Troi caeau gwartheg yn goedwigoedd
Yn 么l papur sydd newydd ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn, , mae troi caeau gwartheg yn goedwigoedd yn ffordd rad o fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd ac arbed rhywogaethau sy'n wynebu difodiant.
Fe wnaeth ymchwilwyr wneud arolwg o stociau carbon, bioamrywiaeth a gwerthoedd economaidd o un o'r ecosystemau sydd dan fwyaf o fygythiad yn y byd, sef gorllewin yr Andes yn Colombia.
Defnyddir y tir yn bennaf yn yr ardaloedd hyn i fagu gwartheg, ond dangosodd yr astudiaeth y gallai ffermwyr wneud yr un faint o arian, neu hyd yn oed fwy, trwy adael i'w tir aildyfu'n naturiol.
Gyda'r marchnadoedd carbon sydd wedi'u sefydlu i atal cynhesu byd-eang, byddent yn cael eu talu i newid defnydd eu tir o fagu gwartheg i dyfu carbon - gan dderbyn tua US$1.99 am bob tunnell o garbon deuocsid y byddai'r coed a dyfid ganddynt yn ei dynnu o'r atmosffer.
Byddai hyn o gymorth hefyd i roi hwb i boblogaethau llawer o rywogaethau sydd dan fygythiad difrifol.
Mae peth adnoddau ariannol ar gael i fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, felly mae angen symud yn gyflym i roi sylw i'r ddau fater gyda'i gilydd.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan y prif ymchwilydd Dr James Gilroy o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol Prifysgol East Anglia tra oedd ym Mhrifysgol Gwyddorau Bywyd Norwy.
Meddai: "Mae'r ymchwil yma'n dangos bod yna fanteision amgylcheddol ac ecolegol mawr o newid defnydd tir o fagu gwartheg i goedwigoedd, ac efallai bod yna fanteision ariannol hefyd.
Pe gadewid i'r ardaloedd yma fynd yn 么l yn goedwigoedd, yna byddai symiau sylweddol o garbon deuocsid yn cael eu dal o'r atmosffer. Gellid adfer bioamrywiaeth hefyd gan wella cynefinoedd llawer o rywogaethau sydd mewn perygl o gael eu difodi - a hynny am gost fychan iawn.
Mae'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill."
Un o gyd-awduron y papur yw Dr Paul Woodcock, ymchwilydd 么l-ddoethurol yn ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, a dyma oedd ganddo ef i'w ddweud: "Yn fyd-eang, mae coedwigoedd yn storio symiau enfawr o garbon, felly gall y syniad o dalu am aildyfu coedwigoedd fod yn rhan bwysig o strategaethau i wrthsefyll newid hinsawdd. Llun: D Edwards
Ond mae yna bryder bod gwerth tir mewn rhai rhanbarthau'n rhy uchel i wneud taliadau carbon o'r fath yn ymarferol yn economaidd.
"Yn ein hastudiaeth ni, fe wnaeth carbon grynhoi'n gyflym mewn coedwigoedd a ailsefydlwyd. Oherwydd mai ychydig iawn o elw a geir wrth ffermio gwartheg yn y rhanbarth, gellid fforddio taliadau i aildyfu coedwigoedd yn yr Andes Trofannol."
Darganfu'r astudiaeth hefyd bod gadael i goedwigoedd aildyfu wedi cael effaith enfawr ar boblogaethau rhywogaethau dan fygythiad.
Mewn coedwigoedd eilaidd yn y rhanbarth, darganfu ymchwilwyr 33 o 40 o rywogaethau adar ar y rhestr goch sydd dan fygythiad difodiant. Fodd bynnag, mewn porfeydd gwartheg dim ond 11 oedd i'w cael.
"Mae hyn yn costio ychydig iawn o arian," meddi uwch wyddonydd, Dr David Edwards, o Adran Gwyddorau Anifeiliaid a Phlanhigion Prifysgol Sheffield.
"A chymryd bod pobl yn fodlon gwario'r arian, gallai hon fod yn ffordd hollbwysig i stopio newid hinsawdd a gwarchod rhai o'r rhywogaethau sydd mewn perygl fwyaf yn y byd.
Mae manteision economaidd ffermio gwartheg yn fychan iawn, felly mae hon yn ffordd lle gallai ffermwyr wneud cymaint, os nad mwy, o arian. Bydd y tir yn cael ei rentu gan ffermwyr am 30 mlynedd a byddent yn cael eu talu am y carbon a dyfir.
"Rydym wedi astudio coedwigoedd h欧n sydd tua 20-30 oed ac wedi gweld eu bod wedi adfer tua hanner carbon coedwig wirioneddol aeddfed. Mae mwy o garbon yn dod yn 么l bob blwyddyn ac, wrth wneud hynny, mae niferoedd mawr o rywogaethau sydd dan fygythiad mawr yn dychwelyd.
"Gall yr effaith ar leihau'r argyfwng difodiant bioamrywiaeth a newid hinsawdd fod yn enfawr."
yn ymddangos ar wefan Nature Climate Change o 29.4.14 .
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2014