Tystiolaeth newydd o newid hinsawdd yng ngogledd ddwyrain Affrica yn cefnogi dyddiad cynnar ymwasgariad cyntaf bodau dynol allan o鈥檙 cyfandir
Mae tarddiad gwreiddiol bodau dynol, homo sapiens, a'i ymfudiadau dilynol, yn ffynhonnell gyson o drafod ymysg ymchwilwyr y maes.
Y consensws a sefydlwyd eisoes yw ein bod wedi tarddu o gyfandir Affrica, nepell o Ddyffryn Hollt Dwyrain Affrica, ac yna wedi ymfudo o鈥檙 cyfandir o ddeutu 70,000 o flynyddoedd yn 么l.
Ond mae llu o ymchwilwyr yn cynnig yn wahanol; gydag ambell i dystiolaeth enetigol yn cynnig dyddiad llawer yn gynharach 鈥 sef tua 120,000 i 130,000 o flynyddoedd yn 么l.
Ond o fewn y maes, nid oes fawr o dystiolaeth uniongyrchol o鈥檙 hinsawdd yn y rhan yma o鈥檙 byd dros y cyfnodau hyn; ond mae cydnabyddiaeth eang fod hinsawdd yn effeithio ar batrymau ymfudo bodau dynol.
Mae ymchwil newydd wedi cael ei gyhoeddi yn Reports sydd a鈥檌 nod o ddatrys y diffyg gwybodaeth hinsoddol yma.
Wedi eu harwain gan yr Athro Henry Lamb o Brifysgol Aberystwyth, mae ymchwilwyr o Aberystwyth, 香港六合彩挂牌资料, St Andrews, a鈥檙 鈥淣ERC Radiocarbon Facility鈥 yn cyflwyno cofnod hinsawdd o Ethiopia sy鈥檔 mynd yn 么l o鈥檙 presennol hyd at 150,000 o flynyddoedd. Credir mai hwn yw鈥檙 cofnod hinsawdd hiraf o鈥檌 fath o Ogledd Ddwyrain Affrica.
Gwnaeth y gr诺p ymchwil arolwg seismig ar Lyn Tana, yn ucheldir Ethiopia; ac yna tyllu ac echdynnu 93 medr o waddod o waelod y llyn. Defnyddiwyd technegau newydd ymoleuedd i ddadansoddi鈥檙 gwaddod, a galluogodd hyn i鈥檙 t卯m gael dyddiadau da i lawr drwy holl ddyfnder y sampl. Darganfuwyd fod y gwaddod yn llawn gyn hyned 芒鈥檙 dyddiadau dadleuol a nodir uchod wrth s么n am ymfudiadau dynol.
Rhoddodd data geo-cemegol wybodaeth yngl欧n 芒鈥檙 cydbwysedd rhwng anweddiad a glawiad dros y cyfnod. Wrth gyplysu hyn efo鈥檙 data seismig, roedd y t卯m nid yn unig yn gallu gwahaniaethu rhwng cyfnodau gwlyb a sych, ond hefyd yn gallu nodi amseroedd pan oedd yr hinsawdd yn sefydlog, o鈥檌 gymharu ac amseroedd eraill pan roedd y sefyllfa yn fwy ansefydlog.
Mae鈥檙 dystiolaeth yn dangos, am y tro cyntaf, fod cyfnod hir o hinsawdd sefydlog a gwlyb wedi bodoli yn yr ardal hon o Affrica rhwng 130,000 a 90,000 o flynyddoedd yn 么l. Mi fyddai hyn wedi bod yn ddelfrydol ar gyfer ffyniant ac ymfudo o boblogaethau o鈥檙 cyfandir yn ystod y cyfnod, a argymhellir gan y dystiolaeth enetigol ddiweddar ar y mater.
Dywedodd Dr Dei Huws, geoffisegydd o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料: 鈥淩oedden ni鈥檔 ffodus fod ansawdd y data seismig yn eithriadol o dda. Roedd yn dangos fod y llyn wedi bod yn rhywle ble roedd dyddodiad cyson, distaw yn digwydd am filoedd o flynyddoedd, ond yna, roedd cyfnodau hir, ansefydlog. Ambell dro, mae鈥檙 llyn i weld wedi sychu鈥檔 gyfan gwbl, gan adael cramen o fwd caled; cyn i hwnna wedyn gael ei erydu gan sianeli o dd诺r, wrth iddi ail-ddechrau ar gyfnod gwlyb arall. Yna mae鈥檙 dyddodiad cyson, sefydlog yn ail-gydio鈥檙 system. A fel yna mae鈥檙 amgylchedd i鈥檞 weld yn cylchdroi yma.鈥
Dywedodd yr Athro Henry Lamb, 鈥淢ae鈥檙 consensws mwyaf diweddar yn y maes yn cynnig fod, mwy na thebyg, sawl episod o ymwasgaru o Affrica i Asia, a hynny鈥檔 dechrau mor fuan 芒 130,000 o flynyddoedd yn 么l; ac mae鈥檙 gwaith ymchwil newydd yma yn dangos yn glir fod yr hinsawdd yn briodol iawn ar y pryd i arwain at hyn.鈥
Arianwyd y gwaith gan NERC ac mae鈥檔 rhan o brosiectau eraill sydd yn cael eu rhedeg ar y cyd gan yr un t卯m ymchwil yn cydweithio 芒 gwyddonwyr o鈥檙 Almaen a鈥檙 UDA; a hyn i gyd er mwyn ehangu鈥檙 ymchwil ymhellach - yn ddaearyddol o fewn Affrica, ac ymhellach i鈥檙 gorffennol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2018