Tywysog Cymru yn tynnu sylw at enghraifft wych o'r arfer gorau mewn rheoli cynaliadwy yn y gwaith o ehangu ardaloedd morol gwarchodedig Ynysoedd y Cayman
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ mewn cydweithrediad â'r Nature Conservancy wedi cynorthwyo Adran yr Amgylchedd i ehangu system parciau morol Ynysoedd y Cayman, sef Tiriogaeth Dramor Brydeinig yn y Caribî, drwy brojectau a ariennir gan Fenter Dawrin, DEFRA*.
Cafodd y gwaith o ehangu parciau morol presennol Ynysoedd y Cayman ei gymeradwyo gan y Cabinet a'i gyhoeddi yn ystod ymweliad Tywysog Cymru ar 28 Mawrth. Nododd Gweinidog yr Amgylchedd y byddai'r "Ehangu hwn yn diogelu ein stociau morol lleol, yn ogystal â’r rhwydwaith hollbwysig y riffiau cwrel sy'n amgylchynu ein hynysoedd, a hynny am genedlaethau."
Tynnodd y Tywysog Siarl sylw at y ffaith y gallai Ynysoedd Cayman ddod yn enghraifft wych o'r arfer gorau wrth reoli adnoddau ar y tir ac yn y môr mewn modd integredig a chynaliadwy. Nododd fod dull integredig o'r fath nid yn unig yn hanfodol i ddiogelu ecosystemau, ond hefyd, yn enwedig yn achos Ynysoedd y Cayman, ei fod yn hanfodol i sicrhau bod sectorau economaidd yn parhau'n hyfyw yn yr hir dymor.
Eglurodd Gina Ebanks Petrie, Cyfarwyddwr Adran yr Amgylchedd "Sefydlwyd y parciau morol hyn o ganlyniad i flynyddoedd o ymchwil gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, sy'n bartneriaid i Adran yr Amgylchedd a Menter Darwin, ac yn dilyn trafodaethau rhwng sawl llywodraeth ddilynol, Adran yr Amgylchedd, y Cyngor Cadwraeth Cenedlaethol, cyrff anllywodraethol, rhanddeiliaid lleol eraill – gan gynnwys pysgotwyr – a'r cyhoedd yn gyffredinol"
Sefydlwyd parciau morol Ynysoedd y Cayman yn wreiddiol yn 1986, ond mae cynnydd mewn poblogaeth, twristiaeth, a datblygu arfordirol, ynghyd ag ymwybyddiaeth o broblemau ehangach yn y Caribî megis pwysau ar y diwydiant pysgota, maetholion yn llifo oddi ar y tir a newid yn yr hinsawdd wedi dangos bod angen gweithredu a gwneud gwaith i wella'r parciau. Golygodd yr ehangu fod arwynebedd yr ardaloedd lle ceir gwarchodaeth lem wedi cynyddu o 14% i 48% o'r dyfroedd arfordirol ar gyfartaledd, a bod arwynebedd yr ysgafell sy'n cael ei rheoli wedi cynyddu hyd at 54.6%.
Croy McCoy, sy'n Swyddog Ymchwil Morol yn Adran yr Amgylchedd, oedd yn cydlynu'r arolygon maes ac yn ddiweddar cyflwynodd ei PhD i Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar effeithiolrwydd ardaloedd morol gwarchodedig. Meddai "Petai'r cynigion yma i wella'r gwarchodfeydd morol heb gael eu rhoi ar waith, roedd risg y byddai'r riffiau cwrel yn dirywio ymhellach ac, yn y pen draw, byddai'r ecosystem wedi darfod amdani."
Mae'r system, sydd wedi'i rhannu'n barthau morol gwarchodedig, yn lleihau gwrthdaro a difrod drwy reoleiddio angorfeydd i gychod, plymio, pysgota, pysgota mewn safleoedd silio Grwperiaid, cymryd creaduriaid môr a rhyngweithio rhwng twristiaeth a bywyd gwyllt. Yn ogystal â darparu bwiau angori cychod o amgylch pob un o'r ynysoedd, mae ap ffôn o'r enw SIREN (System for Incident Reporting and Enforcement) yn darparu mapiau o'r ardaloedd, cyfeiriad uniongyrchol at y rheoliadau, a mynediad at ddata. Y cam nesaf yw i Lywodraeth Ynysoedd y Cayman ddrafftio rheoliadau, arwyddion a thaflenni newydd i roi gwybod i'r cyhoedd am hyn.
Roedd yr Athro John Turner o Ysgol Gwyddorau'r Eigion, a fu'n arwain project ymchwil Menter Darwin, DEFRA, sef y project a ddarparodd y dystiolaeth wyddonol ar gyfer cynllun y gwelliannau i'r parciau morol, yn falch iawn o weld bod ymdrechion yr ymchwil gydweithredol wedi cael cymaint o effaith. "Roedd yr ymchwil maes yn cynnwys myfyrwyr rhaglenni Meistr MSc mewn Diogelu'r Amgylchedd Morol a Bioleg Môr a oedd yn gweithio ar leoliad gydag Adran yr Amgylchedd gyda Croy a Swyddogion Ymchwil Ynysoedd y Cayman i gynnal yr arolygon a ddefnyddiwyd i lunio'r data sylfaenol am systemau'r riffiau cwrel a'u defnydd. Roedd tîm Menter Darwin yn cymryd rhan mewn cyfres o ymgynghoriadau a digwyddiadau i sicrhau bod yr angen am y gwelliannau i'r System Parciau Morol yn cael ei gefnogi gan gymunedau lleol o dan y faner 'Arbed ein Hyfory - Heddiw." Aeth ymlaen i ddweud: "Mae Ynysoedd y Cayman wedi parhau i arwain y byd o ran diogelu'r amgylchedd morol, ac yn y dyfroedd lleol o leiaf, maent wedi mynd y tu hwnt i'r alwad a wnaed gan y Deyrnas Unedig yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2018 ar i lywodraethau ddynodi 30% o'r moroedd yn Ardaloedd Morol Gwarchodedig erbyn 2030. Yn fwy na hynny, mae'r gwaith hwn wedi cyrraedd y targed uwch, sef sicrhau 50% o warchodaeth erbyn 2050, sy'n debygol o gael ei gynnig yn y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn Tsieina 2020."
*Grant Darwin Initiative 18-016, y Department for Environment Food & Rural Affairs (Defra): To Enhance an Established Marine Protected Area System, Cayman islands a grant EIDPO045: Assuring Engagement in Cayman’s Enhanced Marine Protected Area System i’r Athro John Turner, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ gyda The Nature Conservancy, UDA ac Adran yr Amgylchedd, Ynysoedd y Cayman
Ffigwr 3: Tîm Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn arolygu riffiau cwrel Ynysoedd y Cayman (J. Turner)
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2019