Trafod Gwastraff yn y Cwpwrdd Dillad
Faint o wastraff sydd gennych chi yn eich cwpwrdd dillad?
Y tymor hwn, mae cael secwinau ar ddillad yn ffasiynol iawn ond mae鈥檙 鈥榝fasiwn cyflym鈥 hwn yn cael effaith ddifrifol iawn ar ein hamgylchedd.
Mae Dr Graham Ormondroyd o鈥檙 Ganolfan BioGyfansoddion yn gweithio gyda鈥檙 dylunydd Rachel Clowes i greu secwin cynaliadwy fydd yn pydru ar 么l amser.
Sefydlodd Rachel Clowes, sydd yn ddylunydd print a brodwaith yn Llundain y cwmni y llynedd ddarparu secwin cynaliadwy i鈥檙 diwydiant ffasiwn.
Mae Rachel ar hyn o bryd yn defnyddio plastig wedi ei ailgylchu i ddarparu secwinau oddi ar y silff a rhai wedi eu gwneud yn arbennig o wahanol feintiau a siapiau. Aiff hyn un cam yn agosach at nod Rachel o ddatblygu secwin sydd, wrth gael ei atodi i ddefnydd pydradwy, yn pydru yn gyfan gwbl yn naturiol unwaith ei fod wedi cyrraedd safleoedd tirlenwi.
Yn dilyn cyfarfod ar hap mewn digwyddiad deunyddiau naturiol yn Llundain, trodd Rachel at arbenigwyr Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a gofynnodd iddynt gyfrannu eu profiad aruthrol i鈥檙 project.
Mae gan Ganolfan Biogyfansoddion y Brifysgol dros 30 mlynedd o brofiad o ddarparu deunyddiau neu gynhwysion amgen yn seiliedig ar blanhigion i ddiwydiannau gweithgynhyrchu ac adeiladu i ddisodli deunyddiau anadnewyddadwy.
Maent eisoes wedi cyfrannu gwybodaeth i ddatblygu amrywiaeth o nwyddau'n llwyddiannus, o waelodion pitsa y gellir eu compostio, caeadau ailgylchadwy i gwpanau coffi a bocsys wyau wedi'u seilio ar laswellt, i ddeunyddiau adeiladu bio-seiliedig a hyd yn oed gydrannau ceir.
Eglurodd Dr Graham Ormondroyd o鈥檙 y broses. Dywedodd,
鈥淵 syniad yw cymryd biopolymer, rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio wrth becynnu mewn cymwysiadau heddiw, a chreu secwin sy'n cyd-fynd 芒 llewyrch a bywiogrwydd lliw secwinau traddodiadol.
鈥淥nd ar ddiwedd ei oes, byddwch chi'n gallu compostio'r secwin hwnnw i mewn i CO2 syml a d诺r a bydd hynny'n dda i'r amgylchedd.鈥
Mae Rachel yn hapus gyda sut mae pethau'n datblygu hyd yn hyn. Meddai,
鈥淎r hyn o bryd rydym wedi llwyddo i wneud ffilm bioplastig a fydd yn bioddiraddio, sy'n rhagorol. A'r cam nesaf yw cynhyrchu lliwiau hyfryd iawn a gweithio ar sglein y secwinau.
鈥淕obeithio mai dyfodol y prosiect hwn yw ein bod yn gallu cynhyrchu rhai secwinau hardd, llachar, sgleiniog a fydd yn pydru yn ddiogel ar ddiwedd eu hoes.鈥
Dewch i wybod mwy am y Coleg Gwyddorau Amgylchedd a Pheirianneg ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2019