Project Gardd y Ddwy Ddraig
Mae Gardd Tsieineaidd gyffrous newydd i鈥檞 datblygu yng Ngardd Fotaneg Treborth, fel rhan o鈥檙 project ehangach ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Bydd casgliad newydd o blanhigion meddyginiaethol Tsieineaidd yn cael ei greu yn yr Ardd Fotaneg. Bydd hyn yn rhan o Broject Gardd y Ddwy Ddraig, a fydd yn cysylltu Gardd Fotaneg Treborth y Brifysgol 芒 Gardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna (XTBG) yn nhalaith Yunnan Tsieina, ar y cyd 芒 phartneriaid eraill y project, Undeb Gerddi Botaneg Tsieineaidd, Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin, Cadwraeth Gerddi Fotaneg Ryngwladol a Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Bydd Gardd Fotaneg Treborth yn cynyddu ei chasgliad o blanhigion meddyginiaethol Tsieineaidd yn ystod y flwyddyn i ddod.
Dywedodd Nigel Brown, Curadur Gardd Fotaneg Treborth:
鈥淩ydym yn ddiolchgar i Sefydliad Confucius am gyllido project y casgliad o blanhigion. Unwaith y bydd wedi ei sefydlu, bydd y casgliad newydd o ddiddordeb i unrhyw un sy鈥檔 ymddiddori yn y defnydd diwylliannol Tsieineaidd o blanhigion, i arddwyr brwd ac i鈥檙 gymuned Tsieineaidd leol. Bydd hefyd yn darparu adnodd addysgu rhagorol ar gyfer ein cwrs 么l-radd MSc newydd mewn Cadwraeth Planhigion.鈥
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is -Ganghellor Prifysgol 香港六合彩挂牌资料:
鈥淏ydd Project Gardd y Ddwy Ddraig yn ehangu ein gallu ar gyfer addysgu, ymchwil a chyfnewid gwybodaeth yn y gwyddorau botanegol rhwng Cymru a Tsieina. Rydym yn edrych ymlaen yn benodol at y cyfleoedd y mae鈥檔 eu cynnig er mwyn croesawu myfyrwyr ac academyddion Tsieineaidd i Fangor ac i roi cyfle i鈥檔 myfyrwyr a鈥檔 staff weithio gyda鈥檔 cydweithwyr yn Tsieina drwy hyfforddiant newydd a rhaglenni cyfnewid.鈥
Dywedodd yr Athro Chen Jin, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna:
鈥淢ae鈥檙 cyswllt newydd rhwng Treborth a XTBG yn gam sylweddol tuag at greu cysylltiadau cryf i Gymru a Tsieina. Mae鈥檙 Ardd Tsieineaidd newydd yn Nhreborth yn gyffrous iawn ac rwy鈥檔 falch o gael bod yn rhan o鈥檙 project.鈥
Bu'r Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a鈥檙 Athro Chen Jin o Undeb Gerddi Botaneg Tsieineaidd yn arwyddo Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth mewn derbyniad yng Ngardd Fotaneg Treborth. Hefyd yn bresennol oedd yr Athro Steve Blackmore, Botanegydd y Frenhines, a chyn-gyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg Frenhinol yng Nghaeredin.
Mae鈥檙 project hefyd wedi derbyn arian gan y Cyngor Prydeinig. Mae鈥檙 digwyddiad dod 芒 mwy nag wythnos o weithgareddau Tsieineaidd ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 i ben 鈥 wythnos a gychwynnodd 芒 chyngerdd cerddorol Sefydliad Confucius Llais y Ddwy Ddraig: Deialog cerddorol Cymru-Tsieina a gynhaliwyd ddydd Iau 1 Mai, ac yna Symposiwm Cyfnewidfa L锚n Tsieina 鈥 Cymru a lansiad Canolfan newydd y Brifysgol ar gyfer Astudiaethau Dwyrain Asia ddydd Gwener 2 Mai. Cynhaliwyd hefyd 糯yl Farcutiaid Tsieineaidd yng Ngardd Fotaneg Treborth ddydd Sul 4 Mai.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014