Ydy ymchwilwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi helpu datrys yr argyfwng siocled?
Mae carwyr siocled o gwmpas y byd yn ymwybodol ers ychydig o flynyddoedd bod eu hoff ddanteithfwyd melys o dan fygythiad. Mae鈥檔 bosib bod ymchwilwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi dod o hyd i ateb gallai helpu ddatrys y鈥檙 argyfwng siocled drwy ddefnyddio mango gwyllt fel dewis newydd yn lle menyn coco.
Mae llai a llai o goco yn cael ei gynhyrchu drwy鈥檙 byd o ganlyniad i gyfuniad o ffactorau gan gynnwys methiant cnydau, afiechyd a phlanhigfeydd sy'n heneiddio, gan arwain at brisiau cyfnewidiol a phrinder cyflenwad. Menyn coco yw'r menyn pur a dynnwyd o ffa coco ac mae'n un o'r brasterau naturiol unigryw y mae galw mawr amdanynt gan y diwydiannau bwyd, fferyllol a chosmetig ac mae鈥檔 elfen bwysig yn y diwydiant siocled yn arbennig. Ar hyn o bryd menyn coco yw'r unig fraster naturiol sydd ar gael yn fasnachol ac sydd yn gyfoethog mewn asidau brasterog dirlawn a monoannirlawn. Ar ben hynny, mae menyn coco yn un o'r drutaf o blith yr holl frasterau ac olewau trofannol ac yn 么l Sefydliad Rhyngwladol Coco (2015), mae pris menyn coco wedi mwy na dyblu rhwng 2005 a 2015. Mae hyn i gyd yn golygu bod angen dybryd i鈥檙 diwydiant siocled ddod o hyd i ddewisiadau eraill o ansawdd uchel oherwydd rhagwelir y bydd cynnydd o 30% yn y galw am goco erbyn 2020.
Mae astudiaeth ddiweddar a gyhoeddwyd yn wedi archwilio potensial mango gwyllt (Mangifera sylvatica Roxb.), rhywogaeth ffrwythau o dde-ddwyrain Asia na fu fawr o ddefnydd ohono hyd yma, i ddarparu ffynhonnell arall o fenyn ar gyfer y diwydiant. Dangosodd dadansoddiadau bod gan fenyn mango gwyllt broffil cemegol, ffisegol a thermol tebyg iawn i fenyn coco. Fodd bynnag, mae gan fenyn mango gwyllt sawl priodwedd sy鈥檔 ei wneud yn well na menyn coco. Mae鈥檔 cynnwys mwy o driglyseridau solet (SOS) a ddefnyddir ar gyfer gwella menyn coco meddal, sy'n dangos bod ganddo'r potensial i fod yn wellh盲wr menyn coco. Mae menyn mango gwyllt yn cynnwys mwy o leithder na menyn coco, ac mae corff cynyddol o dystiolaeth sy鈥檔 dangos bod menynau sy鈥檔 cynnwys mwy o leithder yn cynhyrchu siocled braster isel, a all helpu i atal gordewdra, afiechydon y galon, clefyd siwgr, str么c ac arthritis. Mae gan fango gwyllt y fantais ychwanegol o fod yn ffrwyth gyda chnewyllyn mawr (40-50% o'i m脿s corff) ac felly鈥檔 cynnwys cyfran fwy o fraster (9-14%) na'r mango domestig sydd 芒 chnewyllyn llai.
Meddai Sayma Akhter, y prif awdur a myfyriwr 么l-raddedig yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth: 鈥楳ae 鈥渕ango gwyllt鈥 yn un o'r rhywogaethau hynny a elwir yn 鈥渞hywogaethau Sinderela鈥 oherwydd bod ei botensial go iawn heb ei wireddu. Trwy ddangos ei werth ychwanegol gwirioneddol fel yr ydym wedi gwneud yn yr astudiaeth hon, gallem ei symud o fod yn ffrwyth dinod i鈥檙 brif ffrwd cynhyrchu. Gyda chefnogaeth cyrff llywodraethol ac anllywodraethol, gallai diwydiannau ar raddfa fach gael eu sefydlu er mwyn creu ffynhonnell incwm newydd ar gyfer pobl leol. Mae llawer o nwyddau newydd eraill y gellir eu cael o ffrwythau sydd heb eu defnyddio ryw lawer ac sydd yn dal i aros am sylw priodol.鈥
Meddai鈥檙 Athro Morag McDonald, Pennaeth Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ac un o awduron yr adroddiad: 鈥淎r ben eu defnyddio mewn diwydiant, mae ffrwythau gwyllt fel y mango yn ffynhonnell bwysig o fwyd, meddyginiaeth ac incwm ar gyfer preswylwyr gwledig, ond mae eu nifer yn lleihau o ganlyniad i ffactorau megis colli coedwigoedd. Gall ychwanegu gwerth at gynhyrchion llai eu defnydd drwy eu prosesu i wneud cynnyrch sydd 芒 gwerth yn y farchnad greu cymhelliant gwerthfawr i warchod rhywogaethau o'r fath, a helpu i greu ffynonellau incwm amgen a lleihau tlodi aelwydydd ".
Ariannwyd yr ymchwil hon drwy Raglen Ddoethurol ar y Cyd Erasmus Mundus FONASO (Forest a Natur ar gyfer Cymdeithas) yr Undeb Ewropeaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2016