Tree Sparks yn mynd o nerth i nerth
Mae cwmni eco-ymwybyddiaeth a sefydlwyd gan fyfyrwraig yn dilyn cyfnod o waeledd wedi derbyn sêl bendith gan rwydwaith busnes dylanwadol.
Mae Tree Sparks, sef menter gymdeithasol wedi ei sefydlu gan Jemima Letts, myfyrwraig Coedwigaeth ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o gadwraeth a materion amgylcheddol, wedi derbyn gwerth blwyddyn o aelodaeth ddi-dâl o’r West Cheshire and North Wales Chamber of Commerce. Mae Tree Sparks hefyd wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn rhaglen ‘Young Chamber’ y Siambr Fusnes, sef partneriaeth rhwng busnesau ac entrepreneuriaid lleol ac ysgolion a cholegau’r rhanbarth er mwyn pontio’r gagendor rhwng addysg a busnes.
Arweiniodd cyfnod o drawiadau (seizures) lled-gyson i Jemima roi’r gorau i’w hastudiaethau am gyfnod ond, gan fynnu nad oedd y cyflwr yn cael y gorau ohoni, defnyddiodd yr amser yn ddoeth a ffurfio Tree Sparks, sydd, mewn dim o amser, wedi derbyn llu o wobrau.
Roedd cynrychiolwyr o’r West Chester and North Wales Chamber of Commerce wedi gweld Jemima yn cyflwyno ei busnes mewn digwyddiad Syniadau Mawr Cymru / Big Ideas Wales yn gynharach eleni ac yn dymuno gwobrwyo ei sgiliau entrepreneuraidd wrth sefydlu busnes buddiol dan amgylchiadau digon anodd. Mae Syniadau Mawr Cymru / Big Ideas Wales yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru a’i fwriad yw i annog entrepreneuriaeth ymhlith ieuenctid Cymru. Fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac fe'i hanelir at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes.
Roedd beirniaid y digwyddiad wedi eu plesio’n arw â busnes Jemima a dyfarnwyd gwobr Effaith Gymdeithasol ac Entrepreneuriaeth y Dyfodol iddi, ynghyd â grant o £1000 i’w galluogi i ddatblygu ei busnes ymhellach.
Fyth ers ei ffurfio, mae Tree Sparks wedi derbyn cefnogaeth gan dîm B-Fentrus y Brifysgol – sef uned arbenigol sy’n rhoi cymorth i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau busnes a mentergarwch. Gan drafod y wobr ddiweddaraf yma yn hanes Jemima a Tree Sparks, meddai Rheolwr Mentergarwch Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Lowri Owen:
‘Mae angerdd Jemima wrth ddatblygu ei syniad busnes wedi wedi talu ar ei ganfed. Mae wedi manteisio ar bob cyfle ac mae wir yn wych gweld ei hunan-hyder yn datblygu yn y fath fodd.’
Ategwyd hyn gan Debbie Bryce, Dirprwy Brif Weithredwr y West Cheshire and North Wales Chamber of Commerce, pan gyflwynodd dystysgrif aelodaeth i Jemima yn ddiweddar:
‘Roeddwn wedi fy nghyfareddu gan Tree Sparks ac ethos y cwmni. Mae Jemima yn entrepreneur penigamp ac mae ei gweledigaeth wrth greu ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith myfyrwyr yn cydfynd yn berffaith â’n rhaglen ‘Young Chamber’ ni. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos â’n hysgolion a’n colegau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o’r sector amgylcheddol a chyflwyno pobl ifanc i lwybrau gyrfau nad oedden nhw o bosib wedi eu hystyried o’r blaen.’
Bellach yn ôl yn y Brifysgol ac yn graddio yn 2019, mae Jemima’n edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod:
‘Dwi wir yn edrych ymlaen at gael bwrw iddi â’r gwaith academaidd a chynnal y rhaglen peilot Tree Sparks cyntaf, gan weithio’n agos â myfyrwyr Coedwigaeth a chyrsiau amgylcheddol yma ym Mangor. Dwi wedi bod yn ffodus iawn yn y cymorth gan uned B-Fentrus a’r Ysgol Gwyddorau Naturiol dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddatblygu Tree Sparks a fedra i ddim disgwyl i weld be ddaw yn y flwyddyn newydd!’.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018