Sut i ddechrau busnes am lai na 拢5,000
Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr, graddedigion a staff y Brifysgol ddysgu sut i ddechrau busnes am lai na 拢5,000 mewn cyflwyniad 鈥楽tart-Up Smart鈥 a drefnwyd gan broject Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Daeth dros drigain o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd ac adrannau academaidd i'r digwyddiad.
Rhoddwyd y cyflwyniad gan Robin Bennett, rheolwr gyfarwyddwr The Bennett Group ac awdur 鈥淪tart-Up Smart; How to start and build a business for 拢5000.鈥 Defnyddiodd Robin ei brofiad o greu nifer o gwmn茂au i amlygu'r manteision o ddechrau cwmni gyda chyllideb fach ac ychydig iawn o arian wedi ei fenthyca. Gan siarad mewn ffordd hamddenol a di-lol, rhoddodd ddisgrifiad llawn o鈥檌 lwyddiannau a鈥檌 fethiannau gyda chwmn茂au gwahanol a rhoddodd hefyd gyngor ar ddechrau cwmni llwyddiannus.
Cyflwynwyd cop茂au o lyfr Robin i bum aelod o鈥檙 gynulleidfa a ddewiswyd ar hap. Roedd siop lyfrau鈥檙 Muse, sydd ar Ffordd Caergybi ym Mangor, hefyd yno yn gwerthu cop茂au ychwanegol o鈥檙 llyfr ac ar 么l y cyflwyniad bu Robin hefyd yn llofnodi rhai o鈥檙 llyfrau.
Dywedodd Lowri Owen, Hyrwyddwr Menter ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料:
鈥淢ae鈥檔 wych cael entrepreneur fel Robin Bennett yn siarad ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Roedd ei brofiad helaeth o ddechrau cwmn茂au yn cael ei adlewyrchu yn ei gyngor ymarferol i fyfyrwyr, graddedigion a staff ar ddechrau cwmni gan fenthyca cyn lleied 芒 phosib o arian; neges sy'n hynod o berthnasol yn yr hinsawdd economaidd heddiw."
Mae鈥檙 project Byddwch Fentrus yn cynnal gweithdai, cystadlaethau a digwyddiadau eraill sy鈥檔 ymwneud 芒 sgiliau menter a dechrau busnes. Am ragor o wybodaeth, ewch i neu , neu cysylltwch 芒鈥檙 t卯m:
E-bost: b-enterprising@bangor.ac.uk
Ff么n: 01248 383651.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2011