Profiad newydd i fam leol
Mam ifanc a adawodd yr ysgol yn 16 oed yn dweud fod astudio ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi newid ei bywyd.
Mae Natasha Yvonne Stubbs-Davies, 35, mam i dri o blant o Ddeganwy, yn graddio gyda BSc mewn Bioleg Canser.
Dywedodd y cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo: "Wrth raddio mae gen i gymysgedd o falchder, rhyddhad fod fy ngwaith yn ddigon da a llawenydd!
"Gadewais yr ysgol yn 16 oed i ofalu am fy mam a'm brodyr a chwiorydd oherwydd ei salwch. Dychwelais i astudio yng Ngholeg Llandrillo yn 22 oed a chwblhau gyda graddau ardderchog. Ar 么l ychydig o flynyddoedd caled, penderfynais ei bod yn amser am newid a gwneud cais i Fangor i gyflawni fy uchelgais o astudio Gwyddorau Biolegol. Mae wedi newid fy mywyd, ac wedi rhoi 鈥榬 cyfle i mi roi bywyd o well ansawdd i fy mhlant. Rwyf yn ddiolchgar tu hwnt i fy holl diwtoriaid, yn enwedig Dr Thomas Caspari, maent yn bobl sy鈥檔 gwirioneddol danio brwdfrydedd rhywun.
Am Fangor, ychwanegodd Natasha: "Dewisais Fangor gan fy mod eisiau astudio鈥檔 lleol oherwydd ymrwymiadau teuluol. Yn ffodus, mae鈥檙 Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mangor yn cynnig ystod ardderchog o gyrsiau.
"Mae myfyrwyr ym Mangor yn ffodus bod Sefydliad Ymchwil Canser Gogledd Cymru wedi鈥檌 leoli yn y Brifysgol, ac felly rydym yn cael ein dysgu gan ymchwilwyr ysbrydoledig.
"Uchafbwynt fy amser ym Mangor oedd cael fy nghanlyniadau. Mae'r rhyddhad a鈥檙 llawenydd fy mod wedi ennill y radd yn eithriadol ac yn emosiynol iawn.
"Mae astudio鈥檔 llawn amser a gofalu am deulu ifanc wedi bod yn heriol iawn. Mae'n anodd cael cydbwysedd, rhwng bod yn y rhiant gorau y gallaf ei fod a neilltuo digon o amser i astudio a chwblhau aseiniadau.
"Yn y dyfodol rwy'n gobeithio parhau 芒'm hastudiaethau ac, yn y pen draw, gweithio ym maes ysgrifennu am wyddoniaeth ac ymwneud 芒'r cyhoedd."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013