un wirioneddol ryngwladol, gydag awduron o'r DU, yr Almaen, Ffrainc, Swistir, Gwlad Groeg, Awstria, Sbaen, Swdan, UDA, Irac, a'r Iseldiroedd. Cafodd yr holl bapurau a dderbyniwyd eu cyhoeddi gan .
Llun o ginio'r gynhadledd EGUK 2019
gan yr Athro Carol O'Sullivan (Coleg y Drindod Dulyn). Bu'n siarad am faes animeiddio cyfrifiadurol, a chanolbwyntiodd ar rith-gymeriadau gydag emosiwn, personoliaeth ac arddull unigol. Rhoddodd yr Athro O'Sullivan fanylion hefyd am ei phrofiad fel Uwch Wyddonydd Ymchwil yn Disney Research yn Los Angeles ac fel Athro Gwadd ym Mhrifysgol Genedlaethol Seoul. I gloi'r gynhadledd, rhoddodd Dr Rita Borgo sgwrs oedd yn cyflwyno manylion am enghreifftiau a chanlyniadau ymchwil empirig mewn delweddu.
Rhoddodd pwyllgor y CGVC wobrau am deilyngdod gwyddonol rhai o'r cyfraniadau a gyflwynwyd yn ystod y gynhadledd. Enillodd bedwar papur wobrau ar sail teilyngdod, adolygiadau a chyflwyniad llafar:
- Rhoddwyd Gwobr Ken Brodlie am y Papur Llawn Gorau i "Generating High Fidelity Surface Meshes of Neocortical Neurons using Skin Modifiers", M. Abdellah, C. Favreau, J. Hernando, S. Lapere a F. Schurmann.
- Rhoddwyd Gwobr Rob Fletcher am y Papur Rhaglenni Myfyrwyr Gorau i: "Evaluating Models for Virtual Forestry Generation and Tree Placement in Games", B. Williams, P. D. Ritsos a C. Headleand.
- Rhoddwyd Gwobr Terry Hewitt am y Papur Myfyrwyr Ymchwil Technegol Gorau i: "Accelerating Surface Tension Calculation in SPH via Particle Classification & Monte Carlo Integration", F. Zorrilla, J. Sappl, W. Rauch a M. Harders.
- Rhoddwyd Gwobr David Duce am y Papur Byr Gorau i "Projectional Radiography Simulator: an Interactive Teaching Tool", A. Sujar, G. Kelly, M. Garcia, F. P. Vidal.
Meddai Dr Iestyn Pierce, pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig 鈥淩oedd yn wych gallu cynnal y gynhadledd bwysig hon yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig. Roedd y cyflwyniadau yn cynnwys nifer gan ddarlithwyr ac ymchwilwyr yr ysgol; roedd yn gyfle gwych i arddangos peth o'r ymchwil o safon fyd-eang sy'n digwydd yn yr ysgol鈥. Cynhelir y gynhadledd nesaf gan King鈥檚 College, Llundain (KCL).
Llun o'r cynadleddwyr ar risiau Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, EGUK 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019