Ymchwil i ailgyflwyno'r Lyncs yn ennill gwobr myfyriwr y Deyrnas Unedig
Dyfarnwyd Gwobr Myfyriwr Meistr y Flwyddyn gyntaf y Deyrnas Unedig i fyfyriwr y mae ei ymchwil wedi gwneud newyddion cenedlaethol a rhyngwladol gan wefan .
Cynhaliodd Thomas Ovenden, sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Stirling, ei MSc mewn Coedwigaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Roedd ei broject ymchwil meistr ar botensial ailgyflwyno'r lyncs Ewrasiaidd, rhywogaeth sydd wedi diflannu ym Mhrydain ers dros 1,000 o flynyddoedd.
Datgelodd canlyniadau Tom fod gan yr Alban ddigon o gynefin cysylltiedig i roi siawns realistig o sefydlu poblogaethau o lyncs, ar yr amod bod y lyncs yn cael ei ailgyflwyno i safle addas.
Yn eu beirniadaeth, roedd beirniaid y Gwobrau 脭l-raddedig yn cydnabod effaith gwaith Tom, gan ddweud:
鈥淵chydig iawn o fyfyrwyr Meistr all honni eu bod wedi cael effeithiau byd go iawn yn ystod eu gradd Meistr. Ond cafodd Thomas sylw yn y wasg genedlaethol i'w broject i ailgyflwyno'r lyncs i'r Alban, a hynny gyda'i radd Meistr yn brofiad cyntaf o addysg uwch iddo.鈥
Mae Tom yn derbyn gwobr ariannol o 拢500 am ei waith caled, ei ymroddiad a'i ymrwymiad, a bydd yn ymddangos ar dudalennau blog y cwmni, gan arddangos ei lwyddiant hyd yn hyn, ei gais buddugol, a'i obeithion ar gyfer ei yrfa yn y dyfodol.
Cafodd Tom fynediad uniongyrchol i'w radd MSc mewn Coedwigaeth Amgylcheddol ar sail ei brofiad mewn cadwraeth amgylcheddol, gan adlewyrchu ethos cynhwysol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Yn 么l ei oruchwyliwr ymchwil, yr Athro John Healey, llwyddodd Tom i ffynnu o ddechrau ei gwrs gradd a sefydlodd ei hun yn gyflym fel un o'r aelodau o'r safon uchaf, mwyaf ymroddedig o'r dosbarth, lle'r oedd ganddo r么l gatalytig ymhlith y gr诺p myfyrwyr rhyngwladol o wahanol ddiwylliannau. 鈥淢ae MSc 香港六合彩挂牌资料 mewn Coedwigaeth Amgylcheddol yn darparu ar gyfer myfyrwyr sy'n trosi i goedwigaeth o ddisgyblaeth arall, a'r rhai yn y sector amgylcheddol sydd, fel Tom, eisiau datblygu eu gwybodaeth am goedwigaeth鈥, meddai'r Athro Healey. 鈥淢ae pwyslais cryf ar 鈥渄dysgu trwy wneud鈥 ymarferol sydd 芒 chysylltiad agos 芒'r datblygiadau diweddaraf mewn theori, rheoli a pholisi coedwigoedd. Mae Tom yn enghraifft wych o raddedigion y radd hon sydd wedi mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus yn y sector coedwigaeth ledled y byd.鈥
Ers hynny mae Tom wedi llwyddo i ennill efrydiaeth PhD bwysig ym Mhrifysgol Stirling, a ariannwyd ar y cyd ag asiantaeth y llywodraeth, Forest Research.
Cyhoeddwyd ymchwil Tom ar ailgyflwyno'r lyncs Ewrasiaidd i'r Alban yn y cylchgrawn uchel ei barch Biolegical Conservation ac mae wedi denu llawer o ddiddordeb gan gyfryngau newyddion a sefydliadau cadwraeth ym Mhrydain a gweddill y byd. Er mwyn hyrwyddo effaith yr ymchwil hon ymhellach, mae Tom wedi cyhoeddi briff polisi byr i esbonio'r goblygiadau ar gyfer polisi ac ymarfer cadwraeth.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019