‘The future of our oceans’ - darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ gan wyddonydd amlwg
Dyfodol ein cefnforoedd fydd yn cael sylw mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ddydd Mercher, 4 Mawrth. Y siaradwr fydd Jacqueline McGlade, Athro Gwytnwch a Datblygu Cynaliadwy yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a Chymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau. Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau. Mae croeso i bawb.
Dywedodd Yr Athro McGlade: "Mae tystiolaeth ddiweddar am swm y plastigau a sbwriel sydd yn ein cefnforoedd wedi arwain i lawer o'r cyhoedd ymwrthod â phlastigau a ddefnyddir unwaith yn unig. Nid yw eu gwahardd yn ddigon i ddiogelu iechyd ein cefnforoedd; yr hyn sydd ei angen yw ailgynllunio systemau cynhyrchu byd-eang yn llwyr. Yn y ddarlith hon byddaf yn amlinellu ffyrdd y gallwn weithio i 'warchod a defnyddio'r cefnforoedd, y moroedd ac adnoddau môr yn gynaliadwy ar gyfer datblygu cynaliadwy' (un o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig) a hynny yn wyneb defnydd a chynhyrchu anghynaladwy a hinsawdd sy'n newid yn gyflym."
Mae Jacqueline McGlade yn Athro'r Amgylchedd yng Ngholeg Gresham. Mae ganddi Gadair yn Institute for Global Prosperity UCL ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Sekenani ym Mhrifysgol Maasai Mara yn Kenya.
Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Gweithredol yr Asiantaeth Amgylchedd Ewropeaidd rhwng 2003-2013, ac o 2014-2017 roedd yn Brif Wyddonydd a Chyfarwyddwr Adran Wyddoniaeth Rhaglen yr Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig yn Nairobi. Astudiodd ym Mhrifysgolion Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Guelph (Canada) a Chaergrawnt.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â public.lectures@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2020