Sut mae'r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar ein defnydd o lecynnau gwyrdd?
Rydym yn gwybod bod cael mynediad at lecynnau gwyrdd a natur yn effeithio ar ein hwyliau a hyd yn oed ar ein hiechyd meddwl a鈥檔 lles. Mae'r cyfyngiadau symud wedi newid ein mynediad at y llecynnau hyn. Pa effaith caiff hyn ar ein lles? A beth all hyn ddweud wrthym am bwysigrwydd mannau o'r fath a phrofiadau gwahanol grwpiau economaidd yn ein cymdeithas?
Mae Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi ennill grant gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU i ateb rhai o鈥檙 cwestiynau hyn.
Roedd Rachel Dolan, myfyrwraig PhD yn yr ysgol eisoes yn gweithio ar ddefnydd o lecynnau gwyrdd yng Nghymru a sut mae hyn yn amrywio ar sail newidynnau cymdeithasol-ddemograffig. Ym mis Ionawr, cynhaliodd arolwg gyda sampl gynrychioliadol o 1,000 o bobl yng Nghymru.
Meddai Rachel Dolan:
鈥淩ydym yn gwybod bod treulio amser yn yr awyr agored mewn llecynnau gwyrdd fel gerddi, parciau, traethau neu goedwigoedd yn bwysig iawn i鈥檔 lles. Ond nid oes gan bawb yr un mynediad i lecynnau gwyrdd. Mae mynediad yn ddibynnol ar ble rydych yn byw, ond mae ffactorau cymdeithasol ac economaidd eraill fel arian yn bwysig hefyd; mae鈥檔 debyg bod gan bobl fwy cefnog fynediad haws i lecynnau gwyrdd, lle bynnag maent yn byw, er enghraifft.鈥
Yn 么l Julia Jones, Athro Gwyddor Cadwraeth ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, sydd yn arwain y project:
鈥淢ae profiadau pobl yn ystod y misoedd diwethaf gyda Covid-19 wedi pwysleisio pa mor bwysig yw treulio amser yn yr awyr agored. Mae鈥檙 argymhellion ledled y DU wedi annog ymarfer corff yn yr awyr agored, er bod gwledydd eraill wedi cyfyngu ar y gallu i wneud hyn yn sylweddol iawn.
Yn sicr, rwyf wedi cael budd o dreulio amser ym myd natur yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn.鈥
Meddai Simon Willcock, Uwch Ddarlithydd Daearyddiaeth Amgylcheddol:
鈥淩ydym eisiau gweld os yw ymwneud pobl 芒 byd natur wedi newid ers y cyfyngiadau symud, ac ym mha ffordd. A yw pobl efallai'n mynd i leoedd sy'n agosach at adref yn amlach? Neu a yw pobl yn aros yn eu gerddi? Beth am bobl sydd heb ardd? Sut mae鈥檙 newidiadau i fynediad i lecynnau gwyrdd yn gwneud i bobl deimlo? Sut mae hyn yn newid yn 么l lle mae pobl yn byw a鈥檙 ffactorau economaidd a chymdeithasol holl bwysig?鈥
Nod yr ymchwil yn y pendraw yw darparu gwybodaeth a all gyfrannu at ddatblygiad polis茂au ar lefel lleol a chenedlaethol.
Cyllidir yr astudiaeth gan yr ESRC, Cwmni鈥檙 Brethynwyr, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU a鈥檙 bwriad yw cwblhau鈥檙 gwaith erbyn mis Medi 2021
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2020