Safleoedd tirlenwi : llawer mwy na llwyth o sbwriel
Mae safleoedd tirlenwi'n llawer mwy na llwyth o sbwriel - oherwydd dylid eu hystyried yn un o'r prif adnoddau wrth chwilio am ensymau newydd i fiotechnoleg. Yn wir, gallant arwain at gynhyrchu biodanwydd mwy effeithlon.
Meddai James McDonald, o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, a fu'n arwain yr ymchwil:
"Mae yna gryn symbyliad ar hyn o bryd i chwilio am ensymau newydd i wella prosesau trosi biomas. Oherwydd y swm enfawr o ddeunyddiau gwastraff sydd ynddynt, ein damcaniaeth ydi bod safleoedd tirlenwi'n cynnwys sylweddau sydd heb eu harchwilio eto a all ddiraddio biomas. Mae yna botensial mawr i adnabod ensymau newydd o bwysigrwydd ecolegol a biolegol."
Mae cellwlos a lignin i'w cael yn naturiol mewn deunyddiau'n deillio o blanhigion ac yn cymryd mwy o amser i ddiraddio na chynhyrchion gwastraff eraill. O ganlyniad i hyn lignin a cellwlos yw'r rhan fwyaf o wastraff tirlenwi. Yn eu ffurf blanhigion, gellir eu defnyddio'n sail i gynhyrchu biodanwydd, a bydd adnabod ensymau mwy effeithiol ar gyfer y broses hon yn gwella'r cynnyrch o'r ffynhonnell hon.
Mae gwyddonwyr wedi bod yn chwilio ers nifer o flynyddoedd am yr ensymau mwyaf effeithiol sy'n dadelfennu'r cellwlos a lignin o fewn y ffibrau naturiol sydd ar 么l. Y lle amlwg i chwilio fu yn rwmen defaid a gwartheg, sy'n bwyta glaswellt, ac ym mherfedd creaduriaid eraill sy'n bwyta planhigion, megis eliffantod a thermitiaid.
Er syndod i lawer efallai, mae gan safleoedd tirlenwi lawer o'r un nodweddion 芒 systemau treulio'r anifeiliaid hyn: maent yn fannau tywyll prin o ocsigen, gyda chynnwys cellwlos uchel. Felly at safleoedd tirlenwi, sy'n 'systemau' wedi'u creu'n artiffisial, y trodd y gr诺p hwn o wyddonwyr i chwilio am ensymau newydd sy'n diraddio planhigion.
Yn y papur mae'r awduron yn disgrifio sut y gwnaethant ddefnyddio'r hylif a geir mewn safleoedd tirlenwi fel ffynhonnell microbau i ddadelfennu cotwm. Fe wnaethant hefyd nid yn unig ddadansoddi'r teuluoedd o facteria, ond hefyd nodi pa facteria sy'n cynhyrchu grwpiau o ensymau i ddiraddio cellwlos.
Meddai Emma Ransom-Jones, ymchwilydd 么l-ddoethurol ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 a phrif awdur yr astudiaeth:
"Bydd deall sut yn union mae'r cellwlos a'r lignin yn dadelfennu, a ffynonellau'r ensymau gweithredol yn y broses, yn ein galluogi i benderfynu ar ffyrdd i wella diraddio gwastraff mewn safleoedd tirlenwi a defnyddio hynny o bosib fel ffynhonnell i gynnyrch biodanwydd."
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017