Ymchwilwyr coedwigaeth o bob cwr o鈥檙 byd yn cynadledda ym Mangor.
Cynhaliodd Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth gynhadledd flynyddol consortiwm Coedwigoedd, Natur a'r Gymdeithas (FONASO) wythnos diwethaf. Maeyn rhaglen gyda'r gorau yn y byd a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n anelu at addysgu arweinwyr y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a rheolwyr a fydd yn gweithio ym maes rheoli coedwigoedd cynaliadwy a rheoli natur, mewn rhanbarthau trofannol a chymedrol, er budd cymdeithasol ehangach. Cynigir rhaglen FONASO gan gonsortiwm o saith prifysgol: (i) Prifysgol Copenhagen, Denmarc (Cydlynwyr), (ii) Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, DU (iii) Technische Universit盲t Dresden, yr Almaen, (iv) AgroParisTech, Ffrainc, (v) Prifysgol Padova, yr Eidal (vi) Swedish University of Agricultural Sciences, Sweden, a (vii) Phrifysgol Gottingen, yr Almaen. Bydd y prifysgolion yn gweithio mewn partneriaeth ymchwil gyda鈥檙 (i) Centre for International Forestry Research (CIFOR), Indonesia, (ii) Prifysgol British Columbia, Canada, (iii) Prifysgol James Cook, Awstralia, (iv) World Agroforestry Centre (ICRAF), Cenia, a (v) Dalhoff Larsen & Hornemann, Denmarc.
Mae'r rhaglen wedi cynnig ysgoloriaethau i >40 o fyfyrwyr PhD o >20 o wahanol wledydd a ddaeth i'r gynhadledd yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 rhwng 20 a 22 Mai 2015, ynghyd ag aelodau o gyfadrannau'r prifysgolion sy'n cymryd rhan. Dywedodd cydlynydd y rhaglen ym Mangor, yr Athro, "mae'r rhaglen hon wedi bod yn gyfle gwych i ni recriwtio myfyrwyr doethurol 芒 chymwysterau o lefel uchel sydd wedi cyfoethogi ein partneriaethau ymchwil gyda phrifysgolion Ewropeaidd a'n sefydliadau partner, ac wedi arwain at hyfforddi cadre byd-eang o ymchwilwyr coedwigaeth."
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2015