Rhaglen newydd i鈥檞 lansio mewn Coedwigaeth Drofannol
Bydd cwrs dysgu o bell MSc mewn Coedwigaeth Drofannol yn cael ei lansio ym Medi 2012. Caiff y rhaglen ei datblygu a鈥檌 chynnal mewn cydweithrediad 芒 Phrifysgol adnabyddus Copenhagen.
Efallai y bydd cyllid ysgoloriaeth i'w gael i'r cwrs rhan-amser tair blynedd, ac edrychir yn llawn ar hyn dros y misoedd i ddod.
Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth wedi bod yn cynnig cyrsiau dysgu o bell mewn Coedwigaeth er 2001 ac mae ganddi gryn arbenigedd yn y maes hwn. Ymhellach, mae gan yr Ysgol gryfderau cydnabyddedig mewn Coedwigaeth, pwnc y mae wedi bod yn ei ddysgu ers dros ganrif.
Bydd y rhaglen yn adeiladu ar y cysylltiadau presennol a chryfderau鈥檙 rhaglenni meistr presennol hynod lwyddiannus: MSc Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy (SUFONAMA) a MSc Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy (SUTROFOR). Datblygwyd y rhaglenni hyn gan gonsortia rhaglenni Meistr Ewropeaidd a鈥檜 cyllido gan raglen Erasmus Mundus yr UE. Yn ogystal 芒 hyn, yn ddiweddar derbyniodd yr Ysgol 12 o ysgoloriaethau rhyngwladol wedi鈥檜 cyllido鈥檔 llawn gan y Commonwealth Scholarship Commission (CSC) ar gyfer astudio MSc Coedwigaeth trwy ddulliau dysgu o bell. Mae鈥檙 Ysgol yn gobeithio derbyn 15 arall o ysgoloriaethau rhyngwladol CSC ar gyfer astudio鈥檔 dechrau yn 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2011