Staff 'SENRGy' yn cyflwyno hyfforddiant caffael gwybodaeth gan ddefnyddio'r feddalwedd a'r fethodoleg AKT5 (Pecyn Gwybodaeth Amaeth-ecolegol).
Cyllidwyd gan raglenni ymchwil y Gr诺p Ymgynghorol ar Amaethyddiaeth Ryngwladol (CGIAR): Systemau Tir Sych a Throfannau Llaith.
Ym mis Mai 2013 cynhaliodd a gwrs hyfforddi yn Lilongwe, Malawi, fel rhan o'r Rhaglen Amaethgoedwigaeth Diogelwch Bwyd (AFSP) a gyllidir gan Irish Aid. Roedd y rhai a gymerodd ran o swyddfa ICRAF-Malawi, Prifysgol Amaethyddiaeth ac Adnoddau Naturiol Lilongwe, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Phrifysgol Copperbelt. Arweinydd y cwrs oedd Genevieve Lamond, Swyddog Cefnogi Project Ymchwil yn ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Cynhaliwyd y cwrs dros gyfnod o bythefnos, ac roedd yn cynnwys ymarferion maes a hyfforddiant damcaniaethol mewn caffael gwybodaeth gan ffermwyr yn Ardal Ehangu Cynllunio Linthipe, Rhanbarth Dedza - un o'r ardaloedd a dargedwyd dan yr AFSP. Dysgodd y rhai a gymerodd ran sut i ddefnyddio'r feddalwedd AKT5 i greu cronfeydd gwybodaeth unigol gan ddefnyddio cyfweliadau a gynhaliwyd ganddynt mewn grwpiau bychain o ddau neu dri yn y maes. Cynhaliwyd cyfweliadau lled-stwythuredig a thrafodaethau grwpiau ffocws gyda ffermwyr gan ddefnyddio ymarferion llunio clociau gweithgaredd, mapiau adnoddau, llinellau amser hanesyddol, a chalendrau tymhorol.
Roedd y ffermwyr yn gallu trafod dros 40 o goed yn yr ardal, eu harbenigedd a'r cynhyrchion a gwasanaethau maent yn eu darparu. Mewn ardal sydd wedi dioddef datfforestu difrifol yn y gorffennol, mae gan goed ar ffermydd swyddogaeth hanfodol o ran diogelu bywoliaeth. Mae'n bwysig deall y cyfleoedd a'r cyfyngiadau mae ffermwyr yn eu hwynebu wrth gyflwyno mwy o goed i'w tir, er mwyn gallu cynllunio ymyrraeth project yn briodol.
鈥淩oedd y gwaith maes yn ddefnyddiol iawn a helpodd gyflwyno'r rhai a gymerodd ran ar y cwrs ar gyfer eu gwaith maes eu hunain. Roedd natur gymysg y cyfranogwyr hefyd yn golygu profiad gwerthfawr iawn a ganiat芒i gyfle da i rwydweithio gyda phobl o feddylfryd tebyg o wahanol gefndiroedd a diddordebau", dywedodd Nicholas Wightman (myfyriwr MSc Amaethgoedwigaeth yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth).
Yn dilyn yr hyfforddiant, bydd un myfyriwr PhD a phedwar myfyriwr MSc o'r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn cymhwyso'r hyn maent wedi'i ddysgu i'w projectau traethawd hir eu hunain ym Malawi, Zambia, Ethiopia ac Uganda.
Penawdau ffotograffau:
Gyda'r ffermwyr yn ystod sesiwn ymateb ar ddiwrnod olaf yr hyfforddiant.
Cyfranogwyr y cwrs gyda'u tystysgrifau (o'r chwith i'r dde: Frank Musa, Ayda Rostami Jalilian, Grace Mutali, Genevieve Lamond, Sileshi Weldesemayat, Nicholas Wightman, Eefke Mollee, Wezzie Chisenga a Chisomo Gunda).
Mapio adnoddau gyda gr诺p o ffermwyr gwrywaidd ym mhentref Chafwala, Linthipe EPA.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2013