Un o raddedigion Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cyflwyno rhaglenni i Uned Byd Natur y BBC
Yn ddiweddar fe wnaeth Dr Ross Piper, 37, a fu'n astudio S诺oleg ac Ecoleg Anifeiliaid ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, ddychwelyd o ymweliad chwe wythnos 芒 Burma, lle bu鈥檔 gweithio fel cyflwynydd i Uned Byd Natur y BBC. Caiff y gyfres dair rhan ei darlledu ar Ddydd Gwener, Tachwedd 29ain ar BBC2 am 9pm.
Mae鈥檙 BBC wedi rhyddhau yn barod i ddenu gwylwyr.
Mae hefyd newydd gyhoeddi ei lyfr diweddaraf, Animal Earth: The Amazing Diversity of Living Creatures , a ddisgrifiwyd mewn broliant iddo fel 鈥渦nbiased exploration of animal diversity illustrated with stunning photos.鈥
Meddai Ross, sy'n wreiddiol o Redditch ac a raddiodd o Fangor yn 1998: "Pan oeddwn yn gweithio ar fy llyfr diweddaraf fe gefais rai syniadau am raglen fyd natur, felly cysylltais ag Uned Byd Natur y BBC ym Mryste. Cefais wahoddiad i fynd yno am sgwrs ac ar y diwedd fe gefais glyweliad ar ffilm.
"Fe wnaeth cynhyrchydd a oedd wrthi'n cynllunio ymweliad 芒 Burma i ffilmio cyfres fyd natur weld fy nghlyweliad a gofynnodd i mi fod yn un o gyflwynwyr y gyfres - roedd yn wych! I rywun fel fi, allwn i ddim cael dim byd gwell na chwilio am greaduriaid mewn coedwigoedd trofannol."
Meddai ymhellach am yr amser a dreuliodd yn Burma: "Roedd yn chwe wythnos galed iawn. Llawer o waith corfforol - cerdded am filltiroedd efo offer trwm, dringo coed a siarad am oriau bob dydd. Fe ffilmiwyd tua 300 awr o ddeunydd ar gyfer tair pennod awr yr un, felly nid yw'r rhan fwyaf o'r hyn rydych yn ei wneud yn cael ei ddefnyddio yn y fersiwn derfynol.
"Mae yna gymaint o waith cynllunio a phethau eraill i鈥檞 gwneud unwaith y mae'r camer芒u wedi'u diffodd. Roedd yn goblyn o dasg. Roedd cael pobl i lefydd gwirioneddol ddiarffordd ynddo'i hun yn anodd iawn ac roedd swyddogion llywodraeth Burma'n cadw golwg arnom drwy'r amser i wneud yn si诺r nad oeddem yn crwydro oddi ar y daith a gymeradwywyd i ni. Mae gen i lawer iawn o barch at y bobl tu 么l i'r llenni sy'n trefnu rhaglenni fel y rhain."
Meddai Ross am ei lyfr: "Mae anifeiliaid wedi fy nghyfareddu i ers pan alla i gofio. Pan ydych yn dechrau astudio s诺oleg yn fanwl rydych yn sylweddoli mor rhyfeddol o amrywiol ydi anifeiliaid, nid yn unig o ran eu golwg, ond hefyd yn y ffordd y maen nhw'n byw. Roeddwn eisiau dangos i bobl mewn ffordd wyddonol a chyfoes, a chyda digonedd o luniau trawiadol, bod anifeiliaid yn llawer mwy na'r stwff rydych yn ei weld ar y teledu. Mae anifeiliaid yn hardd, rhyfedd a rhyfeddol!"
Ychwanegodd am Fangor: 鈥淵 peth gorau am Fangor oedd bod cymaint o fywyd gwyllt a chynefinoedd amrywiol yn y cyffiniau. Roedd yna lawer o staff yn yr hefyd a oedd yn ysbrydoli ac annog myfyrwyr ifanc."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2013